Saturday, December 26, 2015

Edrych ymlaen i 2016 - rhan 1

Mi fydd y flwyddyn nesaf yn un gyda nifer anarferol o etholiadau fydd o ddiddordeb i Flogmenai - etholiadau Cynulliad, Holyrood, Stormont, refferendwm Ewrop, etholiadau am Gomiwsiynwyr yr Heddlu, ac etholiad cyffredinol yng Ngweriniaeth Iwerddon.  Byddwn yn edrych ymlaen at pob un ohonynt tros y diwrnodiau nesaf. 

Felly mi gychwynwn efo'r etholiadau lleiaf diddorol ar sawl cyfri - rhai Comiwsiynydd yr Heddlu.  Ar hyn o bryd mae Comiwsiynydd y Gogledd - Winston Roddick - yn swyddogol annibynnol, ond wedi sefyll tros y Lib Dems mewn sawl etholiad yn y gorffennol yn ogystal a chadeirio'r Rhyddfrydwyr Cymreig yn yr 80au. Mae Comiwsiynydd Gwent, Ian Jonhstone hefyd yn annibynnol.  Llafurwr wrth gwrs ydi Alun Michael, Comiwsiynydd Heddlu 'r De a Tori ydi Christopher Salmon, Comiwsiynydd Heddlu Dyfed Powys.  Wele ganlyniadau 2012.











Fel y gwelwch o'r tablau mae'r system bleidleisio yn wahanol i'r un arferol - mae papurau'r sawl nad ydynt yn gyntaf neu'n ail yn cael eu ail ddosbarthu ac ail bleidleisiau yn cael eu cyfri os nad oes neb yn cyrraedd 50% o'r bleidlais ar ol y cyfri cyntaf.  Yr ail beth i'w nodi ydi absenoldeb Plaid Cymru a'r trydydd ydi'r canrannau chwerthinllyd o isel a bleidleisiodd yn yr etholiadau.  Mae'r tri ffaith yn arwyddocaol wrth edrych ymlaen i fis Mai.

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi y bydd yn llawer anos i ymgeiswyr annibynnol y flwyddyn nesaf.  Oherwydd bod yr etholiadau yn cael eu cynnal ar yr un diwrnod ag etholiadau'r Cynulliad bydd y cyfraddau pleidleisio yn uwch o lawer, ac yn cael eu hymladd yng nghysgod ymgyrch y Cynulliad.  Yn ychwanegol bydd peiriannau etholiadol y gwahanol bleidiau yn weithredol yn ystod cyfnod yr etholiad a bydd ymdrech yn cael ei gwneud i lusgo cefnogwyr y pleidiau allan i bleidleisio.  Bydd gan Winston Roddick (os yw'n sefyll) y cymhlethdod ychwanegol bod llawer o'i bleidlais yn 2012 wedi dod o berfedd diroedd Plaid Cymru yn y Gogledd Orllewin yn absenoldeb y Blaid a bod nifer o wleidyddion y Blaid wedi ei gefnogi.  Bydd y Blaid yn sefyll y tro hwn, ac mae gan yr ymgeisydd gysylltiadau agos efo'r Gogledd Orllewin a chefnogaeth gwleidyddion amlwg y Blaid. Mae'n bosibl i ymgeiswyr annibynnol ennill - ond mae'n anodd iawn.  Yr unig lwybr mewn gwirionedd ydi dod yn ail i'r blaid gryfaf ac yna cael pleidleisiau tactegol y pleidiau sydd wedi dod yn drydydd, pedwerydd ac ati.  'Dwi ddim yn disgwyl serch hynny i unrhyw ymgeiswyr annibynnol gael eu hethol yn 2016.

O ran y ffigyrau moel mae'n anodd iawn gweld sut y gallai Llafur beidio ag ennill yn ardaloedd Gwent a De Cymru.  Mae'n debygol y bydd y Toriaid yn colli Dyfed Powys ar yr ail bleidlais - hyd yn oed os byddant yn llwyddo i ddod ar y blaen yn y bleidlais gyntaf (sydd ddim yn debygol ).  Bydd y rhan fwyaf o'r ail bleidleisiau yn mynd yn eu herbyn. Er gwaetha'r gystadleuaeth ffyrnig rhwng Llafur a Phlaid Cymru mae pleidleiswyr y naill blaid yn llawer mwy tebygol o roi eu hail bleidlais i'r llall nag i 'r Toriaid.  Plaid Cymru sy'n debygol o elwa o hyn yn Nyfed Powys a byddwn yn disgwyl ennill yma.  

Mae pethau yn debygol o fod yn dyn iawn yn y Gogledd - gyda chefnogaeth Plaid Cymru, Llafur a'r Toriaid yn weddol debyg ar lefel Cynulliad.  Eto dwi ddim yn disgwyl i'r Toriaid ennill gyda naill ai Plaid Cymru neu Lafur yn ennill wedi'r ail gyfrif.  Er nad yw Winston Roddick yn debygol o ennill, gallai effeithio ar y canlyniad.  Petai 'n llwyddo i gymryd digon o bleidleisiau Plaid Cymru yn y gorllewin i'w hatal rhag dod yn y ddau le cyntaf, byddai hynny'n debygol o sicrhau'r sedd i Lafur petai nhw a'r Toriaid yn y ddwy brif safle.  

Mae yna nifer o bethau sydd ymhell o fod yn glir y tro hwn.  Er enghraifft mae'n dra anhebygol y gall UKIP (os ydyn nhw'n sefyll) ennill yn unrhyw un o'r pedwar rhanbarth, ond gallant gael effaith ar y canlyniadau.  Tra bod UKIP yn effeithio ar pob plaid mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, mae'r effaith yn anghyson.  Er enghraifft gallai diwrnod da i'r blaid adain dde arwain at bleidlais llawer is na'r disgwyl i Lafur yng Ngwent, neu'r Toriaid yn Nyfed Powys.  Gallai arwain hefyd at bleidlais is na'r disgwyl i'r ddwy brif blaid unoliaethol yn y Gogledd. 

Ac mae yna'r cwestiwn nid bychan o'r ymgeiswyr.  Dydi hi ddim yn glir pwy fydd yn sefyll yn lle ar hyn o bryd - ond dwi 'n deall mai rhwng Tal Michael a David Taylor mae ymgeisyddiaeth Llafur yn y Gogledd. Dwi hefyd yn deall bod Mr Taylor wedi bod yn lobio aelodau - sy'n rhan o'r gem wrth gwrs.  Mae'n debyg y bydd diffyg llwyddiant etholiadol Tal Michael yn pwyso ar aelodau Llafur yn y Gogledd - perfformiodd yn wael yn is etholiad Cynulliad Ynys Mon yn ogystal a'r etholiad am Gomiwsiynydd Heddlu yn 2012.  Ond dydi record etholiadol Mr Taylor ddim yn wych chwaith.  Ymddengys bod Llafur yn y Gogledd yn ystyried dau ymgeisydd sydd a hanes o fethu'n etholiadol.  Gall hynny fod yn hynod bwysig pan ddaw diwrnod yr etholiad.










No comments: