Sunday, May 22, 2011

Realaeth cyfochrog Llais Gwynedd

Ydi'r term alternative reality yn cyfieithu i realaeth cyfochrog dywedwch? Ta waeth, pan nad ydi pethau'n mynd yn rhy wych yn y Byd go iawn, mae'n debyg bod y gallu i greu realaeth amgen yn gallu bod yn gryn gysur - ac o farnu o'u blog gwleidyddol 'does yna neb yn well am wneud hynny na Llais Gwynedd.


Er enghraifft, dyma hanes yr wythnosau diwethaf ym Myd bach rhyfedd Llais Gwynedd:

  1. Ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Meirion Dwyfor, Dafydd Ellis Thomas yn diflannu.
  2. Dim barn yn cael ei mentro ynglyn a ffawd tebygol 36 o 40 etholaeth Cymru (hyd yn oed llefydd fel y Rhondda ac Aberafon) , ond barn bendant yn cael ei mynegi ynglyn a phedair etholaeth y Gogledd Orllewin - pethau'n 'agos iawn' rhwng Plaid Cymru a Llais Gwynedd yn Meirion Dwyfor, Plaid Cymru i golli Ynys Mon, Llafur i ennill Aber Conwy a Phlaid Cymru i ennill yn Arfon. O leiaf roedd yr olaf yn gywir, ond roedd y cwn ar y palmentydd yn gwybod beth fyddai'n digwydd yn Arfon.
  3. Erbyn bore'r cyfri roedd Llais Gwynedd wedi cynhyrfu'n lan oherwydd i Helen Mary golli ei sedd i Lafur ac oherwydd bod Plaid Cymru am golli Ynys Mon a bod pethau'n agos iawn ym Meirion Dwyfor. Fel mae'n digwydd cynyddodd y Blaid ganran ei phleidlais ym Mon, a chafodd Dafydd Ellis Thomas dair gwaith cymaint o bleidleisiau ag ymgeisydd Llais Gwynedd, Louise Hughes a ddaeth yn drydydd.
  4. Serch hynny roedd canlyniad Meirion Dwyfor yn llwyddiant ysgubol i Lais Gwynedd gyda 3,225 pleidlais Louise yn ganlyniad clodwiw iawn, a 9,656 pleidlais Dafydd yn brawf pendant o'i ddiffyg poblogrwydd.
  5. Cwta ddeg diwrnod ar ol yr etholiad roedd pethau'n edrych yn well byth i Lais Gwynedd gydag ymddiswyddiad 'o leiaf tri' o gynghorwyr Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd. 'Doedd y ffaith na chafodd yr 'ymddiswyddiadau' eu riportio ar unrhyw gyfrwng arall, ac nad oes neb ond Llais Gwynedd yn gwybod dim oll amdanynt yn amharu dim ar y gorfoledd.
Pam trafferthu adrodd ar y Byd sydd ohoni pan mae hwnnw mor anwadal, pan mae'n bosibl creu Byd bach braf eich hun ac adrodd ar hwnnw?

11 comments:

Anonymous said...

Biti garw na fuasai Dafydd Ellis-Thomas yn diflannu o'r tirlun gwleidyddol am byth. Mae agwedd Aeron Jones at y briodas frenhinol i'w weld yn iachach ac yn fwy dychanol na un yr arch-frenhinwr.Os y bu rhywun yn byw ym myd y tylwyth teg erioed, Lord DET yw hwnnw.

Anonymous said...

Ond mae 'Dafydd El' yn un o 'hefiwets' plaid cymru. Er gymaint o ben mawr ydi o. Siwr o fod fod agwedd Aeron Jones at y briodas frenhinol yn nes at fy un i. Ond ydi Aeron a'i blaid byth yn mynd i fod hefo llais i ddylanwadu ar y cynulliad? Go brin. Hollti y bleidlais genedlaetholgar. Mi fyddai Sinn Fein yn rheoli cynulliad gogledd iwerddon oni bai am yr SDLP!!!

Anonymous said...

Twats yw Llais Gwynedd - ac ma'r sylw yna ynglyn a'r SDLP a Sinn Fein yn 'rong .

Anonymous said...

Does dim byd gyda ti i ddweud am yr holl dai mae nhw'n golygu codi ym Modelwyddan?

Anonymous said...

Hello there, I found your web site by means of Google at the same
time as searching for a similar subject, your site got here up,
it seems to be good. I've bookmarked it in my google bookmarks.
Hi there, simply changed into alert to your blog through Google, and found that it is truly informative. I'm
going to watch out for brussels. I'll appreciate for those who continue this in future. Numerous folks will be benefited out of your writing. Cheers!
hardwood flooring

Feel free to surf to my weblog hardwood floors

Anonymous said...

Hi this is somewhat of off topic but I was wondering
if blogs use WYSIWYG editors or if you have to manually code with HTML.
I'm starting a blog soon but have no coding expertise so I wanted to get guidance from someone with experience. Any help would be greatly appreciated!

Also visit my homepage zetaclear side effects

Anonymous said...

I believe that is among the such a lot important info for me.
And i'm satisfied studying your article. However wanna statement on some common issues, The site style is wonderful, the articles is truly great : D. Good task, cheers

My page: maid services

Anonymous said...

What's up, I desire to subscribe for this weblog to obtain most up-to-date updates, thus where can i do it please help out.

Look into my weblog ... cleaning services phoenix

Anonymous said...

Excellent way of describing, and good post to get data regarding my presentation topic, which i am going to present in academy.


Also visit my web site :: hair growth cycle
My web site :: provillus reviews

Anonymous said...

First of all I would like to say fantastic blog! I had a quick question in which I'd like to ask if you don't mind.
I was interested to find out how you center yourself and clear your thoughts
prior to writing. I have had a difficult time clearing my thoughts
in getting my ideas out. I truly do take pleasure in writing however it
just seems like the first 10 to 15 minutes are wasted simply just trying to figure
out how to begin. Any ideas or hints? Kudos!

Feel free to surf to my homepage ... hair shedding

Anonymous said...

I don't even know how I ended up here, but I thought this post was good. I do not know who you are but definitely you're going to
a famous blogger if you are not already ;) Cheers!


my weblog ... articleschase.com
Also see my web site > provillus hair loss treatments