Thursday, August 29, 2013

Y Bib a gwleidyddiaeth Cymru

Dydi Blogmenai ddim yn dangos cydymdeimlad efo'r Bib yng Nghymru yn aml - ond mae'r blogiad yma yn eithriad.  Un o gryfderau'r gorfforaeth  ydi bod yna unigolion o'r radd flaenaf yn gweithio iddi. Mae ymdriniaeth y Golygydd Materion Cymreig ymysg y pethau gorau sydd ar gael ar hyn o bryd ynglyn a gwleidyddiaeth a bywyd cyfoes yng Nghymru.  Roedd yr hyn oedd gan y cyn Olygydd Gwleidyddol i'w ddweud yr un mor dreiddgar a gwybodus.

Ond dydi ymdriniaeth y Bib o faterion gwleidyddol yng Nghymru yn ei gyfanrwydd jyst ddim digon da.  Gellir dod ar draws sawl esiampl sy'n amlygu hyn  - dau diweddar ydi'r ymdriniaeth bisar a rhannol o'r is etholiad pwysicaf yn hanes Cymru, a'r oriau lawer aeth rhagddynt cyn i'r Bib adrodd ar stori'r Mail on Sunday am Gomisiynydd Heddlu'r Gogledd.  Mae yna lawer, lawer mwy o esiamplau.

Rwan, dydi pethau ddim yn hawdd i'r Bib yng Nghymru o gymharu a'r Bib yng Ngogledd Iwerddon, neu'r Alban.  Yn y gwledydd hynny ceir cyfryngau eraill sy'n ymdrin a gwleidyddiaeth yn effeithiol - mae yna bapurau newydd cenedlaethol sy'n ymddiddori mewn gwleidyddiaeth cenedlaethol.  Rhan o'r hyn sy'n diffinio'r ddisgwrs wleidyddol ydi'r Bib yn y lleoedd hynny - dydi'r gyfrifoldeb i gyd ddim ar eu sgwyddau nhw.  Yng Nghymru mae yna bapurau cyfrwng Saesneg sydd a diddordeb yn y De, neu yn y Gogledd, neu mewn rhannau o'r De neu'r Gogledd.  Does yna ddim papurau cenedlaethol yng ngwir ystyr y term.  Mae eu dealltwriaeth o wleidyddiaeth Cymru at ei gilydd yn hynod ddiffygiol, ac mewn ambell i achos yn warthus o arwynebol.  Mae'r rhan fwyaf hefyd yn perthyn i Trinity Mirror - y sefydliad  a gyflwynodd y Welsh Mirror i'r genedl.  Mae'r papurau cyfrwng Cymraeg yn well, ond dydyn nhw ddim yn dylanwadu llawer ar ddisgwrs gwleidyddol y wlad yn ei chyfanrwydd.

Felly does gan y Bib yng Nghymru ddim canllawiau ehangach, does yna ddim pwyntiau eraill i gyfeirio atynt - mae'n  gorfod ysgwyddo'r gyfrifoldeb tros benderfynu beth sy'n bwysig i adrodd arno, beth sy'n berthnasol ar ei phen ei hun.  Mae'n gorfod diffinio'r tirwedd.  Dydi hyn ddim yn hawdd.  Mae pethau'n cael eu gwneud yn fwy anodd gan y ffaith bod y Blaid Lafur Gymreig o dan yr argraff y dylai'r Bib ddilyn canllawiau sy'n ei phortreadu hi mewn goleuni ffafriol - dylai un piler sefydliadol gefnogi'r llall.   Gellir gweld hyn yn y myllio hysteraidd ac afresymegol a geir ar wefannau cymdeithasol gan rai o bwysigion Llafur pan mae'r Bib yn 'pechu' yn eu herbyn.  Gellir bod yn siwr bod y sterics boncyrs yma  yn cael ei adlewyrchu mewn cyfathrebu rhwng Cathedral Road a Llandaf.

