Tuesday, December 29, 2015

Ariannu gwleidyddol yn arwain at embaras cenedlaethol a rhyngwladol

Mae'n debyg nad oes yna unrhyw symbol mwy pwerus nad ydi 'r Gogledd - nag unrhyw le i'r gogledd o Ferthyr - yn flaenoriaeth o unrhyw fath i lywodraeth Cymru na'r A55 a'r diffyg sylw gaiff honno. Mae hefyd yn symbol o'r arfer o benderfynu ar y defnydd o arian cyhoeddus mewn cyd destun gwleidyddol - rhywbeth sy'n nodweddu'r Gymru ddatganoledig.   I'r sawl yn eich plith sydd ddim yn gyfarwydd efo'r anghenfil yma, dyma bwt o gefndir.



Yr A55 ydi rhan gyntaf y brif ffordd rhwng Dulyn a Brussels.  Mae'n rhedeg o Gaergybi i Gaer ac mae'n ffordd ddeuol ar ei hyd ag eithrio pan mae 'n croesi'r Fenai ar Bont Britannia.  Mae yna dagfeydd dyddiol yn y fan honno - yn ystod oriau brig ac o gwmpas amser cinio yn fuan wedi i nifer o longau fferi ddocio yng Nghaergybi. Oherwydd natur tirwedd Gogledd Cymru bu'n rhaid tyllu nifer o dwneli yn ardal Penmaenmawr a cheir twnel sylweddol o dan aber Afon Conwy.  



Cwblhawyd y rhan sy'n ymestyn o Gaergybi i Bont Britannia yn 2000 gydag arian o gynllun PFI.  Fel y rhan fwyaf o waith a wnaed o dan y cynllun ariannu ideolegol adain Dde yma mae wedi bod yn ddrud iawn, ac wedi arwain at drosglwyddiad adnoddau sylweddol o'r sector gyhoeddus i'r sector breifat.  Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gorfod talu £193m o dan amodau'r cynllun hyd yn hyn – £100m oedd cost gwreiddiol y gwaith.  Mae'n debyg y bydd mwy na  £400m wedi ei wario erbyn i 'r taliad olaf gael ei wneud yn 2028.





Fel sy'n wir am y rhan fwyaf o lonydd eraill mae'r defnydd ohoni wedi cynyddu'n sylweddol ers ei hadeiladu, a gall unrhyw waith ffordd achosi anrhefn a thagfeydd sylweddol - yn arbennig os ydynt yn cael eu cynnal yn agos at ardaloedd poblog arfordir Gogledd Cymru.  Mae yna rannau o'r lon hefyd sydd a hanes o ddioddef oherwydd llifogydd.  Cafodd yr ardal waethaf - yr un ger Abergwyngregyn / Talybont yn nwyrain Gwynedd ei boddi ddeuddydd yn ol, ar Wyl San Steffan, gan gau un o ffyrdd cysylltu pwysicaf dwy wlad - Cymru a'r Iwerddon.  Yn wir gan bod yr A5 a'r A470 yn ogystal a dwsinau o fan ffyrdd wedi gor lifo ar yr un pryd, roedd Gogledd Orllewin Cymru wedi ei dorri i ffwrdd oddi wrth weddill y Byd i bob pwrpas am gyfnod.  Parhaodd y sefyllfa ar yr A55 am y rhan fwyaf o Wyl San Steffan, a bu'n rhaid i drigolion Aber ddioddef anhrefn, llanast ac anghyfleustra sylweddol. 

Rwan glaw ydi glaw a llifogydd ydi llifogydd a dwr ydi dwr.  Mae Gogledd Orllewin Cymru ymysg y llefydd gwlypaf yn y Byd.  Ond yn achos yr A55 ochrau Abergwyngregyn / Talybont mae'r llifogydd yn gwbl ragweladwy.  Mae'r un rhan o'r lon wedi cael ei foddi dair neu bedair gwaith tros y pum mlynedd diwethaf. Nid yn unig hynny, ond cafodd cynllun ei greu gan Gyngor Gwynedd i fynd i'r afael a'r sefyllfa wedi i rhywbeth tebyg i ddigwyddiadau dydd Sadwrn ddigwydd yn 2012.  Cost gwireddu'r cynllun fyddai tua £1.5m.  Gwrthododd Llywodraeth Cymru ryddhau'r adnoddau, er bod Carl Sargeant wedi tyngu na fyddai'r A55 yn cael ei boddi yn Aber yn dilyn llanast 2012.  

