Yn ardal Abids yn Hyderabad, De India oeddwn i ar ddiwrnod olaf Ebrill 2011 pan drywanwyd Akbar Owiasi. Doeddwn i erioed wedi clywed amdano chwaith - ond mae'n ddyn pwysig yn y ddinas anferth yma o bron i 8m o bobl. Mae'n un o arweinwyr plaid wleidyddol Fwslemaidd yn Ne India, ac mae'n wleidydd dadleuol. Gallwch weld y manylion yma os oes gennych ddiddordeb.
Siarad efo cyfreithiwr oeddwn i, a fo gafodd y newyddion ar ei ffon symudol. Parhaodd yr alwad ychydig o eiliadau, ac wedi iddi ddod ar ei ben cododd ar ei draed a dweud ei fod yn mynd adref, a fy nghyngori innau i fynd yn ol i fy ngwesty cyn gynted a phosibl. Eglurodd ar y ffordd allan bod Owiasi wedi ei saethu, a'i bod yn bosibl y byddai llawer o bobl yn marw tros yr oriau nesaf. Hindu oedd y cyfreithiwr. Roedd gen i gar a gyrrwr yn aros amdanaf, ac roedd yn amlwg bod y gyrrwr wedi clywed y newyddion hefyd. Roedd am fy ngyrru yn ol i'r gwesty cyn gynted a phosibl. Roedd Hen Dref Hyderabad rhyngom ni a'r gwesty. Yr Hen Dref ydi'r prif ardal Fwslemaidd mewn dinas sydd wedi ei rhannu'n weddol gyfartal rhwng Hindwiaid a Mwslemiaid - sefyllfa anarferol yn Ne India Hindwaidd.
Roedd yr Hen Dref yn rhywbeth rhyfeddol i'w gweld ar y diwrnod hwnnw. Fel gweddill y ddinas roedd yn cau i lawr, gyda degau o filoedd o bobl yn llifo adref - llawer ohonynt yn ferched yn eu gwisgoedd du unffurf. Roeddynt yn fy atgoffa o forgryg. Roedd ceir arfog ar gornel pob stryd ac roedd cannoedd o heddlu parafilwrol yn sefyll ar hyd ddwy ochr y stryd yn hel pobl tuag adref - ac yn gwneud hynny mewn modd nad oedd gyda'r mwyaf addfwyn. Roedd yr ymdeimlad o ofn yn dew yn yr awyr crasboeth - roedd bron yn bosibl ei deimlo, a'i flasu a'i arogli. Roedd i'w glywed hefyd yn nistawrydd llethol y tyrfaoedd fel roeddynt yn brysio tuag adref.
O gyrraedd y gwesty roedd y mesurau diogelwch llym oedd yn nodweddu'r lle wedi eu huwchraddio yn sylweddol - roedd yna dau ddwsin o swyddogion diogelwch wrth y drws ac roedd rhwystrau wedi eu gosod o gwmpas yr adeilad. Pan gyrhaeddais y drws gafaelwyd ynddof a'm lled luchio i mewn i'r cyntedd a'm rhybuddio i beidio a meddwl am adael yr adeilad heb ganiatad. Wnes i ddim. Treuliais weddill y diwrnod yn y gwesty a mynd i fy ngwely.
Codais yn y bore i fyd hollol wahanol. Roedd yr argyfwng wedi cilio, ac roedd yr ymdeimlad o ofn wedi cilio yn ei sgil. Roedd pobl yn mynd a dod i 'r gwesty mel y mynnant. Holais un o'r merched wrth y ddesg pam bod y panig drosodd, ac roedd yr eglurhad yn un syml. Wedi ei drywannu gan Fwslim arall oedd Owaisi o ganlyniad i ffrae ynglyn a thir, ac nid oedd ei anafiadau yn bygwth ei fywyd beth bynnag. Fyddai yna ddim dial llwythol / crefyddol.
Roedd pobl Hyderabad yn gywir i ddychryn ar y diwrnod arbennig yna - mae yna hanes hir o wrthdaro cymunedol sylweddol ar sail crefydd yn India. Er enghraifft lladdwyd hyd at 17,000 o Siciaid yn yr oriau yn dilyn llofruddiaeth Indira Gandhi yn 1984 gan dyrfaoedd Hindwaidd. Petai'r hyn ddigwyddodd ar strydoedd Paris neithiwr wedi digwydd mewn aml i ran arall o'r Byd byddai yna dywallt gwaed pellach a sylweddol wedi digwydd yn gyflym iawn. Mae'n adlewyrchu ar sefydlogrwydd creiddiol cymunedau trefol, seciwlar Gorllewinol na chafwyd ymateb treisgar i ddigwyddiadau neithiwr.
