Tuesday, November 10, 2015

Pam nad arestio cyn filwyr ydi'r ffordd orau o fynd i'r afael efo gwaddol Gogledd Iwerddon

Mae 'n ddiddorol bod Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon wedi arestio un o'r milwyr a gymrodd ran yng nghyflafan Bloody Sunday yn Ninas Derry ym mis Ionawr 1972.

Mae Ymchwiliad Saville (ewythr i'r AS Plaid Cymru, Liz Saville Roberts gyda llaw) wedi sefydlu'r ffeithiau sylfaenol.   



Lladdwyd 13 o bobl ac anafwyd 13 o bobl eraill gan rai o aelodau o 1PARA.  Collwyd rheolaeth ar y milwyr wedi iddynt fynd i mewn i ardal Weriniaethol Y Bogside sy'n agos at ganol y ddinas.  Nid oeddynt wedi derbyn gorchymyn i fynd i'r Bogside, ond roedd y swyddog oedd yn gyfrifol amdanynt wedi penderfynu gwneud hynny ar ei liwt ei hun.  Roedd hyd at 30,000 o wrthdystwyr hawliau wedi ymgynyll yno a dechreuodd rhai o 'r milwyr saethu i mewn i'r dorf.    Nid oedd yr un o'r sawl a laddwyd yn fygythiad i'r  saith milwr oedd yn gyfrifol am y lladd.  Roedd dau o'r rheiny yn meddwl (yn anghywir) eu bod yn saethu at bobl efo gynnau tra bod y pump arall wedi saethu pobl roeddynt yn gwybod nad oeddynt yn fygythiad o unrhyw fath.  Dywedwyd cryn dipyn o gelwydd wrth yr RUC a'r ymchwiliad gwreiddiol brysiog a gynhalwyd - ymchwiliad Widgery gan y milwyr oedd yn rhan o'r digwyddiad.

Rwan mae'r digwyddiadau yma ymhell, bell yn y gorffennol bellach, ac yn bersonol fedra i ddim gweld llawer o bwrpas i ddefnyddio'r system droseddol i erlyn y dynion sydd bellach mewn oed oedd yn gyfrifol am y digwyddiadau ar y diwrnod hwnnw.  Mae'r ffeithiau wedi eu sefydlu (ar ol degawdau o wadu) ac mae teuluoedd y meirwon wedi cael y rhyddhad hwnnw o'r diwedd.

Ond mae yna faterion eraill yng ngorffennol Gogledd Iwerddon i fynd i'r afael efo nhw - materion lle nad oes yna atebion clir wedi eu cyflwyno eto.  Mae'r materion hyn yn ymwneud ag i ba raddau roedd gwasanaethau cudd wybodaeth Prydain yn annog / caniatau i derfysgwyr teyrngarol roeddynt yn eu rheoli ladd nifer fawr o bobl

Mae yna ddwsinau o esiamplau o aelodau o'r lluoedd diogelwch yn lladd sifiliaid.  Er enghraifft  yn Buskhill, Swydd Down yn 1975 lladdwyd pump o bobl gan gynnwys tri aelod o 'r Miami Showband.  Roedd y ddau arall a laddwyd yn aelodau o 'r UDR - catrawd leol o'r Fyddin Brydeinig -  roeddynt yn ceisio gosod bom yng nghar y band a chwythodd hwnnw i fyny yn gyn amserol gan eu lladd nhw. Saethwyd tri aelod o'r band yn farw yn y munudau canlynol.  Cafodd dau aelod arall o 'r UDR eu carcharu yn ddiweddarach am gymryd rhan yn yr ymysodiad.  Y tri aelod o'r band a laddwyd oedd Brian McCoy, Fran O'Toole a Tony Geraghty.  

