Mae Alwyn yn gwbl gywir i
dynnu sylw at broblemau yn y polau YouGov sy'n cael eu cyhoeddi gan ITV - er nad yw ei awgrym (ysgafn gobeithio) y dylai cenedlaetholwyr geisio gwyrdroi'r pol trwy danysgrifo i gymryd rhan ynddo, a honni eu bod yn darllen y
Mirror yn apelio rhyw lawer ataf i. Yn fy marn bach i 'dydi polau piniwn ddim yn effeithio rhyw lawer ar bolau go iawn yn y rhan fwyaf o amgylchiadau (er bod eithriadau). Oes yna unrhyw un yn cofio'r Lib Dems yn polio 33% yn ystod ymgyrch etholiad cyffredinol y llynedd?

Fel mae Alwyn yn nodi, mae'r ganran sy'n dweud eu bod am bleidleisio i Lafur cryn dipyn yn is yn y ffigyrau craidd nag yw erbyn i'r ffigyrau gael eu trin er mwyn ceisio eu gwneud yn gynrycholiadol o farn sampl cytbwys o'r etholwyr. Mae
YouGov yn gofyn i bobl pa bapur maent yn ei ddarllen, ac maent yn pwyso pob pleidlais yn eu pol yng ngoleuni yr atebion hynny. Credant eu bod yn gwybod faint sy'n darllen pob papur mewn gwirionedd, ac maent yn gwybod bod y papur mae pobl yn ei ddarllen yn rhoi awgrym cryf o'r blaid maent yn pleidleisio iddi.
A chymryd y pol
YouGov diweddar i ystyriaeth mae'n amlwg bod eu dull o bwyso pleidleisiau i weddu patrymau darllen papur newydd yn cynyddu'r ganran Llafur yn sylweddol iawn. 'Rwan does yna ddim o'i le yn yr arfer o gynyddu gwerth rhai pleidleisiau a lleihau gwerth rhai eraill - mae'r cwmniau polau i gyd yn gwneud hyn mewn rhyw ffordd neu'i gilydd er mwyn gwneud eu canlyniadau yn gywirach. Ond mae'r ffaith bod y dull o ddefnyddio arferion darllen papur pobl yn anarferol iawn a bod y pwysiad tuag at Lafur mor drwm yn codi nifer o gwestiynau.
Y brif broblem ydi bod sampl
YouGov yn ymddangos i fod anghynrychioladol iawn o'r boblogaeth yn gyffredinol - a'r mwyaf y camau mae'r cwmni yn gorfod eu cymryd i gywiro sampl amhriodol, y mwyaf y potensial i greu canlyniadau nad ydynt yn cynrychioli'r wir farn wleidyddol ar lawr gwlad. Y broblem eilradd ydi'r graddau mae
YouGov yn deall y berthynas rhwng patrymau pleidleisio a phatrymau darllen papurau newydd yng Nghymru - ac yn arbennig felly mewn etholiadau Cynulliad. Ar gyfer patrymau pleidleisio San Steffan mae model
YouGov wedi ei greu.
O graffu yn fanylach ar fanylion y pol mae'n amlwg bod rhai o'r canfyddiadau yn awgrymu camgymeriadau polio (er fy mod yn derbyn bod
margin of error lled fawr i is setiau pob pol bron). Er enghraifft ydi hi yn gredadwy mewn gwirionedd bod cefnogaeth Llafur cyn gryfed yng Ngorllewin a Chanolbarth Cymru - gyda'i phedair etholaeth wledig sydd a chefnogaeth Lafur isel iawn- a Chanol De Cymru drefol? Ydi hi'n gredadwy bod cefnogaeth Plaid Cymru yn gryfach yng Ngorllewin De Cymru lle nad oes ganddi cymaint ag un aelod Cynulliad etholaethol nag yw yn y Canolbarth a'r Gorllewin lle mae ganddi bedwar? Ydi hi'n gredadwy bod unarddeg gwaith cymaint o gefnogaeth i'r Blaid Werdd yng Nghanol De Cymru sefydlog ei phoblogaeth na sydd yn y Gorllewin a'r Canolbarth, gyda'i holl fewnfudwyr sy'n chwilio am ffordd amgen o fyw? Ydi hi'n bosibl i bleidlais y Lib Dems chwalu ar hyd a lled Prydain, ond cynyddu yng Ngogledd Cymru? Ydi hi'n bosibl bod cefnogaeth y Lib Dems wedi syrthio o 12.4% i 1% yng Ngorllewin De Cymru, ac mai sedd Peter Black ydi'r un lleiaf saff ymysg y Lib Dems sy'n ceisio cael eu hail ethol, yn hytrach na'r saffaf?
'Rwan peidiwch a cham ddeall - 'dwi'n falch bod cwmniau o'r diwedd yn fodlon polio yn gyson yng Nghymru - 'dwi'n dymuno'n dda i'r cyfuniad
ITV / YouGov. 'Dwi'n falch iawn bod polau tracio misol yn cael eu cynnal yng Nghymru o'r diwedd. 'Does yna neb yn fwy tebyg na fi o chwerthin ar ben gwleidyddion sy'n gwneud mor a mynydd o bolau sy'n dweud yr hyn maent eisiau ei glywed tra'n wfftio'n llwyr rhai sydd a neges nad ydynt yn ei hoffi. Mi fyddwn i hefyd yn derbyn bod stori fras polio
YouGov - cynnydd i Lafur a chwalfa i'r Lib Dems yn debygol o fod yn wir. Ond 'dwi'n meddwl ei bod yn deg nodi hefyd bod gwaith i'w wneud o hyd ar fethodoleg y cwmni yng nghyd destun etholiadau Cynulliad. Mi fydd yr etholiadau o ddefnydd iddynt yn hyn o beth - bydd yn feincnod i fesur effeithiolrwydd eu methodoleg arni. Mae'r 'wyddoniaeth' o bolio yn ifanc yng Nghymru o hyd.
Gellir gweld y data moel
yma, a sylwadau politicalbetting.com
yma.