Sunday, May 22, 2011

E bost bach rhyfedd

Mi gefais i e bost gan rhywun sy'n honni mai fo ydi Julian Ruck heddiw;

Shouldn't I be getting a Wales Blog of the Year award? I doubt very much if any of your Welsh blogs have managed to achieve over 8,000+ views in 2-3 months and still escalating (my blog receives more daily views than the Daily Mail I'm told).
Julian Ruck - Novelist
Mi fyddwch yn cofio mai Julian ydi'r nofelydd hynod o wrth Gymraeg sy'n cynhyrchu stwff fel a ganlyn ar ei flog;

That may sound shocking considering I’m a Welsh author, but cards on the table, this particular form of communication sounds like a turkey being strangled and should, like the Dodo, have been confined to the history books years ago.

Constantly having this gobbledygook rammed down my throat is too much. It’s made me miss my train on more than a few occasions I can tell you.


Rwan mae'n anodd gweld pam y byddai Julian yn canfasio blogmenai o bawb am wobr, felly efallai bod rhywun yn tynnu coes. Beth bynnag, os ydych chi eisiau dod i farn eich hun ynglyn ag addasrwydd blog Julian i dderbyn gwobr, gallwch ddod o hyd i'w gampwaith yma;

3 comments:

Plaid Gwersyllt said...

Da ni wedi cael 9,000+ 'page views' mis diwethaf a ti'n cael mwy na hyna. Felly be di 8,000 mewn tri mis?

Cai Larsen said...

Dim llawer a dweud y gwir. Beth bynnag, fel y dywedais hwyrach mai joc ydi'r e bost.

Anonymous said...

Pwy?