Chwi gofiwch i Flogmenai dynnu sylw at y ffaith i Weinidog Iechyd Cymru a'i ddirprwy fynd o gwmpas Ysbyty Gwynedd yn eu rol gweinidogol tra'n tywys ymgeisydd Cynulliad sydd heb rol o unrhyw fath o gwmpas y sefydliad. Y broblem yma - a ninnau ar drothwy etholiad - ydi bod rolau swyddogol a gwleidydda etholiadol eithaf amrwd yn cael eu cymysgu. Mae hyn yn tanseilio hygrededd yr ymweliadau swyddogol - ac yn caniatau i bobl godi cwestiynau ynglyn a'u gwir bwrpas.
Mae'n ymddangos nad y Gweinidog Iechyd a'i ddirprwy yn unig sydd wrthi. Wele'r lluniau hyfryd isod o'r Gweinidog Addysg, Huw Lewis yn ystod ymweliad ag Ysgol Gynradd Bryn Teg yn Llwynhendy ger Llanelli.
Y cymeriadau yn y lluniau ydi Geraint Jones pennaeth Ysgol Bryn Teg, Huw Lewis y Gweinidog Addysg, Sharen Davies, un o gynghorwyr (Llafur) Llwnhendy, Keith Davies, Aelod Cynulliad Llanelli a Lee Waters ymgeisydd Llafur yn Llanelli yn etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf.
Rwan mae'n amlwg ei bod yn briodol bod Mr Jones yn ei ysgol ac mae'n wir bod Mr Lewis - fel Gweinidog Addysg - am ymweld a sefydliadau addysgol o bryd i'w gilydd. Does yna ddim problem efo Mr a Ms Davies yn cadw cwmni iddo chwaith - mae 'r ddau yn cynrychioli Llwynhendy ar gwahanol gyrff etholedig. Er bod rhaid nodi nad oes yna arwydd o gynghorydd arall Llwynhendy, Theressa Bowen sy'n perthyn i'r Grwp Annibynnol ar y cyngor yn y llun chwaith - tybed os cafodd hi wahoddiad?
Ond y cwestiwn mwy pwysig ydi - beth mae Lee Waters yn ei wneud yno? Does yna'r un copa walltog (nag unrhyw un moel o ran hynny) wedi pleidleisio iddo yn Llwynhendy. Pam bod rhywun sydd heb unrhyw statws swyddogol yn Llwynhendy - ond sydd eisiau pleidleisiau pobl y dref honno ym mis Mai - yn dilyn gweinidog yn Llywodraeth Cymru ac aelodau etholedig o gwmpas ysgol?
Dwi ddim yn gwybod yr ateb - ond mae'n edrych fel esiampl arall gan Lafur o ddefnyddio busnes gweinidogol swyddogol i bwrpas chwilio am bleidleisiau yn lleol.
No comments:
Post a Comment