Friday, August 02, 2013

Ymgyrch Ynys Mon - argraffiadau milwr troed

Dwi ddim am sgwennu darn hir - dwi wedi blino a byddwn yn dod yn ol at y pwnc eto.  Ond dyma rai argraffiadau cychwynol am yr ymgyrch.



Dwi'n argyhoeddiedig mai hon oedd yr ymgyrch etholiadol orau yn hanes y Blaid.  Cymrodd cannoedd o bobl rhyw ran neu'i gilydd ynddi - pobl o Fon wrth gwrs, pobl o Arfon, pobl o rannau eraill o'r wlad - llawer ohonynt yn teithio ac yn aros ym Mon ar eu cost eu hunain.  Maent wedi cwffio am y canlyniad gwych yma ty wrth dy, stryd wrth stryd, pentref wrth bentref.

Un o'r rhesymau pam y cafwyd ymgyrch mor egniol oedd bod pobl yn ymwybodol y gallai rhywbeth mawr ddigwydd.  Natur broffesiynol yr ymgyrch oedd yn gyfrifol am hynny i raddau helaeth.   Roedd yr ymgyrch wedi ei harwain yn wych - roedd y canfasio yn gysact, trylwyr a gwyddonol,  roedd y timau canfasio unigol yn cael eu harwain yn effeithiol, roedd y naratif yn gadarnhaol, roedd defnydd effeithiol a phwrpasol yn cael ei wneud o ddata canfasio ac roedd yr ymgyrch yn cael ei haddasu yn unol a deilliannau'r  data hwnnw.  Roedd yn ymgyrch ysgafn droed a hyblyg - ac yn hyn o beth roedd y cyferbyniad efo ymdrech haearnaidd ddi gyfnewid Llafur yn greulon.  Prif weithredwr y Blaid, Rhuanedd Richards oedd yn arwain yr ymgyrch fanwl, ddeallus yma, ac yn ei harwain o Ynys Mon. Mae llawer o ddiolch hefyd i Geraint Day.

Mae'r ymgyrch yn adlewyrchu'n dda ar arweinydd y Blaid hefyd.  Mae Leanne yn arweinydd gwahanol i'r hyn a gafwyd yn y gorffennol - ei phrif nodwedd i mi ydi ei bod yn arweinydd hynod o hands on.  Mae wedi ei lleoli yn Ne Ddwyrain Cymru ond rydym wedi ei gweld yn aml iawn yn y Gogledd Orllewin ers iddi ennill yr arweinyddiaeth - yn ystod ymgyrchoedd etholiadol ac yn ystod cyfnodau eraill. Mae'n dda iawn am rwydweithio efo aelodau.  Mae hyn yn dod ag arweinyddiaeth y Blaid a'r aelodaeth yn nes at ei gilydd, ac mae hyn yn wych o safbwynt moral.  Mae ei phresenoldeb mynych iawn ar lawr gwlad yn ymgyrchu ochr yn ochr a'r aelodau cyffredin yn dyrchafu statws yr ymgyrch yng ngolwg ymgyrchwyr ac etholwyr fel ei gilydd.

Ac wedyn mae yna'r ymgeisydd penigamp wrth gwrs.  Mae llawer yn cael ei ddweud amdano ar hyn o bryd, a wna i ddim ychwanegu llawer at hynny ag eithrio i ddweud un peth.  Fel ymgeisydd mae'n ffitio'r etholaeth fel maneg - gwers i'w hystyried ym mhob rhan o Gymru.

Roedd llawer o weithwyr proffesiynol y Blaid yn ymgyrchu ac arwain timau am wythnosau.  Efo Dic Thomas (arweinydd tim Arfon) yr ymgyrchais i yn bennaf, ond roedd ei frwdfrydedd, trwyaldre a phroffesiynoldeb yn adlewyrchu gwaith clodwiw gweddill y staff proffesiynol.  Roeddynt yn rhan allweddol o'r hyn ddigwyddodd.

