Mi geisiwn ni wneud hyn mewn ffordd - ahem - mor addfwyn a phosibl. Roedd Efa Gruffudd Jones yn anghywir i dderbyn MBE gan y sefydliad Prydeinig. Wna i ddim dadlau nad oedd ganddi hi hawl i dderbyn yr 'anhrydedd' na bod rhywbeth yn anfoesol am ei dderbyn, na'i bod yn bradychu unrhyw beth - materion goddrychol ydi'r rheini - efallai bod agweddau gwleidyddol gwaelodol Ms Jones yn wahanol i fy rhai fi, ac mae ganddi cymaint o hawl i'w barn wleidyddol a sydd gen i. Mi wna i ddadlau serch hynny bod yr hyn a wnaeth - ag ystyried ei gwaith a'r rhesymau pam y cafodd yr 'anhrydedd' - yn rhyfeddol o ansensitif. Y rheswm am hyn ydi bod yr hyn ddigwyddodd yn syrthio i batrwm lle mae ffrwd wleidyddol leiafrifol yn cael ei hymylu a'i hynysu. Fel mae'n digwydd 'dwi'n cael fy hun yn rhan o'r ffrwd honno, ac fel mae'n digwydd mae llawer o bobl eraill sy'n uniaethu efo'r mudiad mae Ms Jones yn brif weithredwr arno yn perthyn i'r traddodiad hwnnw.
Mae 'anrhydeddau' y sefydliad Prydeinig yn rhan o rwydwaith o symbolau, naratifau a chredoau sydd yn cynnal y cysyniad o Brydeindod. Dydi o ddim ots wrth gwrs bod y symbolau a chredoau sydd wrth wraidd Prydeindod yn nonsens llwyr - mai'r ffordd orau o ddewis pen i'r wladwriaeth ydi dewis rhywun o deulu Almaeneg penodol sydd wedi eu claddu o dan fynydd o bres cyhoeddus, clymu un sect crefyddol i'r wladwriaeth, creu heiorarchiaeth lled ffiwdal o farchogion, arglwyddi, ieirll, barwnau, dugesau ac yn fwy diweddar MBEs ac OBEs.. Dydi o ddim ots chwaith bod llawer o symboliaeth Prydeindod yn sentimentaleiddio a mawrygu ymerodraeth a achosodd fwy o ddioddefaint dynol na bron i unrhyw sefydliad arall yn hanes dynoliaeth.
Mae'r llwyth yma o mymbo jymbo cyntefig yn cael ei ystyried yn normalrwydd gwrthrychol gan y cyfryngau torfol a dyna pam bod y BBC Cymru,y Western Mail ac ati yn ffrwydro mewn llawenydd ecstatig pan mae yna benblwydd neu enedigaeth brenhinol. Maen nhw'n credu eu straeon tylwyth teg eu hunain, ac yn cymryd yn ganiataol bod pawb arall yn eu credu nhw hefyd. Neu o leiaf does ganddyn nhw ddim mymryn o ots am ddaliadau y sawl nad ydynt yn eu credu - caiff rheiny eu hanwybyddu yn llwyr.
Rwan dydi pawb yn y DU ddim yn credu'r stwff yma wrth gwrs. Ychydig iawn o bolio fydd yn digwydd, ond mae'n fwy na thebyg bod agweddau tuag at y frenhiniaeth a sefydliadau Prydeinig yn gyffredinol yn amrywio - maen nhw'n fwy poblogaidd pam mae yna ymgyrch gyfryngol i'w poblogeiddio. Mae elfennau o'r Chwith wedi tueddu i gael problemau efo mytholeg Prydeindod, ond lleiafrif ydynt yn nheulu'r Chwith. Ond mae'r diwylliant gwleidyddol unoliaethol yn gefnogol, a dydi'r Blaid Lafur ddim yn eithriad. Mae'r setliad sy'n dal y Blaid Lafur at ei gilydd yn sicrhau bod elfennau gwrthnysig y Chwith yn cadw'n dawel am faterion cyfansoddiadol.
Mae'r ffrwd honno yn bodoli yng Nghymru wrth gwrs - mae yna draddodiad Chwith gwrth sefydliadol yng Nghymru. Ond mae yna draddodiad rhyddfrydig Gymreig gwrth sefydliadol yn bodoli hefyd - a'r Mudiad Cenedlaethol ydi etifedd y traddodiad hwnnw y dwthwn hwn. Mae naratif wleidyddol y Mudiad hwnnw yn wahanol i un y traddodiadau unoliaethol, mae'r mytholegau a'r symbolau mae'n ymgysylltu a nhw hefyd yn wahanol. Yn wir mae yna elfen o zero sum game yn perthyn i wleidyddiaeth Cymru - mae naratifau a symbolau unoliaethol a rhai cenedlaetholgar yn tynnu'n groes i'w gilydd. Mae coleddu symbolau un traddodiad yn awgrymu gwrthod rhai'r llall.
Dydi'r Bib a'r cyfryngau yn ehangach ddim yn trafferthu cydnabod bodolaeth y traddodiad amgen hwn wrth gwrs - mae digwyddiadau Prydeinig / Brenhinol yn cael eu trin fel pe na bai unrhyw anghytundeb o gwbl ynglyn a'u priodoldeb. Mi'r ydan ni'n disgwyl hynny - sefydiadau Prydeinig ydyn nhw wedi'r cwbl. Ond dydan ni ddim yn disgwyl i'r Urdd geisio ein sgubo ni o dan y carped. Mae penderfyniad Ms Jones yn creu'r argraff nad ydi'r Urdd yn deall bod yna draddodiad gwleidyddol ac ideolegol gwahanol yng Nghymru, neu o leiaf bod yr Urdd yn derbyn ei fod yn draddodiad y gellir ei anwybyddu - yn union fel y BBC. Mae'n rhoi'r argraff ei bod yn gweld yr ideoleg sy'n rhoi bodolaeth iddi hi ei hun yn israddol.
