Thursday, August 15, 2013

Tebygrwydd rhwng Cymru a Ffrainc

Mae hi'n flynyddoedd ers i mi mi ddreifio trwy Ffrainc ddiwethaf, ond un peth sy'n gyffredin rhwng y ddwy wlad ydi'r melinau gwynt sydd wedi codi yma ac acw mewn blynyddoedd diweddar.


Rhag bod rhywun methu cysgu yn y nos yn poeni am y pethau 'ma mae faint o drydan a gynhyrchir trwy ddulliau adnewyddadwy yn debyg yn Ffrainc a'r DU - er bod gweddill y proffil yn dra gwahanol.

 Dulliau cynhyrchu trydan DU: Olew 1% , Glo 29, Nwy 41% Niwclear 18% ! Adnewyddadwy 11%.

 Dulliau cynhyrchu trydan DU: Niwclear, 78%, Glo 3%, Nwy 3%, Adnewyddadwy 10%, Arall 6%. 

Mae'r defnydd o ffynonellau adnewyddadwy yn cynyddu yn y DU a Ffrainc.  Mae Ffrainc yn cynhyrchu llawer mwy o drydan na'r DU - 510bn kw y flwyddyn i 346 bn kw. Ond bach iawn ydi hynny wrth ymyl beth a gynhyrchir gan China - 4,604bn kw y flwyddyn - y rhan fwyaf ohono trwy losgi glo.

3 comments:

BoiCymraeg said...

Ydy'r DU wir yn cynhyrchu 28% o'i drydan o Olew? Ti'n siwr nad "egni" yn hytrach na "trydan" yw'r ystadegau yna? (h.y. yn cynnwys yr olew a roddir yn ein ceir). Mae wikipedia yn awgrymu bod 'mond rhyw 1% o drydan y DU yn dod o Olew (http://en.wikipedia.org/wiki/Energy_in_the_United_Kingdom#Electricity_supply), sy'n gwneud mwy o synnwyr gan bod Olew'n gyffredinol yn rhy defnyddiol i'w losgi i gynhyrchu trydan.

BoiCymraeg said...

Neu efallai rwyt ti'n golygu nwy, nid Olew?

Cai Larsen said...

Sori - wedi ei gywiro ar ffigyrau 2011- dim amser i wirio'n iawn ond dwi'n meddwl bod mwy o lo llynedd.