Showing posts with label Ai. Show all posts
Showing posts with label Ai. Show all posts

Friday, June 26, 2009

Yr Arwisgiad, G'narfon a Llais Gwynedd

Mae'n ddeugain mlynedd ers yr arwisgiad diwethaf, a bu dadlau yn y wasg, os nad yn unrhyw le arall, ynglyn a'r cwestiwn o gynnal un arall.

Mi wna i ddechrau trwy ddatgan yr hyn sy'n amlwg - 'dwi'n erbyn cynnal yr arwisgiad eto yng Nghaernarfon, Caerdydd nag mewn unrhyw ddinas, dref neu bentref arall yng Nghymru.

Mae dau reswm am hyn. Yn gyntaf, o lle 'dwi'n sefyll yn wleidyddol mae'n weithred gyfangwbl wyrdroedig i unrhyw genedl ddathlu rhywbeth a ddigwyddodd yn sgil difa ei strwythurau gwleidyddol cynhenid ac a arweiniodd at ei israddio i statws rhanbarthol am saith gan mlynedd.



Yn ail mae gen i gof plentyn o fyw mewn pentref ar gyrion Caernarfon yn 1969, ac roedd yn gyfnod cwbl anymunol a chynhenus, gyda theuluoedd, cyfeillion a chymdogaethau yn cael eu hollti. Fyddwn i ddim yn dymuno'r un peth ar unrhyw ardal yng Nghymru.

Os ydi'r teulu brenhinol eisiau cynnal rhyw seremoni neu'i gilydd yn eu gwlad eu hunain, yna mae hynny rhyngddo nhw a'u pethau.

Mae unig gynrychiolydd Llais Gwynedd ar Gyngor Tref Caernarfon yn anghytuno efo fi. Yn ol fy nghopi cyfredol o Golwg (nid y ffynhonell mwyaf dibenadwy mae'n rhaid cyfaddef) mae Anita Kirk yn dweud - Fy hun d'wi'n meddwl fysa fo'n beth da. Does yna ddim busnes yn y dre 'ma - fysa fo'n dod a lot o fusnes fewn i dre'. Mae'n amlwg ei bod yn poeni y gallai'r sbloets fawr fynd i'r De - Dydan ni ddim isho fo fynd i Gaerdydd - i ochrau yma ddyla fo ddod, i Gaernarfon. fodd bynnag 'dydi hi ddim yn colli'r cyfle i sgorio pwynt gwleidyddol - Fysa pobl Gaernarfon a'r stadau i gyd wrth eu bodd. Fysa Plaid ddim, ond fysa pobl Dre wrth eu boddau.

A waeth i ni fod yn blaen, mae'r sylw olaf yn eithaf dadlennol - mae yna elfennau o'r traddodiad Prydeinig lleol yn y gorffennol wedi gweld digwyddiadau fel hyn fel ffordd o rwbio trwynau'r sawl sy'n perthyn i'r traddodiad cenedlaetholgar yn y baw - troi North Road yn eu Garvaghy Road bach nhw eu hunain os y mynwch.

'Rwan nid bwriad y darn yma ydi ymosod ar Anita - mae ganddi hi cymaint o hawl i'w barn na sydd gen i. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o wledydd annibynnol nid oes gan Gymru naratif cytuniedig sy'n diffinio pwy a beth ydym ni. Mae gennym dair neu bedair naratif gwahanol sy'n cystadlu efo'i gilydd. Mae naratif Anita wedi ei seilio ar ganfyddiad cwbl wahanol o'r hyn ydyw Cymru i'r canfyddiad sydd gen i.

Gyda llaw 'dydi defnyddio termau fel 'brad', fel y gwnaethwyd mor aml yn ol yn 68 a 69 gan bobl o fy nhraddodiad i ddim yn briodol mewn sefyllfa fel hyn - pan rydym yn fradwyr cenedlaethol, rydym yn bradychu dehongliad cytunedig o genedligrwydd. Lle nad oes canfyddiad cytunedig, dydi'r term na'r cysyniad ddim yn rhai addas.

Bu Anita'n gyson ers degawdau ynglyn a'r math yma o beth - yn wir roedd yn dweud y drefn wrth glerc y Cyngor Tref ychydig wythnosau'n ol oherwydd nad oedd baner yr Undeb yn hongian uwch ben yr Institiwt ar benblwydd swyddogol y Frenhines. 'Dwi'n anghytuno efo, ac yn wir 'dwi'n casau'r fersiwn o Gymru mae hi'n ei harddel - ond fel y dywedais, mae ganddi hawl i goleddu'r fersiwn honno, ac nid yw bod yn driw iddi yn ei gwneud yn fymryn gwaeth person.

'Dydw i ddim* chwaith yn ceisio awgrymu am funud y bydd yna fflot yn llawn o gynghorwyr Llais Gwynedd yn crechwenu tra'n gwisgo'n debyg i selogion y Last Night at the Proms ac yn bloeddio God Save the Queen a Land of Hope & Glory tra'n chwifio fflagiau'r Undeb wrth ddilyn y Rolls Royces brenhinol ar eu taith araf i fyny Ffordd y Gogledd, tua'r gorllewin i gyfeiriad y dref gaerog a chanol G'narfon - ac yn wir tua chalon y genedl.

I'r gwrthwyneb, 'dwi'n gwybod bod un neu ddau ohonynt yn edrych ar y byd o'r un perspectif na fi. Y pwynt ydi bod ganddynt gynrychiolwyr etholedig fyddai'n ddigon bodlon sefyll ar y fflot. Oherwydd mai plaid wrth Plaid Cymru ydynt yn annad dim arall, gallant ddenu arch Brydeinwyr a chenedlaetholwyr Cymreig rhonc. Efallai na allant eu rhoi ar yr un fflot brenhinol, ond gallantyn hawdd eu cael i eistedd a phleidleisio efo'i gilydd mewn siambr cyngor.

Mae'r blog yma wedi dadlau ar sawl achlysur bod gwleidyddiaeth Cymru yn newid, ac y bydd yn esblygu i fod yn un sydd wedi ei nodweddu mwyfwy gan hollt rhwng gwleidyddiaeth cenedlaetholgar a gwleidyddiaeth gwrth genedlaetholgar (hy Prydeinig) yn y dyfodol. Bydd y wleidyddiaeth sydd wedi dominyddu Cymru am ganrif - yr un sydd wedi ei seilio ar ganfyddiad y De diwydiannol o'r hyn yw Cymru - yn llai pwysig nag y bu.

Efallai bod y canfyddiad hwnnw yn un cywir, ac efallai nad yw. Ond y naill ffordd neu'r llall mae'r hollt eisoes yn bodoli, ac mae wedi bodoli ar rhyw ffurf neu'i gilydd trwy'r canrifoedd. Mae hefyd yn bodoli yng Ngwynedd yn gliriach nag yn unrhyw ran arall o'r wlad. Ac eto - ac eto nid oes gan Lais Gwynedd unrhyw farn ar y mater. Mae o leiaf un o'u cynrychiolwyr etholedig yn dadlau'n gryf o blaid hawl y wladwriaeth Brydeinig i reoli Cymru ac i wthio eu symbolau a'u defodau arnom, tra bod eraill yn amlwg yn erbyn, ond yn fud.

Tybed pam bod cenedlaetholwyr Llais Gwynedd yn ymddangos yn fud ynglyn a'u cenedlaetholdeb nhw, tra bo'r gwrth genedlaetholwyr yn eu mysg mor barod i ddatgan eu Prydeindod?

* Mae'r darn yma wedi ei dduo er mwyn rhoi cymorth i ohebwyr Golwg.