Roedd mewnbwn y cynghorwyr a etholwyd yn gynharach eleni hefyd yn hynod werthfawr - eu llwyddiant nhw oedd is seiledd y canlyniad rhyfeddol a gafwyd ddoe.  Cafwyd hefyd gefnogaeth llawr gwlad mynych a phwrpasol gan y rhan fwyaf o ddigon o ASau ac ACau'r Blaid.

A dyna chi - templed ymgyrch lwyddiannus wedi ei gosod yn glir - arweinyddiaeth effeithiol, dulliau ymgyrchu cyfoes, ymyraeth bwrpasol o'r canol, hyblygrwydd, ymgeisydd perffaith, naratif atyniadol, cyfathrebu'r naratif yn effeithiol, ymgyrchwyr gwirfoddol rif y gwlith, cyd weithio rhwng pawb, cysactrwydd - attention to detail. Syml yn tydi?

Wna i ddim manylu ar yr hyn a gafodd Llafur yn anghywir - am resymau amlwg.  Ond edrychwch ar y baragraff uchod - ac roedd bron i pob un o'r rhinweddau a restrir yn absennol o'u hymgyrch neu'n ddiffygiol.

Mae'n arwyddocaol bod llawer o'u pobl yn meddwl y byddant yn ennill reit at y diwedd.  Cawsant eu chwalu hyd yn oed yn eu cadarnleoedd trefol - eu taro gan dren nad oeddynt yn ei gweld yn dod.  Bu ymgyrch y Blaid ym Mon yn fodel pwerus i weddill Cymru yn hyn o beth.

Un nodyn bach cyn gorffen.  Yr hyn fydd fwyaf cofiadwy i mi am yr holl ymgyrch oedd cerdded i neuadd Plas Arthur i glywed y canlyniad a gweld pobl yn syllu'n geg agored ar y bwrdd lle'r oedd y pleidleisiau wedi eu pentyrru yn hynod anghyfartal a meddwl wrthyf i fy hun - be _ _ _ _ ydan ni wedi ei wneud?

14 comments:

Anonymous said...

Sylwadau teg. Dwi'n meddwl fod wir angen diolch i Rhuanedd Richards a'i thim ac yn arbennig i Leanne Wood.

Mae Leanne wedi gwneud y 'bara brith circuit' ers misoedd bellach. Dwi wir yn rhyfeddu a pharchu ei chomitment a'i nerth a'i brwdfrydedd. Mae hi wedi arwain o'r blaen ac mae pobl ar lawr gwlad wedi gweld a pharchu hynny. Diolch Leanne.

Fy unig bryder ydy fod lot o son am fod yn 'bositif' ond dydw i heb glywed fawr ddim am bolisi. Dwi hefyd heb glywed dim naratif genedlaetholaidd o gwbl sy'n herio'r cysyniad o'r wladwriaeth Brydeinig neu symud cenedlaetholdeb yn ei blaen. Mae wir angen hyn - fel mae'r SNP wedi dangos - er mwyn shifftio'r ddadl wleidyddol oddi ar naratif Brydeinllyd i un Gymreig. Doedd Rhun ddim yn swnio'n rhyw bositif iawn am annibyniaeth heddiw ar Radio Cymru - rhyw 'nid yr Alban ydym ni' 'fe ddaw o ddim ond os ydy pobl Cymru ei eisiau' etc etc. Lle oedd y neges bositif yn dweud 'ie, mae Cymru a Mon yn gythreulig o dlawd, bod yn rhan o Brydain sy'n gyfrifol am y tlodi, allfudo a sefyllfa yma. Rydym ni fel cenedl yn gallu gwneud yn well efo annibyniaeth'? Lle oedd y neges yma i roi hyder i'n cefnogwyr a symud yr agenda genedlaethol ymlaen.

Hynny yw, gobeithio na fydd Rhun yn fersiwn mwy carismataidd o IWJ sy'n ceisio ei orau glas i beidio herio Prydeindod a pheidio cynnig dadansoddiad genedlaetholaidd hyderus a phositif i bobl Cymru.