Yn y cyfamser, i lawr ar goridor yr M4  mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwario £38m ar uwchraddio 'r M4 ger Twnel Brynglas yng Nghasnewydd.  Bydd y cynllun hwnnw yn costio £1bn ar y lleiaf un erbyn ei gwblhau.

Tra bod Cameron wedi bod yn mynd o gwmpas Gogledd Lloegr yn ei welingtons, dydi Carwyn Jones ddim  wedi cynhyrfu rhyw lawer.  Ymddengys ei fod wedi penderfynu peidio cymryd y risg o gael socsan yn y Gogledd, ac felly mae wedi aros adref.  Fel y gwelir o'r llun gall ddod o hyd i'r Gogledd yn iawn pan mae'r tywydd yn braf ac etholiad yn agos.




Ond mae yna fwy o fynd yn Carl Sargeant.  Mae yntau o leiaf wedi gwneud ei ffordd i ddwy ardal sydd wedi dioddef efo'r llifogydd - Llanelwy a Llanrwst.  Yn anffodus 'dydi o heb lwyddo i gael ei hun i Dalybont - efallai mai embaras oherwydd ei addewidion gwag sy'n gyfrifol am hynny - neu efallai'r ffaith bod Aber yn Arfon lle nad oes gan Lafur obaith caneri ym mis Mai, tra bod Llanelwy a Llanrwst mewn etholaethau lle mae cefnogaeth Llafur ychydig yn gryfach.  Pwy a wyr?



Fel awgrymwyd ar y cychwyn mae'r holl stori anymunol yn dweud y cwbl sydd angen ei ddweud am yr hyn ydi Cymru heddiw.  Mae'n wlad sy'n cael ei rhedeg gan blaid oedd o'r dechrau'n deg yng Nghymru yn gweld diwallu anghenion grwpiau o'i chleiantiaid ei hun fel rhan o'i phwrpas creiddiol.  O gael ei dwylo - ar delerau parhaol hyd yn hyn - ar lefrau grym yn sgil datganoli aeth ati  i weithredu ar y reddf honno bymtheg y dwsin.

Un canlyniad  ydi anghydbwysedd gwariant - lle mae mwy o wariant cyfalaf mewn ardaloedd Llafur na mewn lleoedd eraill,  lle mae awdurdodau lleol mewn ardaloedd Llafur yn cael eu hariannu yn well nag awdurdodau lleol eraill, lle mae ysgolion mewn ardaloedd Llafur yn cael eu hariannu'n well na rhai mewn ardaloedd eraill, ac ati, ac ati.

Canlyniad arall ydi diwylliant lle mae byrddau cyhoeddus yn cael eu stwffio efo cefnogwyr ac aelodau'r Blaid Lafur, lle ceir disgwyliad o ffyddlondeb i 'r Blaid Lafur gan gyrff cyhoeddus a lle mae'r cyfryngau newyddion Cymreig wedi eu sugno i mewn i'r ragdybiaeth ei bod yn hollol naturiol i ddylanwad plaid wleidyddol benodol ymgyraedd i pob twll a chornel o fywyd cyhoeddus y wlad.  

Canlyniad hynny yn ei dro ydi llywodraethiant sydd a'i blaenoriaethau wyneb i waered a chanlyniad hynny yn ei dro ydi llywodraethiant aneffeithiol.  Llywodraethu llwythol sydd i raddau helaeth yn gyfrifol am y methiannau a than berfformio di ddiwedd mewn meysydd datganoledig yng Nghymru.

Mae'n bryd newid llywodraeth er mwyn cael byw mewn gwlad decach - gwlad lle  mae pethau'n gweithio'n well.  Daw cyfle ym mis Mai.


1 comment:

Anonymous said...

Gobeithio na fydd Plaid Cymru yn penderfynnu clymbleidio gyda nhw wedi'r etholiad.