Thursday, December 03, 2015

Cefnogwyr Cymreig y bomio

Y bomwyr Cymreig - diolch i Golwg360 am y rhestr.


ASau Cymru a gefnogodd y cynnig i fomio

Guto Bebb (Ceidwadwyr, Aberconwy)

Chris Bryant (Llafur, Rhondda)

Alun Cairns (Ceidwadwyr, Bro Morgannwg)

Stephen Crabb (Ceidwadwyr, Preseli Penfro)

Wayne David (Llafur, Caerffili)

Byron Davies (Ceidwadwyr, Gwyr)

Chris Davies (Ceidwadwyr, Brycheiniog a Maesyfed)

David Davies (Ceidwadwyr, Sir Fynwy)

Glyn Davies (Ceidwadwyr, Sir Drefaldwyn)

James Davies (Ceidwadwyr, Dyffryn Clwyd)

Stephen Doughty (Llafur, De Caerdydd a Phenarth)

Simon Hart (Ceidwadwyr, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro)

David Jones (Ceidwadwyr, Gorllewin Clwyd)

Susan Elan Jones (Llafur, De Clwyd)

Craig Williams (Ceidwadwyr, Gogledd Caerdydd)


2 comments:

Anonymous said...

Da iawn nhw - rhaid defnyddio pob dull posib i drechu Daesh, yn unol a gorchymyn 2249 y Cenhedloedd Unedig

Anonymous said...

Un ateb byr i'r sylwebydd uchod - mae mynd i ryfel yn erbyn Daesh eisoes yn tynnu'n sylw ni oddiwrth grwpiau amheus iawn fel yr Islamic Front, (mudiad sy'n cynnwys tua 11 o grwpiau Jihadist), yr Al Nusra Front, (sy'n rhan o Al Qaeda), Jabhat Ansar al-Din, a nifer o fudiadau eraill tebyg i'r rhain sy'n ymladd yn Syria.

Dyma athroniaeth Harakat Ahrar ash-Sham al-Islamiyya, er enghraifft, sy'n aelodau o'r Islamic Front “The Islamic Movement of Free Men of the Levant is an Islamist, reformist, innovative and comprehensive movement. It is integrated with the Islamic Front and is a comprehensive and Islamic military, political and social formation. It aims to completely overthrow the Assad regime in Syria and build an Islamic state whose only sovereign, reference, ruler, direction, and individual, societal and nationwide unifier is Allah Almighty’s Sharia (law)”.

1. Y cwestiwn mawr yw - oes yna unrhyw wahaniaeth rhwng y bobl hyn a Daesh ? Na
2. Ac wrth ddinistrio Daesh, oni fyddwn ni yn y pendraw yn creu gwagle, fydd yn sicr o gael ei lenwi gan yr Islamic Front a'r grwpiau eraill 'ma ?

Dyma sydd wedi digwydd yn gyson ers i'r UDA yn y 1970au ddechrau swcro'r Mujahadin a'r Taliban,a roes fodolaeth ymhen amser i Osama bin Laden ac Al Qaeda, a rwan i ISIS neu Daesh.

Felly, tydi bomio Daesh ddim yn mynd i wneud unrhyw whaniaeth yn y pendraw. Ymhen y flwyddyn mi fyddwn yn ol yn y senedd yn trafod bomio'r Islamic Front, ac wedyn rhywun arall, ac wedyn ...

Ynyswr