Sunday, May 15, 2011

Arweinyddiaeth Plaid Cymru

Felly mae Ieuan Wyn Jones yn bwriadu rhoi'r gorau iddi - rhywbryd yn ystod y ddwy flynedd a hanner nesaf. Ac mae Dafydd Elis Thomas yn dangos diddordeb eisoes yn y swydd.

Rwan, 'dwi ddim eisiau bod yn groes, ond mewn difri calon ydi o'n syniad da i gael lled ymgyrch arweinyddol yn cyd redeg efo beth fydd (gobeithio) yn asesiad trylwyr o strwythurau a blaenoriaethau'r Blaid, ac hynny am gyfnod lled faith?

Mae angen i'r Blaid - fel pob plaid arall - gymryd amser i syllu ar ei botwm bol ei hun weithiau, ond dydi o ddim yn iach i wneud hynny am hydoedd. Mae hanes etholiadol diweddar yn ei gwneud yn eithaf clir nad ydi'r etholwyr yn maddau i bleidiau sy'n cymryd gormod o ddiddordeb yn eu materion mewnol eu hunain. Os mai mewn dwy flynedd a hanner mae IWJ yn bwriadu mynd, iawn os 'na felly mae o eisiau pethau - ond nid yw er lles y Blaid os ydi pobl yn dechrau lleoli eu hunain i gymryd ei le rwan.

Dylai'r Blaid edrych ar ei strwythurau a'i chyfeiriad rwan, a dod a'r broses i ben erbyn diwedd yr hydref, a dylai'r ras am yr arweinyddiaeth gychwyn pan mae dyddiad pendant wedi ei osod ar gyfer y ras honno. Mi fydd yna etholiadau cyngor ac Ewrop yn cael eu cynnal tros y ddwy flynedd nesaf - mi fyddai'n well o lawer i'r Blaid pe na byddai cwestiwn arweinyddiaeth yn crogi trosti bryd hynny.

19 comments:

Dewi Harries said...

Rhyfedd o Ieuan - dim yn disgwyl ffolineb o'r gornel yna. Mae brwydro etholiadau lleol o dan arweinydd dros-dro (dim arweinydd felly) yn wirion.

Ifan Dafis said...

Cytunaf, ni ddylai fod arweinydd dros dro yn ystod yr etholiadau lleol.

Rwy'n anghytuno gyda'r syniad y dylai'r adolygiad strwythurol ddigwydd o dan yr arweinydd presennol. Mae angen arweinyddiaeth glir i lunio a gwireddu unrhyw newidiadau o'r fath.

Anonymous said...

Ieuan Wyn Jones ei hun a'i ddiffyg gweledigaeth oedd y prif reswm dros fethiant Plaid Cymru yn yr etholiad. Yr un strwythurau sydd gan y Blaid rwan ag oedd ganddi yn 1999, pan wnaethon ni ennill 17 o sedd a thua 30 y cant o bleidlais - ond hefo arweinydd deinamig, y gwnaeth IWJ bopeth yn ei allu i gael gwared ag ef.

Anonymous said...

Mae'n debyg bod nifer o bobl yn dechrau dadlau bod angen rhywun fel Jocelyn Davies neu Leanne Wood i arwain y blaid nesaf gan eu bod nhw'n fygythiad go iawn i'r blaid lafur.

Aled GJ said...

Cytuno y bydd hi'n anodd cynnal adolygiad trylwyr ar berfformiad PC yn yr etholiad a chael thrafodaeth am ddyfodol y Blaid gyda ras am yr arweinydddiaeth yn digwydd ar yr un pryd. Be ddiawl ydi gem IWJ wrth fod mor amwys ynghylch pryd yn union mae'n mynd? Dylsa fo wedi dweud y byddai'n aros ar gyfer cynnal yr adolygiad( dros 9 mis dyweder), rhoi dyddiad sefyll i lawr pendant ym Mawrth 2012, gan ganiatau cynnal gornest etholiadol fyddai wedyn yn creu rhywfaint o fomentwm ar gyfer etholiadau cyngor sir ym mis Mai. Fel ag a welwyd ym mlynyddoedd olaf Tony Blair fel PW- pan ddywedodd na fyddai'n aros am dymor llawn- yr unig gwestiwn gaiff IWJ gan y cyfryngau o hyn allan ydi, pryd yn union mae o'n mynd. Bydd hynny, unwaith eto, yn porthi'r syniad cyhoeddus am Blaid Cymru fel plaid wan, heb strategaeth na chyfeiriad yn perthyn iddi.

Anonymous said...