Canlyniad hyn oll ydi diffyg sicrwydd a chyfeiriad ar ran y Bib.  Does yna ddim tystiolaeth gref o ddealltwriaeth o'r hyn sy'n bwysig a'r hyn nad yw'n bwysig.  Mae yna ofn pechu, ac ofn ymddangos yn un ochrog.  Mae dyn yn cael yr argraff bod gormod o gyfeirio at haenau uwch cyn cyhoeddi storiau.  Mae'r pleidiau eraill yn synhwyro'r ansicrwydd a'r diffyg cyfeiriad, ac mae pawb yn teimlo eu bod yn cael cam.  Ceir cylch dieflig - diffyg cyfeiriad yn arwain at ganfyddiad o ddiffyg gwrthrychedd sy'n arwain at fwy o ansicrwydd sy'n arwain at ddiffyg credinedd ac ati.

Felly, beth ydi'r ateb?  Wel - a bod yn gwrs dylai'r Bib yng Nghymru fagu par o geilliau.  Dylid ymgymryd a'r her o ddiffinio'r tirwedd gwleidyddol, magu'r hyder a'r sicrwydd i beidio a chymryd sylw o'r hyn sydd gan wleidyddion (neu flogiau fel hwn) i'w ddweud ynglyn a'r ffordd mae'n ymdrin a  gwleidyddiaeth Cymru.  Dydi hyn ddim yn hawdd wrth gwrs, ac mae'n golygu  eistedd i lawr, meddwl, diffinio a rhesymu.   Ond byddai hyn llawer haws petai dau egwyddor sylfaenol yn cael eu gosod fel sylfaen i bob dim arall - bod y gorfforaeth yng Nghymru yn cynnig gwasanaeth cenedlaethol (yn hytrach nag un rhanbarthol), a bod ymdriniaeth safon uchel o wleidyddiaeth a bywyd cyfoes Cymru yn greiddiol i'w chenhadaeth.  

12 comments:

Anonymous said...

Cytuno'n llwyr a'r dadansoddiad. Roedd y parchus ofn yna yn amlwg yn is-etholiad Mon. Cafwyd sylw mawr i'r Wylfa yn adroddiadau Cymraeg a Saesneg y BBC, er nad oedd mewn gwirionedd yn 'issue' mawr ar lawr gwlad (yn sicr ddim i'r graddfa oedd Llafur a'r BBC yn ceisio ei awgrymu - roedd pawb call yn deallt mai mater San Steffan oedd hwn ac roedd Rhun Ap Iorwerth wedi datgan ei gefnogaeth sawl gwaith ac roedd pobl wedi deallt a derbyn hynny yn gynnar iawn). Dyma engraifft glasurol o'r BBC yng Nghymru yn defnyddio agenda Llafur fel sail gwleidyddol i'w dadansoddiad ac adroddiadau (dwi'n credu i un o brif ohebyddion y BBC awgrymu mai strategaeth orau Llafur fyddai i 'golbio' a 'lambastio' Plaid Cymru efo Wylfa - a hynny cyn i'r ymgyrch dddechrau go iawn!). Gwrthgyferbynwch hynny efo'r diffyg sylw roddodd y BBC i'r stori o ddewis ymgeisydd Llafur ar gyfer yr is-etholiad, a'r miri greodd hynny i Lafur yn lleol! Ac os mai dim 'parchus ofn' yw hynny - yna beth arall ydio felly?!

Unknown said...

Kuranda Tours Book Online and Save 15% at Trek North Tours. We specialize in Cairns Tours that include Daintree Rainforest, Kuranda and Cape Tribulation this is excellent web blog. Kuranda Tours

Ifan Morgan Jones said...

Dadansoddiad diddorol Cai. Dydw i erioed wedi gweithio i'r Bib, ond roedd fy nhad yn gweithio yno ac a bod yn onest fe ges i fy ysbrydoli i fod yn newyddiadurwr gan y freuddwyd o gael gweithio i gorfforaeth mor uchel ei pharch a'r BBC! Ac rydw i'n credu bod safon y gwasanaeth yn uchel iawn ar y cyfan.

