Sunday, December 20, 2015

Ad drefnu llywodraeth leol a'r Gymraeg

Cododd y cwestiwn - ymddangosiadol aniddorol - o sut y dylid ad drefnu llywodraeth leol yng Nghymru ar rifyn cyfredol Hawl i Holi.  Gan bod y rhaglen yn cael ei darlledu i Bwllheli symudodd y drafodaeth yn naturiol i ad drefnu llywodraeth leol yn y Gogledd.  Roedd ymgeisydd y Blaid yn Arfon - Sian Gwenllian - yn dadlau tros yr opsiwn tair sir tra bod yr ymgeisydd Llafur, Sion Jones o blaid dau gyngor.  Roedd y ddau yn dadlau y byddai eu dewis nhw yn well i'r Gymraeg.  

Bwriad Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ydi cyfuno Ynys Mon, Gwynedd a Chonwy yn y Gogledd Orllewin a chyfuno Dinbych, Wrecsam a Fflint yn y Gogledd Ddwyrain - ond cadw opsiwn yn agored o gael tri chyngor yn y Gogledd - Gwynedd a Mon, Dinbych a Chonwy a Fflint a Wrecsam.  

O ran yr iaith Gymraeg mae dau funud o feddwl yn dangos y byddai'r ail opsiwn, wrth gwrs, yn llawer, llawer gwell.  

Ar hyn o bryd mae Gwynedd yn defnyddio'r Gymraeg fel ei hiaith weinyddol, mae statws y Gymraeg yn llawer llai cadarn yng Nghyngor Ynys Mon, ac yn llai cadarn eto yng Nghyngor Conwy.  Mae polisi  Gwynedd wedi bod yn gryn gefn i'r iaith yn yr ardal, gan sicrhau statws proffesiynol i'r iaith,  a chymhelliad economaidd i Gymry Cymraeg aros ar eu milltir sgwar, ac  i'r di Gymraeg ddysgu'r iaith.

Mae proffeil ieithyddol Gwynedd a Mon yn eithaf tebyg, tra bod un Conwy yn gwbl wahanol.  Yn ol cyfrifiad 2011, 30.5% o drigolion Mon sydd heb unrhyw sgiliau iaith Gymraeg o gwbl a 26.5% o drigolion Gwynedd sydd yn yr un sefyllfa.  Yng Nghonwy mae'r ganran yn 60.5%.  Mae 56% o drigolion Mon yn siarad yr iaith,  64% o rai Gwynedd, a 27% o bobl Conwy.  

Mae'n wir bod yr hen Gyngor Gwynedd oedd yn bodoli cyn yr ad drefnu llywodraeth leol diwethaf yn cwmpasu llawer o'r tri hen awdurdod, a bod hwnnw yn gymharol Gymreig o ran ei naws, os nad ei weinyddiaeth. Ond dim ond at ardal Llandudno oedd yr hen Wynedd yn ymestyn, byddai'r endid newydd yn ymestyn i Fae Cinmel - sy'n newid y proffil ieithyddol yn sylweddol.   Byddai siaradwyr Cymraeg mewn lleiafrif mewn cyngor sydd wedi ei gyfansoddi o Gonwy, Gwynedd ac Ynys Mon, ond byddant mewn mwyafrif cyfforddus mewn cyngor fyddai wedi ei ffurfio o Gyngor Mon a Chyngor Gwynedd.  

Canlyniad tebygol yr opsiwn Mon / Gwynedd / Conwy ydi y byddai'n llawer anos i gael y gefnogaeth y byddai ei hangen i gael cyngor fyddai'n defnyddio'r Gymraeg fel ei phrif gyfrwng gweinyddol.  Gallai fod yn anodd beth bynnag - mae polisi iaith Gwynedd yn gweithio oherwydd bod yna gonsensws traws bleidiol trosto, a bod yna gefnogaeth eang i'r polisi ar lawr gwlad.  Does yna ddim polisi cyffelyb ym Mon - a dydi hi ddim yn glir bod y gefnogaeth i drefniant cyfrwng Cymraeg gyda chefnogaeth gyffelyb yno.

Yn wir, hyd yn oed pe byddai'r cyngor newydd yn penderfynu dilyn trywydd y Wynedd bresenol y peth cyntaf fyddai yn ei wynebu fyddai argyfwng.  Efo'r rhan fwyaf o'r sawl sy 'n gweithio i Gyngor Conwy yn ddi Gymraeg byddai tri opsiwn posibl - ceisio cynnal gwasanaeth lle nad ydi cyfran sylweddol o'r gweithwyr yn deall nag yn gallu defnyddio'r iaith weinyddol, diswyddo nifer sylweddol o bobl neu eu gorfodi i ddysgu'r Gymraeg.  Swnio'n hwyl i chi?

Mae'n bwysig o safbwynt dyfodol yr iaith fodd bynnag bod o leiaf un o'r cynghorau newydd yn mabwysiadu polisi iaith y Wynedd gyfredol.  Mae Leighton Andrews yn un o garedigion yr iaith - ac mae ganddo gyfle go iawn i osod trefn mewn lle a allai fod yn gefn gwirioneddol i'r Gymraeg yn y Gogledd Orllewin.  Mae ganddo gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn.  Gobeithio y bydd yn ei gymryd - beth bynnag farn y Blaid Lafur yng Ngwynedd.

2 comments:

willliam dolben said...

Bûm yn gwrando ar y rhaglen a rwy'n credu i Siân Gwennlian ddeud rhywbeth am feddwl yn ddwys am wir bwrpas llywodraeth leol. call iawn dwi'n meddwl a lot gwell na derbyn y siroedd fel y maent a cydio sir wrth sir i greu uned fwy. cyn belled â mae'r Gymraeg yb y cwestiwn, buasai'n braf gweld talp o Gonwy a Sir Ddimbech sef Hiraethog, Uwchaled, Dyffryn Clwyd ac Edeirnion yn rhan o Wynedd fawr gan gryfhau'r iaith ar bob lefel. Byddai rhai'n deud nad ydi'n ymarferol gwahanu Llandudno, Bae Colwyn ac Abergele o'u hinterland ond mae gan Llansaanan fwy yn gyffredin â Llanrwst na Bae Colwyn.

Glyn Adda said...

Gweler Blog Glyn Adda:

https://glynadda.wordpress.com/2013/03/20/amlder-cynghorwyr/

https://glynadda.wordpress.com/2014/01/12/cynghorau-a-ffiniau/

https://glynadda.wordpress.com/2014/01/20/fformiwla-am-lanast/

https://glynadda.wordpress.com/2015/06/15/sir-gwymon-a-sir-conbych-2/

https://glynadda.wordpress.com/2015/06/26/nid-yw-hon-ar-fap/