Mae'n debyg mai'r amserlen ar gyfer ethol yr arweinydd (os na fydd etholiad wedi ei gynnal cyn hynny) yw 2012: agor enwebiadau yn y gwanwyn, aelodau'n pleidleisio yn ystod yr haf a chyfrif y pleidleisiau a chyhoeddi'r canlyniad yn y gynhadledd ym mis Medi. Go brin y byddai Ieuan yn rhoi ei enw i sefyll yn yr etholiad hwnnw, ac yntau wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi'r gorau iddi. Dwi'n credu o ddifri mai Dafydd El ydi'r un i arwain y Blaid i etholiad 2016. Mae'n wleidydd craff, â'r gallu i ymestyn apêl y Blaid. Dylid hefyd cynnal yr etholiad erbyn y gynhadledd eleni er mwyn i ni fedru symud ymlaen; mae IWJ yn chwaden gwirioneddol gloff.

Ifan Arswydus said...

Reit - y gwir ma pawb yn brifo achos da ni'n gwybod unwaith oedd ganddon ni arweinydd cystal os nad gwell na Alex Salmond; Dafydd Wigley.

Wnaeth yr idiot yna Cynog Dafis gyda help IWJ danselio fe -'a conspiracy of fools' . Os nad i chi'n dda ar y teledu bellach does da chi ddim gobaith roedd Wigley yn wych ma IWJ yn useless a ma angen saethu Heledd Fychan cyn iddi wneud hyd yn oed fwy o newid - pwy ddewisodd hi i saiard ar y television !

Ma hanner y Blaid yn looney left - Helen Mary a Leanne Wood yna etc - nhw oedd moyn y blydi deal gyda'r Blaid Lafur i ddechre !

Ma nhw moyn cael ei licio gan y 'chwith' ond smo'r chwith moyn nhw ! Pob swydda undeb llafur yng Nghymru yn covered mewn posters llafur - a phwy dalodd am yr hysbysebion drud yna yn y papur lleol yn Llanelli yn deud bod Plaid Cymru am lywodreathu gyda'r Ceidwadwyr yr undebau wrth gwrs !


Os yna urhyw unrhyw wlad arall yn y byd mawr blydi crwn lle ma'r wrthblaid wedi clymbledio gyda'r llywodraeth ?

Yn naturiol ma IWJ yn gwybod fod e'n hopeless a doedd e ddim moyn y job !

Y ffordd mlan - rhaid derbyn nad yw'r brand Plaid Cymru yn teithio tu allan i'w chadarn leuoedd - y brif reswn yr iaith Gymraeg . Smo pobl y cymoedd mynd i bledleisio i barti llawn o dosbarth canol Cymraeg yn llawn o bobl useless ffroen uchel fel yr Elen ap Gwyn yna .

Rhaid cael major rebrand The National Party of Wales a pholisiau sy'n mynd i ddod a swyddi i Gymru - no 1 y gallu to lower corporation tax . Roedd y syniad build for wales yna'n gret ond gan fod cyn lleiaid yn y Blaid a phrofiad busnes dim ond Madog Batcup ac Eurfyl ap Gwilym oedd yn gallu esbonio y peth ar y teledu.

Blydi hell ma busnes women only short lists yna wedi costio'n ddrud i Blaid Cymru - y syniad y gallwn ni gael ei harwain gan Elin Jones are you blydi kidding me ! Ma'n fferch i ffarm so gweinidog amaeth fair enough . I feddwl bod y Delyth Ryder yna wedi bod yn y cynulliad a Wigley mas achos y polisi lloerig yna !

Y ffordd mlan major rebarnding o dan Dafydd El - ail enwi y blaid gydag enw saesneg ar gyfer y Cymoedd - (angyhtuno yn llwyr gyda analysis Dafydd El o'r methiant gyda llaw - fwy o attack ar Llafur oedd angen rhyfeloedd Irac a nhw'n balio mas y bancs sydd wedi golygu fod yr hwch wedi myd drwy'r siop - ac anyway Hain attackodd ni gynta ! trwy ddeud fod y gwir am IWJ fod e yn blydi usless )

Yna Dafydd El yn sefyll lawr a gadael Adam Price mewn i arwain y Blaid, yr unig un sydd da sy'n gallu siarad ar y teledu yn y ddwy iaith. Gyda llaw fy newis gynta bydde gael Wigley nol - ma fe edrych yn well nawr nag oedd e ugain mlynedd yn ol pan gaeth e harten. Fel Marshal Petain - sicr fwy o liw iddo fe na IWJ sy'n walking grey .

A plis - dyma dehongliad pseudo-academaidd gan Cynog Dafis petai'r diawl na wedi gadw ei drwyn mas o bethe bydde ni ddim yn y picil yma nawr a smo Simon Thomas fawr gwell gollodd hwnnw Geredigion pan aeth mwyafrif Adam Price lan i 7000 !

Anonymous said...

