Friday, August 16, 2013

Gwahaniaeth rhwng Ffrainc a Chymru (rhan 3)

Mae pentrefi Ffrainc yn fwy hyfyw na rhai Cymru, gyda  hyd yn oed y pentrefi lleiaf efo bar/ ty bwyta, siop fara, siop gwerthu ffrwythau a llydiau, Tabac a garej.  Dydi hyn ddim yn wir am Gymru.  Rwan yn y gorffennol roedd rhesymau deddfwriaethol am hyn - roedd rhai eitemau bwyd na chai arch farchnadoedd yn cael eu gwerthu o dan bris arbennig.

Ond mae hynny wedi hen fynd - yr hyn sy'n cynnal siopau bach yng nghefn gwlad Ffrainc bellach ydi ffactorau diwylliannol.  Neu i roi pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol, mae Ffrancwyr yn gwneud defnydd o adnoddau lleol hyd yn oed os ydynt yn ddrytach nag adnoddau mewn trefi neu ddinasoedd cyfagos, tra ein bod ni yn defnyddio siopau rhatach mewn canolfannau trefol ac yn cwyno nad oes yna ddim byd ar gael yn lleol - fel petai yna ddim cysylltiad rhwng ein harferion siopa a'r siopa sydd ar gael i ni ar ein stepan drws.

3 comments:

Efrogwr said...
This comment has been removed by the author.
Efrogwr said...

Diddorol. Oes ffactorau eraill sy'n help yn Ffrainc, megis mwy o gyfyngiadau ar oriau agor (hypermarches ddim yn cael agor ar y Sul), rheoleadau rhent gwahannol neu retail price maintenance, tybed?

Cai Larsen said...

Mae daearyddiaeth y lle yn help - mae'n bell o un lle i'r llall