Ond fel yr wyt ti'n ei awgrymu does dim 'edge' i'r BBC. Dydw i ddim yn siwr mai dyna ei swyddogaeth hi chwaith. Rwy'n derbyn ei fod yn amhosib i ddarlledwr fod yn dd-duedd - ond mae'r BBC yn gwneud ei orau, a sgil effaith hynny yw ei bod yn chwarae pethau'n saff braidd. Dyw hyd yn oed y blogiau ddim yn datgan barn.

Mae'n bwysig iawn cael corfforaeth fel y BBC ar lefel Brydeinig gan ei bod yn cystadlu yn erbyn ffynhonellau newyddion eraill fel y Guardian a'r Telegraph sydd a gogwydd amlwg. Dyw'r BBC ddim yn gwneud dim yn wahanol yng Nghymru - y broblem yw'r diffyg cystadleuaeth.

Un broblem arall o bosib wyt ti'n cyffwrdd arno uchod - a phroblem y mae'r Blaid Lafur Gymreig o bosib yn ei rhannu - yw nad oes yna gystadleuaeth o ddifri. Does neb yno i'w 'sgwpio' nhw na rhoi cic i fyny eu tinnau.

Dydw i ddim yn siwr ai problem y BBC yw hyn. Maen nhw'n gwneud eu job o fod yn ddarledwr cyhoeddus o safon yn dda iawn. Os ydyn ni yng Nghymru eisiau ffynhonell newyddion amgen gyda bach o sbeis iddo rhaid i ni sefydlu un.

Mae galw mawr wedi bod ers degawdau am bapur dyddiol cenedlaethol Cymraeg - ond beth am bapur dyddiol cenedlaethol(gar) Seasneg? Byddai hynny'n gam mawr ymlaen i newyddiaduraeth yng Nghymru yn fy marn i.

Cai Larsen said...

Diolch bois sylwadau diddorol.

Cai Larsen said...

Jyst dau bwynt sydyn Ifan - nid ar ol safonau rhaglenni ydw - mae hynny'n iawn i - mae o'n fwy i neud efo cyfeiriad golygyddol. Hefyd o ran y busnes mwy o sbeis, dydw i ddim ar ol hynny chwaith - fel darlledwr cyhoeddus mae'n briodol i'r Bib fod braidd yn sgwar a cheidwadol. Dydw i ddim yn disgwyl i neb fynegi barn wleidyddol chwaith - hyd yn oed mewn blog.

Ifan Morgan Jones said...

"Does yna ddim tystiolaeth gref o ddealltwriaeth o'r hyn sy'n bwysig a'r hyn nad yw'n bwysig."

Hmmm rwy'n credu ei fod yn werth cofio bod beth sydd o ddiddordeb i ni a beth sydd o ddiddordeb i'r rhan fwyaf o'u darllenwyr nhw ddim o reidrwydd yr un peth. Mae ganddyn nhw fynediad at ystadegau y wefan ac yn gwybod n nion beth sy'n dueddol o gae yr 'hits'! Yn achos Golwg 360 roedd straeon gwleidyddol a straeon am yr iaith o ddiddordeb mawr i'r darllenwyr, ond alla'i ddyfalu nad yw hynny'n wir yn achos cynulleidfa y BBC yn ei gyfanrwydd. Mae'n ddigon posib nad oedd pobl yn dangos cymain a hynny o ddiddordeb yn yr is-etholaid yn Ynys Mon a'u bod nhw wedi cymryd penderfyniad golygyddol i beidio a rhoi cymaint a hynny o sylw i'r digwyddiadau o ddydd i ddydd.

Cai Larsen said...

