Showing posts with label Catalynia. Show all posts
Showing posts with label Catalynia. Show all posts

Saturday, October 29, 2011

Ymweliad a Chatalonia

Nid blog gwyliau ydi Blogmenai wrth gwrs, felly 'dydw i ddim yn cyhoeddi lluniau gwyliau yn aml iawn, ond gan mai i Gatalonia es i ar fy ngwyliau, a chan bod y dyddiau hyn yn rhai diddorol o ran gwleidyddiaeth Catalonia, mi wnawn ni eithriad bach.

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi bod gwleidyddiaeth y wlad yn weledol iawn os ewch  oddi wrth y Costa Brava a gweddill yr arfordir.  Baneri Catalonia, a baneri annibyniaeth (y L'Estelada Vermella a'r Estelada Blava)  yn cael eu crogi o falconi fflatiau ydi un o'r nodweddion gweledol hynny.







Nodwedd arall ydi'r graffiti gwleidyddol sy'n dew ar hyd llawer o ardaloedd trefol.  Roedd graffiti felly yn gyffredin iawn yng nghefn gwlad Cymru ers talwm wrth gwrs - ond Byd arall llawer llai parchus, a mwy diddorol nag un heddiw oedd hynny.





Mae'r murlun gwleidyddol yn un o nodweddion gwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon - 'does yna ddim cymaint ohonynt yng Nghatalonia, a 'dydyn nhw ddim mor grefftus na'r rhai Gwyddelig, ond maent i'w gweld yma ac acw.



Ac mae annibyniaeth yn bwnc llosg yn y papurau newydd - polau piniwn a'r brif ddadl economaidd tros adael yr undeb - y gost i Catalonia o aros - sydd dan sylw yma.


Er nad ydi annibyniaeth yn bwnc llosg yng Nghymru fel ydyw yng Nghatalonia a'r Alban, mae'r ddadl ym Nghatalonia yn berthnasol i ni yma. Mae gwledydd tebyg yn tueddu i ddilyn yr un trywydd yn aml. Er enghraifft arweiniodd dymchweliad y Bloc Dwyreiniol yn negawdau olaf y ganrif ddiwethaf at greadigaeth bedair gwladwriaeth ar hugain newydd yn Nwyrain Ewrop.

Mae Cymru'n perthyn yn llawer nes at Gatalonia nag at wledydd Dwyrain Ewrop wrth gwrs - mae'r ddwy wlad yn endidau yng Ngorllewin Ewrop na ddaeth yn wladwriaethau yn y dyddiau hynny pan rannodd y cyfandir yn gyfres o wladwriaethau, ond a lwyddodd i gynnal hunaniaeth annibynnol serch hynny.

A dyna pam bod hynt a helynt gwleidyddol gwledydd di wladwriaeth eraill yn Ewrop o ddiddordeb i ni yma yng Nghymru. Os ydi datganoli yn arwain at annibyniaeth mewn gwledydd eraill yng Ngorllewin Ewrop, mae'n ddigon posibl y bydd yr un peth yn digwydd yma maes o law.

Sunday, December 13, 2009

Refferendwm Catalunya


Os ydych yn cael y rhan fwyaf o'ch newyddion gan y BBC neu'r cyfryngau prif lif ni fyddwch yn gwybod bod refferendwm ar annibyniaeth yn Catalunya heddiw. Mae yna un.

Yn anffodus dydi hi ddim yn un swyddogol - dydi cyfansoddiad Sbaen ddim yn caniatau i'r cwestiwn gael ei ystyried. Fodd bynnag mae llawer o drefi yn pleidleisio mewn refferendwm answyddogol heddiw - 700,000 o bobl i gyd. Mae refferendwm mewn rhai llefydd eisoes wedi digwydd ac mae mwy wedi eu trefnu yn ystod y flwyddyn newydd.

Gallwch ddilyn canlyniadau heno yn fyw ar flog penigamp Syniadau, ac mae Jill Evans hefyd yn blogio'n fyw o Catalunya.