Ond fel arall, gwych. Gwirioneddol gwych. Ac ie, parch i Rhun ap Iorwerth am gymryd gambl fawr iawn. Mae hynny'n rhywbeth i ddathlu a pharchu. Diolch Rhun.

Anonymous said...

Diolch yn fawr, Blog Menai, am ein diddanu dros yr wythosau diwethaf. A llongyfarchiadau i Rhun ac i'r Blaid. Buddugoliaeth ysgubol. Mae hefyd yn ergyd o blaid pragmatiaeth a gwleidydda ymarferol.

Wnaiff piwritaniaeth ynglyn ag annibyniaeth ac ynni niwcliar ddim denu Pleidwyr achlysurol ac ymylol. Mae felly'n gwlwm pump i solar plexus Syniadau sy'n prysuro i fod yn gyfuniad rhyfedd o Greenpeace a Bill Cash.

Anonymous said...

Rhag ofn i ni fynd yn rhy uchel i'r cymylau beth am gofio mai 43% o etholwyr Mon a bleidleisiodd, er yr holl ymgyrchu a'r agwedd 'bositif'. A fydd ymgyrchwyr Arfon a gweddill Cymru ddim ar gael pan ddaw'n etholiad cyffredinol i'r Cynulliad.

Anonymous said...

Iawn, dwi yn mynd i fod yn ychydig yn negatif am Rhun a hynny dim ond am fy mod am ei weld yn rhwbio trwynau Llafur yn y llaid am y 10 mlynedd nesa. Dwi am weld Plaid Cymru yn cael y fath o rym ag sydd gan yr SNP yn yr Alban.

Dwi wedi gweld rhyw 3 neu 4 cyfweliad efo Rhun nawr a does dim y mae o wedi ddweud yn rhywbeth na all unrhyw aelod arall o unrhyw blaid arall ei ddweud - h.y. gwaith i bobl ifanc, dyfodol teg a'r bellach irritating 'positif'.

Hynny yw, mae wedi colli o leiaf 3 neu 4 cyfle i werthu URL Plaid Cymru. Byddai Alex Salmond (nac Adam Price) byth yn gwneud hyn. Dylsai POB cyflweiad ar y radio a'r teledu gael ei weld gan ACau ac ASau Plaid Cymru fel cyfle i hyrwyddo cenedlaetholdeb a neges unigryw Plaid Cymru.

Dydy hynny heb ddigwydd. Dydy achos rhagor o rym i Gymru heb ei glywed; dydy methiant di-gamsyniol Llundain a San Steffan heb ei glywed; dydy cam-reolaeth Llafur o'r system iechyd ac addysg heb ei glywed; dydy Cymru'n genedl Ewropeaidd heb ei glywed; dydy diffyg cefnogaeth llywodraeth Llafur i codi treth ar dai haf heb ei glywed; dydy penderfyniad Llafur i wrthod gadael i Gymru gael yr hawl dros ei hadnoddau naturiol fel dwr heb ei glywed.

Oes angen i mi fynd ymlaen? Y rheswm mae'r SNP mor llwyddiannus yw nad oes yn cyfweliad na chyfle i roi cennad y blaid honno yn cael ei cholli. Nid piwritaniaeth yw hyn - hwn yw craidd pwrpas y Blaid a chenedletholdeb fydd yn ennill Cymru i'r Blaid ond mae'n RHAID i bobl fel Rhun dechrau bod yn fwy hyderus yn y genhadaeth honno. Ar y funud mae Rhun yn swnio fel IWJ ac yn dweud dim byd diddorol, dim byd unigryw ac ddim yn hyrwyddo cenedlaetholdeb na chreu gwrth ddadl genedlaetholaidd.