Nid am y wefan dwi'n son - am y ddarpariaeth yn ei chyfanrwydd. Mae'n bosibl nad ydi'r Bib yn ystyried gwleidyddiaeth yn fater digon poblogaidd i fynd i'r afael a fo o gymharu a materion brenhinol a ffefrynnau Bibaixx eraill, ond dwi ddim yn meddwl mai dyna'r rheswm a dweud y gwir.

Gyda llaw mae nifer hits Blogmenai yn tua pump gwaith yr arfer ar ddiwrnod lecsiwn - ac roedd hynny'n wir am is etholiad Ynys Mon.

Ifan Morgan Jones said...

Ia ond ystadegau gwefan yw'r ffordd orau iddyn nhw fesur beth mae eu cynulleidfa ei eisau - dyw'r ratings teledu a radio ddim yn eud llawer iddynt am nad oes modd gwela pa eitemau newyddion yn union oedd wedi da diddordeb. Gynulleisfa. Felly mae'r wefan yn ddylanwaol iawn wrth benrfiynu ar drywydd golygyddol gwaanaeth newyddion.

Rwy'n swr bod hits blogmenai wedi cynnyddu yn sylweddol adeg lecsiwn ynys mon - ond blog yw hwn sy'n daparu ar gyfer pobl sydd a diddordeb mewn gwleidyddiaeth cymru a phlaid cymru. Dyw'r gynulleidfa hwnnw ddim yn cynrychioli canran mawr o gynlleidfa gwefan newyddion y BBC.

Rwyn ymddiheuro am blerwch y sylw yma gyda llaw, rwyn teipio ar ipad.

Cai Larsen said...

Hei - ipad neu ffon dwi'n defnyddio pob amser bron (sy'n egluro llwyth mae'n siwr).

Mae'n bosibl dy fod yn gywir - ond os wyt onid oes yna gylch dieflig - canfyddiad o ddiffyg diddordeb yn arwain at lai o ymdriniaeth wleidyddol sy'n arwai at lai o ddiddordeb sy'n arwain at _ _ _

Ifan Morgan Jones said...

"os wyt onid oes yna gylch dieflig - canfyddiad o ddiffyg diddordeb yn arwain at lai o ymdriniaeth wleidyddol sy'n arwai at lai o ddiddordeb sy'n arwain at _ _ _ "

Mae hynny'n broblem efo newyddion ar-lein yn gyffredinol. Mae rhaid yn dadlau bod dydd y darlledwyr a'r papurau newydd cenedlaethol sy'n darparu ar yfer cynulleidfaoedd mawr sydd a nifer o ddiddordebau yn dod i ben - bydd gwasanaethau newyddion digidol y dyfodol yn rai niferus ond bychan sy'n darparu ar gyfer cynlleidfaoedd 'niche' iawn.

Sgil effaith anffodus arall hynny wrth gwrs yw creu 'echochambers' lle mae pobl ddim ond yn derbyn newyddion am bynciau mae ganddyn nhw eisoes ddiddordeb ynddo. Hyn yn digwydd i raddau yn barod yn UDA lle mae'r adain-dde yn gwylio Fox News a'r chwith MSNBC, and never the twain shall meet...

Cai Larsen said...

Nid son am newyddion ar lein ydw i'n benodol cofia - er fy mod yn derbyn dy ddadl i raddau bod gwefan yn ffordd effeithiol o fesur diddordeb. Mae rhaglenni Newyddion y Bib yn bwysicach o lawer na'i gwefan.

Ioan said...

Stori hollol wahanol:
http://www.telegraph.co.uk/sport/othersports/cycling/10282106/Fernando-Alonso-rides-to-rescue-of-threatened-Basque-cycling-team-Euskaltel-Euskadi.html

Alonso o Asturas, tra yn draddodiadol mae Euskaltel-Euskadi yn dim Basgaidd - http://www.euskalteleuskadi.com/eus

Dwi'm yn siwr be fasa'r cymhariaeth ora - Steven Gerrad yn prynu tim Rygbi Cymru ella..!