Monday, December 28, 2015

Cymru a dull pleidleisio STV

Digwydd sylwi ar y sylwadau yma sy'n rhan o ddadl faith rhwng David Taylor, Dafydd Trystan ac eraill ar trydar y bore 'ma wnes i.


Dadl oedd hi ar y gyfundrefn etholiadol yng Nghymru - roedd Dafydd yn awgrymu trefn STV gyda thair sedd i pob etholaeth, ac roedd David yn awgrymu y byddai hynny o fantais i'r trydydd blaid - hy Plaid Cymru.  Dydi'r canfyddiad hwnnw ddim yn un cywir - neu ddim yn un cyson gywir - fel y cawn weld yn ddiweddarach.  Dull pleidleisio a ddefnyddir yn Iwerddon a'r Alban mewn etholiadau lleol ydi STV. 

Efallai y dyliwn gychwyn trwy roi eglurhad brysiog o sut mae'r dull yn gweithio. Mae i pob etholaeth fwy nag un aelod (3-5 yn achos etholiadau Dail Eireann yn Ne Iwerddon, 6 yn achos etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon). Caiff yr etholwr bleidleisio i gymaint, neu gyn lleied o ymgeiswyr ag mae eisiau, ond rhaid gwneud hynny mewn trefn - 1,2,3,4 ac ati. Y bleidlais gyntaf a gyfrifir yn gyntaf. Os, o gyfri'r pleidleisiau cyntaf, bod un ymgeisydd yn cyrraedd y trothwy i gael ei ethol (quota) yna fe'i etholir. Mae union faint y trothwy yn ddibynnol ar sawl sedd sydd i'w dyrannu - os mai tair sydd ar gael mae'r trothwy yn 25% + 1, os mai 4 mae'n 20% + 1, os yw'n 5 mae'n tua 16.5% + 1, ac os yw'n 6 mae'n tua 14.5% + 1. 

Gyda bod rhywun wedi cyrraedd y trothwy bydd ei bleidleisiau ychwanegol (hy y nifer sy'n uwch na'r trothwy) yn cael eu dosbarthu (yn unol a'r ail ddewis). Os nad oes rhywun yn cyrraedd y trothwy wedi rownd o gyfri, bydd yr ymgeiswyr ar y gwaelod yn cael eu tynnu allan a bydd eu hail (neu drydydd) pleidleisiau yn cael eu dosbarthu. Bydd y broses yma'n mynd rhagddi, tan y bydd pob sedd wedi ei llenwi - gan amlaf trwy gael y nifer anghenrheidiol o ymgeiswyr yn cyrraedd y trothwy. O ganlyniad bydd pob etholaeth efo mwy nag un aelod. Gall nifer o'r aelodau fod o'r un plaid (mae 5 o 6 aelod Cynulliad West Belfast yn perthyn i Sinn Fein er enghraifft), neu gall pob un fod o bleidiau gwahanol.  

Weithiau mae David yn gywir bod etholaeth tair sedd  yn ffafrio'r trydydd blaid - fel yma yn un o etholaethau Dulyn lle mae'r trydydd yn mynd i'r ymgeisydd annibynnol Finian MgGrath.   Petai yna un sedd yn llai byddai y ddwy blaid gryfaf (FG. Llaf) yn unig wedi cael seddi, tra byddai'r blaid gryfaf wedi cael dwy sedd petai'n etholaeth 4 sedd.


Ond dydan ni ddim yn gorfod chwilio ymhell i ddod o hyd i etholaethau tair sedd sydd ddim yn ffafrio'r trydydd blaid.  Donegal South West er enghraifft.  Yma y bedwerydd plaid sy'n elwa o'r drefniant tair sedd - Thomas Pringle.  Dydi'r trydydd plaid ddim hyd yn oed yn cael sedd.  


Yn Dublin North West yr ail blaid (SF) sy'n elwa.  Byddai pedair sedd wedi sicrhau sedd i'r trydydd blaid  (FG), ond byddai dwy sedd wedi arwain at un yr un i SF a Llafur.



Ym Meath East y trydydd plaid sydd yn elwa o gyfundrefn tair sedd ond ar draul yr ail - unwaith eto mae FF yn methu a sicrhau sedd.  


Y trydydd plaid (Llaf) sy'n elwa o drefn pedair sedd Dinas Limerick.  Petai'r etholaeth yn un tair sedd dim ond FG a FF fyddai wedi ennill sedd. 


Yn Dublin Mid West mae'r ddwy brif blaid yn elwa o drefn pedair sedd - byddai trefn tair sedd wedi elwa'r ail blaid (Llaf).  Byddant wedi cael mwy o drosglwyddiadau mewn etholaeth fel Dublin Mid West. Byddai pum sedd wedi sicrhau sedd i'r trydydd plaid (SF). 


Yn Louth mae'r drefn bedair sedd yn elwa'r blaid gyntaf,(FG)  petai yna ond tair sedd ar gael byddai FG yn colli un, petai pump ar gael, byddai 'r bedwerydd blaid (FF) yn cael sedd.  



Dwi wedi dewis yr etholiadau hyn ar fympwy o etholiad 2011 yng Ngweriniaeth Iwerddon.  Dwi ddim yn meddwl y byddai dewis gwahanol o etholaethau wedi dangos patrwm gwahanol iawn.  Felly dydi David ddim yn gywir i ddweud y byddai cyfundrefn tair sedd yn fanteisiol i'r drydydd blaid, ond mae'n gywir y byddai'n anfanteisiol i Lafur.  Mae rhyw gyfundrefn gyfrannol am fod yn anfanteisiol i'r blaid honno, oherwydd bod y drefn sydd ohoni o fantais iddynt.


Wedi dweud hyn oll rydw i'n bersonol yn anghytuno efo Dafydd Trystan ynglyn a nifer y seddi ym mhob etholaeth.  Y ffordd y byddwn yn gwneud hyn ar lefel Cymru gyfan fyddai trwy ddiddymu'r etholaethau presennol a gwneud pob sir yn etholaeth seneddol, a dosbarthu seddi yn ol poblogaeth y siroedd hynny. Er enghraifft gellid rhoi un sedd ar gyfer pob 50,000 o bobl sy'n byw mewn sir, ac un arall ar ben hynny i pob sir. Byddai hyn yn rhoi tair sedd i Wynedd, dwy i Fon ac efallai 7 i Gaerdydd. Mi fyddai gan o leiaf dwy o'r pleidiau gynrychiolaeth ym Mon (mae'n debyg) a Gwynedd, ac mae'n debyg y byddai pob un o'r prif bleidiau gyda chynrychiolaeth yng Nghaerdydd.  Byddai hyn yn golygu cynnydd yn y nifer o ASau Cymreig - i tua 82 (o 60).  











2 comments:

Dylan said...

Byddai llawer o bobl efallai wedi pleidleisio'n wahanol petai gennym STV yma, ond o ran diddordeb, unrhyw syniad faint o seddau fyddai gan bob plaid yn y Cynulliad petai etholiad 2011 wedi dilyn y system uchod?

Cai Larsen said...

Amhosibl dweud - maeyna gymaint o ffyrdd gwahanol y gallet osod system STV yn ei lle.