Efallai mai un rheswm na wnaeth y BBC cyfro'r cownt neithiwr yw fod nhw ddim yn gweld gwleiudyddiaeth Cymru yn wahanol i wleidyddiaeth San Steffan. Am hynny, mae'n rhaid i Blaid Cymru gymryd peth o'r bai. Os nad yw aelodau carismataidd, talentog, rhugl fel Rhun yn barod i rhoi dadl dros genedlaetholdeb Gymreig yna does rhyfedd yn y byd fod cenedlaetholdeb Gymreig (a Chymru) yn cael ei hanwybyddu gan BBC Caerdydd a Llundain.

Y neges bore 'ma ddylse fod yw fod cenedlaetholdeb nawr ar gerdded yng Nghymru hefyd. Y neges dylse fod yw 'a yw Cymru'n dilyn yn ol traed yr Alban'. Y stori dylse fod yw 'a yw Plaid Cymru am herio Llafur'.

Ond yr hyn gawsom ni ar Radio Cymru oedd Rhun yn mynd allan o'i ffordd i dan-chware cenedlaetholdeb; tan-chwarae ei gred mewn annibyniaeth - yn wir, gwrthod gwneud unrhyw fath o achos drosto na chwaith rhagor o bwer i Gymru. Mae wedi colli cyfle.

Mae'n iawn mynd mlaen a mlaen am bod yn bositif, ond bod yn bositif am beth. Ar y funud mae'n dechra swnio fel rhyw cult o Maharishis yn bod yn bositif a meddwl fod hynny ynddo ei hun yn mynd i ennill y frwydr ac ennill fots.

Y cyfrwng ydi bod yn bositif - nid y neges!

Amser i Rhun feddwl beth yw ei neges a sut mae am hyrwyddo cenedlaetholdeb a felly creu cenedlaetholwyr. Heb yr her a'r newid deallusol hynny fydd Plaid Cymru byth yn brif blaid.

.... ond llondgyfs i Rhun a'r tim hefyd!


Pleidiwr Cyffredin

Dyfed said...

A bod yn deg efo Rhun mae ei bwyslais yn unol a phwyslais arwrinyddiaeth y blaid - sef pwysleisio'r angen i wella economi Cymru a pheidio sôn fawr ddim am annibyniaeth. Dyna'n union addawyd inni gan LW yn ystod ei hymgyrch arweinyddol. A dyna ydan ni'n ei gael.

Ar ôl gwrando arno mewn sawl cyfarfod mewnol does gen i ddim amheuaeth o gwbl bod calon Rhun yn curo dros ddyfodol annibynol i Gymru.

Ifan Morgan Jones said...

Llongyfarchiadau Cai am fod yn rhan o fuddugoliaeth mor bwysig a hanesyddol i dy blaid.

Ond fel y nodwyd uchod mae'r frwydr go iawn i Plaid, ac i Rhun, yn dechrau fan hyn! Mae yna angen iddyn nhw brofi eu bod nhw'n fwy na diet-Labour o ran eu polisiau a hefyd dechrau ennill tir y tu allan i'r fro Gymraeg. Dyw pentyrru pleidleisuau mewn seddi saff ddim am gyflawni cymaint a hynny yn y pen draw.

Ennill y Rhondda yn 2016 ac fe fydd y rhod wedi troi go iawn...

Anonymous said...

Yr her yw ailadrodd y llwyddiant. Roedd yr holl adnoddau wedi ei canoli ar un lle. Bydd angen atgynhyrchu hyn ar draws pob etholaeth. Credu fod rhai cyfrannwyr braidd yn hallt gyda Rhun. Gadwech iddo gael amser i ddatblygu naratif ei hunain a chyfrannu at weledigaeth yr arweinyddiaeth. Byddai yn wynebu beirniadaeth petai yn creu polisi ei hun fyddai yn anghyson gyda cyfeiriad Leanne. Mae angen pwyllo ac adeiladu ar lwyddiant

Cigfran said...

