Monday, May 02, 2011

UKIP i gael seddi ar Fai 5?

Y ffaith mwyaf diddorol i godi o'r pol YouGov diweddaraf, ag eithrio'r gwymp ym mhleidlais Llafur ydi'r twf ym mhleidlais UKIP yn y rhanbarthau - maent ar 7% - union ganran y Lib Dems.

Petai'r ffigwr hwnnw'n cael ei wireddu byddai'n sicr y byddai'r blaid wrth Gymreig, asgell dde yn ennill seddi. Yn wir, petai eu pleidlais wedi ei ddosbarthu y fwy cyson nag un y Lib Dems - ac mae yna beth lle i gredu y gallai hynny fod yn wir, yna gallent gael mwy o seddi na phlaid Kirsty Williams.

5 comments:

Anonymous said...

Dyna beth yw effaith y mewnlifiad dros y blynyddoedd diwethaf.

Anonymous said...

Ond tybed a fyddai gweld UKIP yn cael un sedd ranbarthol,( yn y gogledd dyweder)o help i'r mudiad cenedlaethol mewn ffordd? Byddai'n llais dros Brydeindod byddai, ond llais cwbl ddi-ystyr a di-bwrpas fyddai'r llais hwnnw( h.y dadlau yn erbyn bodolaeth senedd y maen nhw wedi'i ethol iddo- a senedd sydd newydd dderbyn cefnogaeth solet trwy Gymru mewn refferendwm cenedlaethol!). Gallai bodolaeth UKIP yn ein seneddd genedlaethol sbarduno'r pleidiau eraill i ddatblygu'r agenda genedlaethol yn gynt.

Emlyn Uwch Cych said...

@ Di-enw 1518: Mi fyddai'n well da fi weld Llŷr ac Heledd yn cynrychioli'r Gogledd na rhyw Gyrnol Blimp BN/UKIPaidd. Nhw fyddai orau yn datblygu'r agenda genedlaethol, nid Klein Englanders BN/UKIP.

Anonymous said...

It's remarkable to pay a visit this website and reading the views of all friends on the topic of this paragraph, while I am also eager of getting familiarity.
Here is my website ; http://autocarnetwork.com

Anonymous said...

Hi theгe! Thiѕ is my first visіt to yοur
blog! We aге a team of volunteers and startіng a
neω initіatiνe in a communіty іn the ѕame niche.
Your blog pгoviԁеd us beneficial infοгmation to work on.

You havе done a marvellоuѕ ϳob!

Ϲheck out my web blοg ... www.contre-l-idex-spc.org