Lladdwyd rhieni i bedwar o blant, James a Gertrude Devlin o ganlyniad i gael eu saethu yn eu car yn Ebrill 1974 yn Coalisland, Swydd Tyrone.  Goroesodd Patricia Devlin - un o'u pedwar plentyn oedd yn 17 oed ar y pryd - yr ymysodiad.  Treuliodd un aelod o'r UDR gyfnod maith mewn carchar er bod un arall yn rhan o'r ymysodiad.  Roedd y dryll Smith & Wesson wedi ei 'ddwyn' o wersyll UDR ac wedi ei ddefnyddio mewn nifer o ymysodiadau eraill.  

Lladdwyd pedwar o bobl mewn ffrwydriad yn Killyliss, Tyrone o ganlyniad i ffrwydriad mewn bwthyn ym mis Ebrill 1975.  Roedd Marian Bowen, Michael McKenna a Seamus McKenna yn frodyr a chwaer, ac roedd y ferch yn feichiog ac yn agos at esgor ar blentyn.  Chwythwyd y pedwar yn ddarnau, a bu'n rhaid chwilio am hir am weddillion y babi yn y rwbel - roedd wedi cael eu chwythu o groth ei mam.  Ni chafwyd neb yn euog ond cafodd aelod o'r UDR ei garcharu am ffrwydriad tebyg mewn ty gerllaw.  Am rhyw reswm ni chafodd ei holi am y bomio yn Killyliss.  

Ym mis Chwefror 1989 cafodd Pat Finucane, un o gyfreithwyr mwyaf adnabyddus Gogledd Iwerddon ei saethu bedair gwaith ar ddeg wrth fwyta cinio Dydd Sul efo ei deulu yi gartref yng Ngogledd Belfast. Roedd y sawl a'i saethodd yn asiant i wasanaeth cudd wybodaeth Prydain, roedd y sawl a ddarparodd y wybodaeth roedd ei angen i'w saethu yn gweithio i wasanaeth cudd wybodaeth Prydain ac roedd y Browning 9mm a ddefnyddwyd yn yr ymosodiad yn perthyn i'r heddlu (RUC).  

Roedd un o'r drylliau (Browning 9mm arall) a ddefnyddwyd mewn ymosodiad ar siop bwci ar yr Ormeau Road ym Melfast yn 1992 yn un oedd wedi ei ddychwelyd i grwp parafilwrol teyrngarol gan yr RUC yn gynharach. Roedd y dryll arall (assault rifle VS58) yn rhan o domen o arfau a fewnforwyd i Iwerddon gan asiant oedd yn gweithio i wasanaeth cudd wybodaeth Prydain. Lladdwyd pump yn yr ymysodiad hwnnw - Jack Duffin, Willie McManus, Christie Doherty, Peter Magee, and James Kennedy.

Does yna ddim un o'r ffeithiau 'dwi wedi cyfeirio atynt uchod yn gynhenus - maen nhw wedi eu cymryd o achosion llys, cwestau i farwolaethau neu ymchwiliadau'r Historical Enqueries Team.  Fel y dywedais, mae yna ddwsinau o achosion tebyg lle mae cydweithrediad rhwng aelodau o'r lluoedd diogelwch neu'r gwasanaethau cudd wedi eu profi - ac mae yna lawer mwy o achosion lle mae honiadau tebyg nad ydynt wedi eu profi.  Yr hyn sydd ddim mor glir ydi pa mor systemig oedd y cydweithredu - pwy oedd yn gwybod ac i ba raddau mae pethau'n cael eu cyfeirio.

Byddai ymvhwiliad i hynny (yn hytrach na'r ymchwiliadau i achosion unigol sydd yn cael eu cynnal) yn llawer mwy gwerthfawr nag erlyn hen ddynion bron i bedwar deg pump mlynedd ar ol eu troseddau.  Ond gallai ymchwiliad ehangach daflu goleini ar sut mae'r wladwriaeth Brydeinig yn ymateb pan mae'n teimlo ei bod o dan fygythiad - a gallai gyfeirio at sut y bu'n ymddwyn ar adegau eraill yn ei hanes.  Dyna pam nad ydi ymchwiliad felly byth yn debygol o gael ei chynnal.





No comments: