Thursday, December 17, 2015

Mwy o lanast o Gaerdydd

Chwaneg o lanast o gyfeiriad grwp cyngor mwyaf boncyrs Cymru - Grwp Llafur Cyngor Caerdydd.  Sylwadau na all ond bod wedi eu gwneud gyda'r bwriad o wneud sefyllfa anodd yn ymfflamychol.  Mae Ralph Cook sy'n gyn ddirprwy arweinydd y cyngor bellach wedi ei ddiarddel o 'r Blaid Lafur. Yn anffodus dyma'r criw sy'n gyfrifol am lywodraethu 'r brifddinas.

Gweler y stori yma.




10 comments:

Anonymous said...


Sylwadau hollol gywir.

Anonymous said...


Yn casau'r Blaid Lasur, ond mae gen y boi pwynt.

Anonymous said...

Hyd yn oed os ni'n anghytuno, mae hawl dag e i fynegi'i farn.

Anonymous said...


Ill advised and offensive, but are we to adopt Islamic blasphemy laws? McEvoy is wrong to condemn him, I think

Anonymous said...


Mae'r boi'n gywir, jyst darllen y Koran sy eisiau.

Cai Larsen said...

Hmm - pedwar sylw rhwng 4:00 a 4:04.

Dylan said...

Dw i ddim yn meddwl lot o'r syniad yna fel strategaeth, ond dydi'r sylw ddim yn annerbyniol o gwbl yn fy marn i.

Vaughan Williams said...

Haha... amheus iawn... blog poblogaidd iawn. Llafur Arfon yn hoff iawn ohoni yn amlwg!

Cai Larsen said...

Y broblam ydi Dylan bod y creadur yn gynghorydd - ac felly yn arweinydd cymunedol. Mae gwneud sylwadau sy'n ymfflamychol o safbwynt carfannau o dy etholwyr yn anghyfrifol. Roedd Ian Paisley yn arbenigwr ar y math yma o beth - sylwadau oedd i fod yn ddiwynyddol yn cael eu defnyddio i greu tyndra cymunedol.

Pedryn Drycin said...

Sbot on Cai