Mae'r stori yn hen braidd - ond mi ddyweda i air neu ddau ynglyn a hi beth bynnag - 'dwi ddim wedi bod mewn sefyllfa i flogio am ychydig ddyddiau.
Mae canfyddiad y pol yn torri'n groes i'r hyn yr oeddwn i yn rhyw ddarogan ychydig ddyddiau yn ol. Wele'r manylion:
ETHOLAETHAU:
Llafur: 48% (+16)
Ceidwadwyr: 20% (-2)
Plaid Cymru: 19% (-3)
Democratiaid Rhyddfrydol: 7% (-8)
Eraill: 7% (lawr 1)
RHANBARTHAU:
Llafur: 45% (+15)
Ceidwadwyr: 20% (-2)
Plaid Cymru: 18% (-3)
Democratiaid Rhyddfrydol: 5% (-7)
UKIP: 5% (-1)
Plaid Werdd: 4% (dim newid)
Eraill: 4% (-6)
Mae'r ffigyrau yn y cromfachau yn cymharu newid ers yr etholiad Cynulliad diwethaf yn 2007. Petai'r ffigyrau hyn yn cael eu gwireddu mewn etholiad go iawn - ac yn cael eu gwireddu yn unffurf ar draws y wlad byddai Llafur yn gwneud yn well o lawer nag a wnaethant mewn unrhyw etholiad Cynulliad blaenorol - a byddai'r newyddion yn ddrwg i bawb arall. Mae'n debyg y byddai'r Toriaid yn colli pob sedd uniongyrchol ag eithrio Mynwy, ac mi fyddai'r Blaid yn colli Aberconwy a Llanelli. Mae'n debyg y byddai'r Lib Dems yn colli Canol Caerdydd i Lafur a Maldwyn i'r Toriaid. Ni fyddai Brycheiniog a Maesyfed yn gwbl ddiogel chwaith. Yn waeth byddai gan Lafur gyfle eithaf o ennill sedd rhestr yn y De Ddwyrain, ac o bosibl un yn y Canolbarth hefyd. Byddai hyn yn rhoi 34 - 35 sedd allan o'r 60 iddynt - digon i reoli yn hawdd.
Rwan mae un neu ddau o bwyntiau i'w gwneud cyn mynd ymlaen. Yn gyntaf does yna ddim llawer o arwyddocad i'r newid lle misol rhwng y Toriaid a Phlaid Cymru. Mae margin for error o 3% i bolau YouGov - ac mae'r gwahaniaeth rhwng y ddwy blaid pob amser yn llai na hynny. Yr hyn sy'n glir ydi bod pleidlais y Lib Dems wedi chwalu, bod y Blaid a'r Toriaid yn agos at ei gilydd, a bod Llafur wedi cynyddu eu cefnogaeth yn sylweddol ac yn gyson. Mae gan Lafur hanes cyson o adeiladu cefnogaeth yn gyflym yng Nghymru pan nad ydynt mewn grym yn san Steffan - byddwn yn dychwelyd at hyn mewn blogiad arall.
Yr her i'r pleidiau eraill felly ydi gwneud y gorau o dirwedd etholiadol newydd sy'n ffafriol iawn i Lafur - ac mae tirwedd felly yn un anodd i wleidydda ynddo. O safbwynt y Blaid mi fyddwn yn cynnig cyngor canlynol:
a) Gwneud y gorau o'r manteision sydd gennym. Mae trefniadaeth y Blaid yn well nag un Llafur mewn nifer dda o etholaethau. Mae ymgyrch llawr gwlad yn fwy tebygol o fod yn effeithiol yn erbyn tueddiadau cenedlaethol mewn etholiad Cynulliad nag yw mewn etholiad San Steffan - 'dydi'r cyfryngau ddim yn gyrru'r ymgyrch i'r un graddau.
b) Mae ymgeiswyr y Blaid yn aml o ansawdd gwell na'u gwrthwynebwyr Llafur. Dylid seilio rhan o'r ymgyrch ar bersonoliaethau a record ymgeiswyr. Eto mae ffactorau lleol a phersonol yn bwysicach mewn etholiadau Cynulliad na mewn rhai San Steffan.
c) Mae honni bod buddugoliaeth mewn etholaeth yn sicr yn ennill pleidleisiau mewn etholiadau pan mae gwynt cryf y tu ol i blaid, ond 'dydi hynny ddim yn wir mewn etholiadau mwy anodd. Mewn amgylchiadau felly mae derbyn bod posibilrwydd o golli yn gallu bod yn fwy effeithiol o safbwynt etholiadol - gall annog pobl gwrth Lafur i bleidleisio'n dactegol i gadw Llafur allan.
ch) Mae creu naratif cenedlaethol gwrth Lafur yn anodd mewn amgylchiadau lle mae'r Blaid wedi rhannu grym efo nhw am bedair blynedd. 'Does yna fawr o bwrpas beio Llafur am yr argyfwng cyllidol chwaith - mae hynny'n hen hanes mewn termau etholiadol, ac mae'n amherthnasol i'r sefyllfa sydd ohoni yng Nghymru. Fy nheimlad i ydi y dylid pwysleisio poblogrwydd cymharol y llywodraeth glymbleidiol yng Nghaerdydd a cheisio creu naratif ei fod yn well trefniant na'r un blaenorol lle'r oedd Llafur mewn grym ar eu pennau eu hunain. Wedi'r cwbl roedd y llywodraeth hwnnw yn un hynod amhoblogaidd. Mae yna ddeunydd crai i weithio gyda fo - y gwahanol gynlluniau i gau ysbytai lleol rhwng 2003 a 2007 er enghraifft. Mae hefyd yn ffaith i'r bwlch enwog rhwng gwariant ar ysgolion yng Nghymru a Lloegr ddatblygu yn llwyr yn ystod y cyfnod hwnnw.
Mae naratif wedi ei seilio ar y cwestiwn - ydych chi yn eu trystio nhw i redeg y wlad ar eu pennau eu hunain? - yn effeithiol weithiau mewn sefyllfaoedd lle mae clymbleidio yn gyffredin. Er enghraifft, llwyddodd y PDs i ddwblu eu cynrychiolaeth yn y Dail (yn Iwerddon wrth gwrs) yn 2002 er bod y polau yn awgrymu y byddai eu pleidlais yn syrthio fel carreg. Canfyddiad pobl bod perygl i Fianna Fail reoli ar eu pennau eu hunain, a strategaeth gan y PDs o awgrymu mai nhw yn unig allai atal hynny rhag digwydd oedd yn gyfrifol am y llwyddiant anisgwyl hwnnw.