Diolch i Kezia Dugdale - arweinydd newydd Llafur yn yr Alban am egluro i ni sut mae Llywodraeth Cymru yn penderfynu ar sut i flaenori gwariant.
“I said to Huw that their budget is being cut and they have all these other pressures from the NHS, which is causing them some challenges in Wales, and so on and I said to him, ‘where are you finding the money from for these other big commitments?’ and he said they would worry about that later" _ _ “What matters to him is the political will to do something. I was quite impressed by both the boldness and frankness of that”.
Petai yna fewath o dystiolaeth bod Bwrdd Iechyd neu Awdurdod Lleol yn dod i benderfyniadau ynglyn a sut i wario arian cyhoeddus yn y ffordd idiotaidd yma, byddai 'r Cynulliad yn eu rhoi mewn mesurau arbennig cyn i chi gael cyfle i ddweud 'Mae Huw La La Lewis yn benci o'r radd flaenaf'.
Tybed os oes yna unrhyw wlad arall yn ddigon anffodus i gael ei rhedeg gan giwad mor gwbl ddi glem?
2 comments:
Anhygoel
Am Gezia Garadow ar ffynonellau arian i wario, gwelwch yma :
http://wingsoverscotland.com/when-two-and-two-make-anything-you-like/
Yr unig broblem i mi ydi pam mae'r Cymry'n cefnogi Llafur o hyd? 'Sdim ots beth ydi K.D. a'i chriw yn dweud yn yr Alban lle does dim gobaith iddyn nhw cael pŵer. Nid felly yng Nghymru wrth gwrs, druan o beth!
Post a Comment