Ceir sawl patrwm gweddol glir - gwendid parhaus Llafur ar lefel llywodraeth leol yn y sir, dirywiad y Lib Dems, sefydlogrwydd y grwp Annibynnol, dirywiad cyflym diweddar Llais Gwynedd a chryfder cynyddol Plaid Cymru. Dwi'n credu fy mod yn gywir i ddweud bod un o'r ddwy sy 'n Aelod Unigol hefyd yn aelod o 'r Blaid gyda llaw.Cyngor Gwynedd Tach 2015
· Plaid Cymru 39
· Annibynnol 18
· Llais Gwynedd 8
· Llafur 5
· Democratiaid Rhyddfrydol 2
· Aelod Unigol 2
Cyngor Gwynedd Mai 2012
- Plaid Cymru 37
- Annibynnol 18
- Llais Gwynedd 13
- Llafur 4
- Democratiaid Rhyddfrydol 2
Cyngor Gwynedd Mai 2008
- Plaid Cymru 35
- Annibynnol 16
- Llais Gwynedd 12
- Llafur 4
- Democratiaid Rhyddfrydol 5
Rwan mae'r ffaith bod y Blaid yn parhau i ddenu cynghorwyr o'r grwpiau eraill - yn arbennig Llais Gwynedd, yn parhau i gael niferoedd sylweddol iawn o bleidleisiau mewn is etholiadau cyngor, yn parhau i ddenu ymgeiswyr o safon uchel i sefyll ym mhob is etholiad, a hynny er gwaethaf gorfod gweinyddu'r toriadau mewn gwariant cyhoeddus yn adrodd cyfrolau am wytnwch y Blaid ar lawr gwlad Gwynedd. Dwi'n meddwl fy mod yn gywir i ddweud bod y Blaid yn gryfach heddiw nag yw erioed wedi bod yn hanes Cyngor Gwynedd.
Llongyfarchiadau i Aled a Gareth a llongyfarchiadau i grwp y Blaid ar Gyngor Gwynedd. Mae'r hyn sydd wedi digwydd tros y blynyddoedd diwethaf yn gryn gamp.
3 comments:
Diolch yn fawr am y gwybodaeth yma. O gofio bod rhan fwyaf o bleidiau yn colli seddi pan yn llywodraethu, mae'n amlwg bod pobl Gwynedd yn gweld gwaith mor dda mae'r Blaid yn ei wneud yng ngwyneb yr holl doriadau gan y Pleidiau Prydeinig a'r pwysigrwydd o gael rhywun sydd yn delio a'r sefyllfa mewn ffordd aeddfed a chydwybodol.
Edrychaf ymlaen nawr i weld sut mae'r newid gwleidyddol yng Ngwynedd yn mynd i effeithio ar bwyllgorau, cadeiryddiaeth a chynrychiolaeth ar gyrff allanol. Efallai byddd y newidiadau yma yn perswadio unigolion eraill i adael un grwp penodol, pan fydd ei poced yn cael ei hitio. Fe fydd yn sicr o achosi aml i ffrae.
pam fyddai cynghorydd sir sy'n aelod o blaid wleidyddol yn dewis peidio bod yn rhan o'r grwp?
Mae o'n digwydd yn amlach nag y byddet yn meddwl. Anghytundeb efo'r grwp tros rhyw fater lleol neu'i gilydd ydi'r rheswm gan amlaf.
Post a Comment