Tuesday, December 01, 2015

Aelodau Seneddol Llafur a Thoriaidd yn paratoi am ryfel

Felly mae llywodraeth San Steffan ar fin cyflwyno mesur fydd yn caniatau i'r DU gymryd rhan yn yr wyl fomio sydd wedi bod yn mynd rhagddi yn Syria ers blynyddoedd bellach - a sydd wedi arwain at filiynau o bobl yn gadael y wlad.

Mae 'arweinydd' y Blaid Lafur - Jeremy Corbyn - wedi penderfynu i ganiatau i'w aelodau seneddol bleidleisio o blaid yr idiotrwydd yma - ac mae hynny yn ei gwneud yn sicr, fwy neu lai, y bydd y bomiau'n syrthio erbyn diwedd yr wythnos.  Ar un olwg bydd Corbyn yr un mor gyfrifol am yr hyn fydd yn digwydd a Cameron a'r criw o little Englanders, jingoistaidd sy'n ffurfio'i grwp seneddol.

Does yna ddim byd yn mynd i argyhoeddi seneddwyr San Steffan bod yna ddatrysiad amgen i broblemau'r Dwyrain Canol na lluchio ychydig mwy o fomiau i mewn i'r pair.  Pan mae'n dod i fomio does yna'r un wers yn ddigon chwerw i newid y canfyddiad hwnnw.  Gwarwyd $3 triliwn ar ail ryfel Irac ac mae hyd at filiwn o bobl wedi colli eu bywydau o ganlyniad, uniongyrchol neu anuniongyrchol, i'r rhyfel hwnnw.  Y cyfiawnhad oedd y byddai rhyfela yn ein gwneud yn ddiogelach - yr un rheswm a ddefnyddir y tro hwn.  Wele cymaint diogelach ydym ni yn sgil Rhyfel Irac: 


Rhag ofn nad ydych yn cofio - yn 2003 y cychwynodd Rhyfel Irac. 

Os ydych eisiau tystiolaeth bod yr ymyraeth yma mor hanner call a'r holl ymgyrchoedd blaenorol gwrandewch ar Cameron yn rwdlan am 70,000 o filwyr 'cymhedrol' yn Syria yn disgwyl am arweiniad ganddo fo a'i ffrindiau.  'Dydi naif ddim yn ansoddair digon cryf rhywsut.  


No comments: