Thursday, December 17, 2015

Gwleidydda mewn ysbyty unwaith eto

Dwi'n gwybod bod hyn yn dechrau mynd yn boring - ond ymweliad gan un o weinidogion yn llywodraeth Cymru a sefydliad cyhoeddus yng nghwmni ymgeisydd Cynulliad sydd ganddom o dan sylw eto fyth. Yn yr achos yma Julia Dobson (Ynys Mon) ydi'r ymgeisydd, Vaughan Gething (unwaith eto) ydi'r gweinidog a Phenrhos Stanley yng Nghaergybi ydi'r ysbyty.



Mae'r cwestiynau arferol yn codi - ydi hwn yn ymweliad gweinidogol, ac os felly pam bod ymgeisydd o blaid y gweinidog yn ei ddilyn o gwmpas y lle?  Os mai ymweliad ar ran y Blaid Lafur ydi hi, pam bod rheolwyr ysbyty yn caniatau ymweliad pleidiol wleidyddol? a phwy sy'n talu am y teithio ac ati?

A barnu oddi wrth dystiolaeth ymgeisydd Llafur yn Arfon, mae'n weddol amlwg bod yna lawer iawn o ymweliadau a sefydliadau cyhoeddus gan weinidogion yng nghwmni ymgeiswyr yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd.

Rwan, hyd y gallaf i farnu mae yna un o dri pheth yn digwydd:

1). Mae gweinidogion llywodraeth Cymru yn gwleidydda yn ystod ymweliadau swyddogol, gweinidogol.  Petai hyn yn wir byddai'n awgrymu bod statws gweinidog yn llywodraeth Cymru wedi ei danseilio a'i is raddio yn sylweddol oherwydd ymddygiad anghyfrifol gweinidogion Llafur.

2).  Bod yr ymweliadau yn rhai gwleidyddol ar ran y Blaid Lafur.  Mae gan y blaid honno pob hawl i wleidydda - ond byddai'n  ymddangos bod cryn dipyn o amser pobl sydd i fod yn rhedeg Cymru yn cael ei dreulio'n gwleidydda.  Mae hefyd yn codi cwestiynau am reolwyr sefydliadau cyhoeddus.  Fi fyddai'r cyntaf i amddiffyn hawliau pawb i gefnogi pleidiau gwleidyddol o'u dewis eu hunain a mynegi'r gefnogaeth honno i 'r Byd a'r betws.  Ond mae cysylltu sefydliad sy'n cael ei ariannu gan arian cyhoeddus a sydd a rhanddeiliaid sydd efo safbwyntiau gwleidyddol amrywiol efo plaid wleidyddol yn ymddangos yn annoeth.  Ydi hi'n bosibl bod rheolwyr ysbytai, ysgolion a sefydliadau trydydd sector yn hapus i daflu y sefydliadau hynny i ferw'r pair etholiadol?

3).  Amwyster a diffyg eglurder - bwriadol neu anfwriadol.  Petai hyn yn wir byddai'r ffiniau rhwng rol wleidyddol a gweinidogol unigolion yn y llywodraeth wedi colli eu heglurder.  Ni fyddai'n amlwg i reolwyr sefydliadau os ydi'r ymweliadau fyddai'n cael eu trefnu efo nhw yn rhai swyddogol neu beidio.  Ni fyddai statws yr ymweliadau yn glir i'r ymgeiswyr sy'n cael eu llusgo o gwmpas sefydliadau cyhoeddus chwaith.  Yn wir efallai na fyddai'n glir i'r gwrinidog ei hun beth yn union ydi natur ei ymweliad.  Ni fyddai neb yn glir am ddim byd.  Byddai'r aneglurder yma'n ddefnyddiol iawn i'r Blaid Lafur wrth gwrs.

O orfod dewis, byddwn yn mynd am 3). Hwnnw ydi'r eglurhad mwyaf Cymreig o beth coblyn.  

No comments: