Tuesday, January 28, 2014

Ynglyn a'r colofnwyr Cymraeg

Yr hyn sy'n anarferol am y Gymru Gymraeg o ran cyfleoedd i fynegi barn wleidyddol yn gyhoeddus ydi cyn lleied o bobl sy'n cael y cyfle i wneud hynny yn rheolaidd.  Mae gennym ni Dylan Iorwerth, Gwilym Owen a Leighton Andrews yn Golwg a Karen Owen ac Arthur Thomas yn Y Cymro.  Mae colofn Hywel Williams yn Y Cymro yn datgan barn wleidyddol, ond mae yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth San Steffan.

Gall hyn fod yn gryn broblem - does yna ddim llawer o amrywiaeth  o ran yr agweddau sy'n cael eu mynegi (er bod Dylan yn wahanol i'r lleill).  Mae saga diweddar yr iaith Gymraeg a'r dosbarth canol yn esiampl dda o hyn.  Chwi gofiwch i Karen Owen 'sgwennu erthygl faith yn y Cymro oedd yn honni bod y 'dosbarth canol' Cymraeg yn lladd yr iaith trwy yrru pobl dosbarth gweithiol oddi wrthi.  Yr hyn na wnaeth yn yr erthygl (na neithiwr yn Dan yr Wyneb o ran hynny) oedd cyflwyno mewath o dystiolaeth i gefnogi ei damcaniaeth.

Wnaeth hynny ddim atal Gwilym Owen ac Arthur Thomas rhag neidio i'r adwy i gytuno efo hi, ei chanmol am ei dewrder a'i safonau proffesiynol ac ati.  Ond wnaeth yr un o'r ddau ddarparu unrhyw dystiolaeth i gefnogi damcaniaeth Karen chwaith.  Rydym eisoes wedi nodi bod y dystiolaeth ystadegol yn awgrymu' n gryf iawn bod y gwirionedd hollol groes i ganfyddiad y tri - sef bod y dosbarth gweithiol yn fwy tueddol i gadw ei Gymraeg mewn ardaloedd lle ceir dosbarth proffesiynol Cymraeg ei iaith nag yw mewn ardaloedd lle ceir llai o amrywiaeth o ran dosbarthiadau cymdeithasol.

Dydi'r  ffaith bod y ddamcaniaeth yn gwbl wallus ddim yn atal lled gonsensws rhag datblygu ym myd bach y colofnwyr Cymraeg ei bod yn ddamcaniaeth herfeiddiol a threiddgar nad oes gan neb ond y dywydedig golofnwyr Cymraeg y deallusrwydd i'w deall a'r dewrder i'w mynegi.  Ond y cwbl a geir mewn gwirionedd ydi tri pherson yn myllio yn erbyn pobl nad ydynt yn eu hoffi - swyddogion Cyngor Gwynedd, athrawon, capelwyr, pobl sy'n mynychu cymdeithasau Cymreig, pobl sydd ddim yn darllen Y Cymro, pobl sy'n troi i'r Saesneg ym mhresenoldeb Saeson, ysgolion Cymraeg, protestwyr iaith, pobl sy'n gweithio i fentrau iaith ac ati, ac ati, ac yn priodoli dirywiad y Gymraeg i'r bobl hynny.

Mewn gwirionedd  mae gennym ddealltwriaeth go dda  o'r  hyn sy'n bygwth yr iaith.  Ond petai haneswyr yn y dyfodol yn edrych ar y cyfryngau print Cymraeg yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth arall (nid bod hynny'n mynd i ddigwydd wrth gwrs) byddant yn dod i'r casgliad ein bod yn weddol ddi glem ac yn wir gwallgo.

Ar un olwg mae hyn oll yn eithaf di niwed, ond mae  agwedd digon sur i'r peth i gyd.  Mae argyfwng go iawn yn wynebu'r Gymraeg ac mae camau sy'n bwysig i ni eu cymryd i'w harbed.  Ar y gorau dydi cymylu'r dyfroedd efo nonsens a mymbo jymbo ddim o gymorth i ni gymryd y camau hynny.  Ar y gwaethaf mae defnyddio argyfwng y Gymraeg fel pastwn i golbio unigolion a grwpiau nad ydym yn eu hoffi yn beth digon anymunol i'w wneud. 

4 comments:

BoiCymraeg said...

Rydw i a fy nheulu'n "nouveau Cymry" yn yr ystyr nad oes hanes o siarad y Gymraeg yn ein teulu (maen nhw o Loegr a dweud y gwir), a na ddysgodd fy nhad air o Gymraeg tan oedd e'n 27 oed, a d'an ni'n "ddosbarth canol" Gymraeg o ardal Saesneg (y Barri). Mae hi *yn* anymunol clywed am bobl yn lladd arnyn ni fel pe na bai gennym ni'r un hawl rywsut i'r Gymraeg ag sydd gan bobl dosbarth gweithiol Bethesda (nid bod gen i ddim byd yn eu herbyn nhw wrth gwrs).

Un o Eryri said...

Yn anffodus prif bleser rhai pobl yw ymosod ar unigolion gweithgar

Anonymous said...

Er nad wyf yn cytuno cant y cant efo Karen, Arthur na Gwilym, a minna'n un sydd mewn gwirionedd wedi symud o un dosbarth cymdeithasol i'r llall, ma' rhaid i mi ddweud fod dy safbwynt yn llai na gwrthrychol. Mi wyt yn ymosodol a nawddoglyd, a dyma lle wyt yn gadael chdi dy hyn a dy ddarllenwyr i lawr. Mi wyt ti a dy fath yn codi cyfog ar y werin ac yn creu bwlch cymdeithasol.

Dwi'n gwybod fydd na ymateb sarhaus i'r nodyn yma. Fedri di'm helpu dy hyn.

Coelia fi - ma ganddynt bwynt a ma' hi'n hen bryd i chdi rhoi chydig o amsar i feddwl am eu safbwynt. Siarada efo rhai tu allan i dy gylch bach di i ddechra.

Dwi'n gobeithio gweld dadansoddiad mwy sensitif a meddylgar yn y dyfodol agos. Dim mwy o'r gwadu trahaus yma. A dweud y gwir wyt ti rel blydi sais efo dy holl graffia a data.

Cai Larsen said...

Mi fyddwn i'n meddwl am eu safbwynt petaent yn cyflwyno tystiolaeth - ond dydyn nhw ddim - dim ond ailadrodd rhagfarn trosodd a throsodd a throsodd.

Oes gen ti dystiolaeth ta 'mond sarhad personol?