Mae natur trais neithiwr wedi esgor ar gryn dipyn o drafod - a chryn dipyn o ddamcaniaethu bod Islam fel crefydd gyda rhywbeth yn unigryw dreisgar amdani. Cafwyd ffrae fach reit anifyr ar y cyfryngau cymdeithasol Cymreig ar y pwnc.
Mae hynny yn wir i raddau ar yr eiliad yma yng nghwrs hanes, ond mae ffraeo diwynyddol ymysg Cristnogion wedi arwain at fwy o lawer o dywallt gwaed yn y gorffennol. Yr hyn ddigwyddodd i newid hynny oedd y Chwyldro Ffrengig a'r seciwlareiddio mewn cymdeithasau Gorllewinol a ddilynodd hynny. Nid bod seciwlariaeth wedi arwain at lai o dywallt gwaed wrth gwrs - roedd yna ddigon o hwnnw yn y Gorllewin yn y ganrif ddiwethaf o ganlyniad i wrthdaro rhwng ideolegau seciwlar - ond newidiodd natur a lleoliad y trais. Dydi'r newidiadau cymdeithasol hyn heb gyffwrdd a'r Byd Mwslemaidd, ac o ganlyniad mae trais ar sail crefyddol yn parhau i ddigwydd. Mae cymdeithasau Mwslemaidd hefyd yn sylfaenol wahanol i rai Gorllewinol.
Mae llawer o'r trais sy'n dod o du Mwslemiaid wedi ei wreiddio mewn camddealltwriaeth o'r hyn mae'r Gorllewin yn ei wneud yn y Dwyrain Canol a thu hwnt. I'r ffwndementalwr Islamaidd mae ymyraeth y Gorllewin yn y Dwyrain Canol yn ymysodiad crefyddol. Dyna'r unig ffordd y gall rhywun sy'n edrych ar y Byd mewn termau cwbl grefyddol ei ddehongli. Dydi hynny ddim yn wir wrth gwrs, edrych ar ol ei buddiannau ei hun mae'r Gorllewin. Pan mae cefnogi, ac yn wir arfogi eithafwyr ffwndementalaidd yn unol a'i buddiannau mae'n gwneud hynny - mae cefnogaeth gyfoes i deulu brenhinol Saudi Arabia a jihadis Afghanistan yn yr 80au yn esiamplau amlwg o hynny.
Yn yr un ffordd mae llawer o'r trais sy 'n dod o du'r Gorllewin hefyd yn deillio o gamddealltwriaeth. Mae llawer o wledydd y Dwyrain Canol yn greadigaethau cyn bwerau ymerodrol Gorllewinol. Rhoddwyd llinellau ar fap oedd yn aml yn lleoli gelynion hanesyddol oddi mewn i'r un gwladwriaethau. Roedd y llinellau yn cael eu rhoi ar y map gan bobl oedd yn credu nad oedd gwahaniaeth sylfaenol yn natur cymdeithasau'r Dwyrain Canol a rhai Gorllewinol - neu bobl nad oeddynt erioed wedi meddwl llawer am y peth. 'Doedd hynny ddim yn wir, ac o'r herwydd cafwyd nifer o unbeniaethau di drugaredd yn yr ardal. Roedd llywodraethau felly yn dod i fodolaeth oherwydd nad oedd trefniadau llywodraethol mwy rhesymol yn gallu dal gwladwriaethau sylfaenol ansefydlog at ei gilydd.
Wedi cwymp yr Undeb Sofietaidd, ac yn arbennig wedi 9/11 cafodd arweinwyr Gorllewinol y syniad o ddymchwel rhai o'r unbeniaethau roeddynt wedi ffraeo efo nhw, gan gredu y byddai yna wladwriaethau democrataidd rhyddfrydig (tebyg i'r Swistir o bosibl) yn cymryd eu lle. Doedd hynny ddim yn bosibl, ac o ganlyniad mae llawer o'r Dwyrain Canol erbyn hyn y tu hwnt i unrhyw lywodraethiant call o gwbl.
Mewn geiriau eraill mae ymyraeth y Gorllewin yn y Dwyrain Canol wedi rhyddhau neu gyflymu prosesau sydd wedi gwneud llawer o'r ardal y tu hwnt i lywodraethiant, ac mae'n ymateb i hynny gyda mwy o drais. Mae ffwndementalwyr Islamaidd yn dehongli hynny fel ymysodiad crefyddol ac maent hwythau yn eu tro yn ymateb gyda mwy o drais. Ac mae'r Gorllewin wedyn yn ymateb trwy gynyddu'r traid - ac ati, ac ati, ac ati.
No comments:
Post a Comment