Pres,pres pres.Mae hyn oll wedi digwydd yn yr wythnos fod Llafur ,y Toris a'r Rh.D wedi gwobrwyo eu cyfrannwyr ariannol mwyaf gyda set yn nhy'r Arglwyddi.
Mae'n gwbwl llygredig,ond yn golygu fod rhaid ir Blaid gael y gallu ariannol i ddal eu tir,os nad dim arall mewn etholiad cyffredinnol fyd yn gwobrwyo r blaid gyfoethocaf fwy na dim arall.
Ond,am wythnos yma o leiaf,beth am jyst mwynhau'r fuddugoliaeth annhygoel,a chroesawu'r cyntaf o do newydd arweinyddion ir blaid yn y gogledd orllewin

Ifor said...

Hwn wedi codi fy nghalon - dwi yn gweld Leanne Wood gyda llygaid newydd . Bydd hi a dau da iawn wrth ei hochor Adam & Rhun, yn gamechahger o bosib.

Diolch i blogmenai , am fod yn well na'r BBC heb cash. Dwi'n meddwl bod angen newid enw y Blaid i The National Party of Wales yn Saesneg - some people are gay some people don't speak Welsh get over it !

Ma y chap Cyng. Carwyn Jones yna wedi bod yn gefn i Rhun a dylid dewis ef nawr ar gyfer San Steffan - a dyle'r ddau fod yn joined at he hip am flwyddyn neu ddwy.

Mynd am beint heno yn berson eitha hapus ,

Anonymous said...

Diolch Cai.

Rwy'n gwybod dy fod yn dod at hyn oll o gyfeiriad arbennig, ond mae dy ddarogan, dadansoddiadau a llawer o dy sylwadau wedi bod yn llawer mwy gonest a threiddgar na be gafwyd gan y papurau Cymreig a'r BBC.

Mae'n warth ar y cyfryngau mai'r lle gorau am ymdriniaeth call o etholiad allweddol Cymreig ydi gwefan sydd ddim yn cymryd arnau i fod yn gytbwys na gwrthrychol.

Diolch.

Anonymous said...

Yn union, a rhaid gofyn y cwestiwn yma 'ym mha wlad arall yn y byd mawr crwn y byddai rhywun yn gorfod edrych ar blogs, twitter neu gorsafoedd radio tramor i ddysgu os oes llywodraeth mwyafrifol yn ei wlad.

Mae agwedd cyfangwbl ddi hid y cyfryngau Cymreig at Gymru yn gneud i fi fod eisiau crio.

Dai said...

"mae wedi colli o leiaf 3 neu 4 cyfle i werthu URL Plaid Cymru."

USP am wn i, ond arglwydd mawr rhowch gyfle iddo fe.

Mae'n wir na fydd etholiadau'r dyfodol ym Mon y caniatau cyfraniad gan aeloau o'r tu allan yn yr un ffordd ag mewn is-etholiad ond mae hynny yr un peth i'r pleidiau eraill. OK, efallai mewn o effaith ar y Blaid ond wir dduw ry'n ni'n bobl y gwydr hanner gwag.

Pleidiwr anghyffredin said...

Mae Pleidiwr Cyffredin yn llygad ei le - a dyma'r union amser i fod yn hunan feirniadol. Oes, mae lle i ddathlu buddugoliaeth fwy na hyd yn oed 1999 ac roedd yr ymgyrch yn effeithiol, unedig a thrylwyr.
Ond er mwyn manteisio arno mae'n rhaid cryfhau neges y Blaid a pheidio a bod ofn esbonio ein bod ni'n dlawd oherwydd ein bod ni'n rhan ymylol o Brydain. Mae'n mynd i fod yn anodd iawn cryfhau economi Cymru tra'n y sefyllfa yma.
Mae hefyd angen i ni beidio meddwl fod Rhun yn medru trawsnewid yn wleidydd dros nos. Llwyddodd Vaughan Roderick i ofyn cwpwl o gwestiynau digon bachog ar y Newyddion a doedd ei gyn gyd-weithiwr ddim yn edrych yn gyfforddus iawn.

Anonymous said...

Vaughan Roderick - y dyn wnaeth ddim holi unrhyw gwestiwn bachog na fel arall i Albert na Carwyn yn sgil yr is-etholiad ti'n feddwl Pleidiwr Anghyffredin?