Thursday, August 01, 2013

Ynys Mon - diweddariad bach

Dwi'n deall i 65% o bleidleisiau post Ynys Mon gael eu dychwelyd bellach, ac mae'n debyg y bydd mwy yn dod i law cyn diwedd heddiw.  Ymddengys i gryn dipyn ddod i law yn gymharol hwyr  felly.  Mae'n bosibl  y bydd yn agos at 70% wedi dod i mewn  erbyn diwedd heddiw.  Dydi hyn ddim yn brin iawn o'r gyfradd arferol - felly mae'n bosibl y bydd y gyfradd gyffredinol yn uwch na'r 40% a awgrymwyd gennyf ddoe.  

3 comments:

Hogyn o Rachub said...

Ddarllenais i hyn hefyd, ac ro'n i wedi fy synnu braidd. Os mae'r hyn wyt ti'n ei ddweud am Rhun yn bod ar y blaen yn y pleidleisiau post yn wir (a bod hynny'n parhau er bod y ganran ohonynt a ddychwelwyd mor uchel) mae'n bosibl y gallai fod yn edrych ar fuddugoliaeth go swmpus.

Serch hynny, dwi ddim isio jincsio dim!

Anonymous said...

Dwi'n anghytuno efo pleidleisiau post. Mae nhw wastad yn ffafrio'r blaid leol sydd mewn grym. Bydd lot o weithwyr a chynghorwyr lleol yn 'pwyso' ar hen bobl, pobl mewn angen, pobl dlawd - pobl sydd yn syml methu fforddio bod yn annibynnol - iddynt bleidleisio'r ffordd iawn.

Mae pleidleisiau post yn llwgr.

Anonymous said...

plant bach y blaid yn dawnsio ar y flyover yn LPG henno.