Ond yr hyn sydd o fwy o ddiddordeb yma ydi diffyg crebwyll mathemategol a gwleidyddol Felix. Gadewch i ni edrych ar y ffigyrau:
Llaf - 288
PC - 248
Ann 1 - 177
People 1st - 58
Toriaid - 53
Ann 2 - 28
Ymddengys bod Felix yn credu y byddai o leiaf 41 (77%) o'r 53 pleidlais a gafodd ei blaid wedi mynd i 'r Blaid oni bai bod Tori ar gael i bleidleisio trosto - er bod ganddynt 2 ymgeisydd annibynnol, 1 ymgeisydd People First, un Llafurwr, neu aros adref a pheidio pleidleisio i ddewis rhyngddynt. Mae trosglwyddiad o 77% yn eithaf uchel rhwng aelodau o'r un plaid mewn cyfundrefnau etholiadol lle trosglwyddir pleidleisiau - tra bod trosglwyddiad o llai na 2% yn weddol gyffredin rhwng pleidiau hollol wahanol i'w gilydd fel Plaid Cymru a'r Toriaid.
Dwi'n gwybod bod Felix yn credu mewn ysbrydion a gwyrthiau a stwff felly - ond wir Dduw mae'r ddamcaniaeth bach yma yn bellach oddi wrth realiti na'r naill gred na'r llall.
1 comment:
Dywedodd David Davies Mynwy unwaith mai y glymblaid naturiol yw Llafur a'r Toriaid. Mae Unoliaethwyr Llafur ofn hyn oherwydd buasai eu cefnogwyr Cymreig yn gweld yr hyn ydynt. Yn y blynyddoedd i ddod bydd gan gan Llafur Cymru ddewis o ddod yn annibynnol o'r Blaid Lafur brydeinig, neu bydd pobl Cymru yn eu gadael yn yr un modd a maent wedi gwneud yn yr Alban. Er fod y Toriaid yn gweithredu ar lefel mwy Cymreig na Llafur maent yn gwneud hyn am resymau ymarferol yn hytrach na rhesymau gwlatgarol Cymreig
Post a Comment