A bod yn deg efo Ms Jones, mae hi mewn cwmni da - mae cenedlaetholwyr Cymreig wedi bod a thueddiad i blygu i Brydeindod a neidio'n ddiolchgar ar unrhyw beth a deflir i'w cyfeiriad ers ffurfio'r Mudiad Cenedlaethol - a chyn hynny. Diffygion yn natur sylfaenol y syniadaeth genedlaetholgar sydd wrth wraidd hyn - rhywbeth sydd wedi ei drafod ar y blog yma yn y gorffennol sawl gwaith - yma er enghraifft.

17 comments:
Pwy ydi Efa Gruffydd Jones ? . Rhaid cyfaddef nad wyf yn gwybod y nesaf peth i ddim amdani.
Prif weithredwr yr Urdd ac aelod o deulu cenedlaetholgar adnabyddus - nid bod y busnes teulu yma nag acw mewn gwirionedd.
Efallai mai cymeryd arweiniad gan y sylfaenydd mae hi?
Bebbsus ? Larsensus ? . O fy mhrofiad i yn y coleg, roedd hyrwyddwyr yr Urdd yn dueddol o fod yn 'Gymry Da' yn hytrach 'Cenedlaetholwyr da' .
Wel, mae'r Blaid Lafur yn rheoli pob agwedd o Gymru. Ni fydd hyd yn oed y mudiad iaith (os oes un) yn rhydd o reolaeth, byd-olwg a'r hyn sy'n dderbyniol yng Nghymru.
Brits 10 - Cymraeg 0
Pwy yw ei theulu?
Ti di taro'r hoelen ar ei phen fan hyn.
Ond efallai y peth sydd yn fy nychryn i fwyaf am y stori hon yw meddwl nad oedd gan Efa Gruffydd Jones ddewis ond derbyn yr MBE os oedd hi am gynnal ei gyrfa yn y Gymru sydd ohoni.
Byddai gwrthod megis cyflawni "hara kiri" symbolaidd yn y Gymru ddatganoledig sy'n cael ei domiwnyddu gan Blaid Lafur mor Brydeinig ei golygon a'i theyrngarwch.
Heb ddymuno bod yn rhy bersonol yn erbyn Efa Gruffudd Jones a'i dewis ond efallai nad ydi hi'n gwybod yn well neu'n wahanol ar ol bod ar gwrs 'hyfforddi' Matrix gan yr y mudiad erchyll a anatebol hwnnw, Common Purpose. Cwrs y mae nifer go helaeth o bobol ein cyrff cyhoeddus yma yng Nghymru wedi bod arno yn anffodus. Cymerwch eich pic yma:
http://www.cpexposed.com/graduates
ydio'n debygol bydd y blaid yndiarddel yr Arglwyddi Wigley a Thomas am dderbyn anrhydedd i dy'r Arglwyddi?? neu oes unrheol i rai ac un arall i eraill. Beth ydy polisi'r blaid ar anrhydeddau?
Mae'n anodd iawn deall y cwestiwn. Does yna neb erioed wedi ei ddiarddel o'r Blaid am dderbyn anrhydedd a hyd y gwn i doedd neb p'r sawl a gafodd anrhydedd ddydd Mercher yn perthyn.
O a byddai'n syndod gen i petai unrhyw blaid efo polisi anrhydeddau.
Mae Efa Gruffydd Jones wedi hen golli cysylltiad â'r ffyddloniaid ar lawr gwlad sy'n slafio o wythnos i wythnos i gynnal y Mudiad - God Sêf ddy Cwîn!!
Mi wnaeth Grav yn iawn yn y gorfforaeth mwyaf Prydeinig oll er iddo wrthod anrhydedd.
Ew,chwarae teg iddi - rwy'n siwr y bydd yn mynnu fod yna byntin coch, gwyn a gwyrdd yn addurno'r palas pan aiff yno i dderbyn yr anrhydedd.
Roedd Barwn Wigley yn ochneidio am ei anrhydedd ac y "sosialydd" Arglwydd Thomas wrth ei fodd yn llyfu tin y cwin. A'i dyma yw dyfodol Plaid Cymru ?
Roeddwn wedi bwriadu rhoi o leiaf £100 tuag at Eisteddfod Meirionnydd 2014 ond fyddai ddim yn gwneud hynny rwan - fe gaiff Efa ofyn i'w ffrindiau yn y palas am swm cyfatebol.
Dwi'n ofni mai Aled GJ sydd agosaf at y gwir cas y tro yma.
Go brin y byddai Efa wedi bod mor annoeth â chreu rhwyg o fewn y genedl (ac o fewn ei theulu ei hun o ran hynny) heb reswm gwirioneddol gryf.
Dylem roi'r gorau i lambastio Efa a chanolbwyntio ar y ffactorau a olygai na fedrai hi, fel prif weithredwr mudiad sydd mor ddibynnol (ysywaeth) ar gefnogaeth y gyfundrefn Brydeinig, wrthod yr anrhydedd heb i hynny amharu ar gefnogaeth y gyfundrefn i'r mudiad. Canys dyna ble gorwedd y sgandal go iawn.
Post a Comment