9 mis fan bellaf fydd gan IWJ cyn ymddeol. Mae angen rhywun sydd ar dan dros annibyniaeth (cofier fod Wigley wedi ceisio gwadu'r ffaith) ac yn deall y Cymoedd ac ardaloedd Cymreig yn hytrach na'r Fro. Gwendid y Blaid fu diffyg hyder. Gwendid Cymru fu diffyg hyder.

Anonymous said...

Y ffaith ydi nad ydi pc yn gallu chwifio y faner annibyniaeth fel yr snp. Mor braf fyddai hynny. Wedi ein dylanwagu gan y mewnlifiad llawer mwy. Rhaid bod yn realistic. Hyd yn oed yr alban wedi rhoi mewn i fod yn rhyw fath o hong kong mewn refferendwm nesaf h.y. hunan lywodraeth ym mhopeth heblaw amddiffyn.

Anonymous said...

Fedrai byth bleidleisio dros y Blaid os na cheir arweinyddiaeth o'r canol neu'r dde gwleidyddol. Fyddai dewis rhywun fel Leanne Wood yn drychinebus.

Anonymous said...

Cytuno - problem Leanne Wood yw ei bod hi'n economaidd yn gwbwl boncars - dwi'n methu deall ble ma hi'n meddwl ma'r arian i dalu am bopeth mynd i ddod heb sector breifat lewyrchus ?

Fel hen gadno, ma Alex Salmond wedi gwneud yr issue o Corporation Tax yn ganolog i ddyfodol yr Alban.

Os yw Cymru i llwyddo rhaid i ni fod yn wlad gyda cyfundren treth isel -er mwyn denu buddsoddiad mewn.

Gall cenedl fach wneud hynny achos diw nhw ddim yn gwneud y fath o bethe ma y Blaid Blydi Llafur yn gwneud sef mynd i ryfel ac Irac .

Dyna bethe dyle neges ganolog ni fod i Gymoedd y de - 'We will create employment by creating a low tax regime here' - other small countries have done it and succeed . Oni bai am y blydi bancs bydde Iweddon dal yn wlad lwyddiannus nawr oherwydd low corporate tax - ac edrychwch pa mor bwysig yw e i Iwerddon - smo yn fod ildio ar y peth er gorfod gael benthygiadau enfawr gan yr Almaen. Rhiad i Gymru fynd nol i weithgynhyrchu ar unig ffordd i wneud hynny yw denu busnes ryngwladol yma drwy gynnig cyfraddau treth is na Lloegr hyd yn oed os yddy hynny'n golygy CODI treth incwm .

Sori ond ma Leanne Wood off with the birds ac Helen Mary ddim bell ar ei hol hi - heb ateb realistic i brif broblem y rhan fwyaf o bobl Cymru - diffyg gwaith i'r di-Gymraeg yn y Cymoedd does dim dyfodol i'r mudiad cenedlaethol yng Nghymru .

Ar fater yr iaith - ma y peth yn gwbwl syml - dylai pob plentyn adael ysgol yn 16 yn siarad Cymraeg . Ma nhw yn gadael ysgol yn siarad Saesneg - ma 12 mlynedd ers datganoli - plentyn pediar blwydd oed bryd hynny yn sixteen nawr !

Er faint ma y Gymraeg yn orfodol diolch i Syr Wyn ? ac eto smo nhw yn dysgu'r iaith yn iawn yn yr ysgol di-Gymraeg rhaid i hynny ddod i ben - a rhiad cael gwared ar yr arfer dwl ma o alw plaid genedlaethol yn Blaid Cymru - iaith ma dim ond 18% yn ei siarad ! Grow up politics is the art of the possible ac ma rhaid ir ail frandio gynnyws defnyddio y tern the National Party of Wales mor hawdd ac ma Plaid Lafur yn defnyddio Labour . Yn Werddon ar Alban smo'r iaith yn divisive achos does uffarn o neb yn siarad eu hieithodd nhw ond fan hyn ma na - Plaid ir dosbarth canol Cymraeg sy'n poeni am S4C a'r blydi ysgol yna ym Mhontcanna yw perception y di-Gymraeg o Blaid Cymru yn enwedig am fod Saesneg IWJ fel Saesneg Heledd Fychan yn ddim yn naturiol - mor wahanol i Wigley .

Ioan said...

"... ar unig ffordd i wneud hynny yw denu busnes ryngwladol yma drwy gynnig cyfraddau treth is na Lloegr..."
neu tyfu cwmiau Cymreig? Mantais cwmniau Cymreig, ydi bod nhw'n aros yma drwy pob dirwasgiad, ac mi fyddai gostwng trethi busnes yn fantais fawr i gwmniau Cymru.

Anonymous said...

Anhysbys 2.34 pm:
""... ar unig ffordd i wneud hynny yw denu busnes ryngwladol yma ..."

Syniad Gwych!
Pam na feddyliwyd am hyn o'r blaen?!

Hold on...mae hyn wedi ei wneud o'r blaen?!

Polisi Llafur a'r Ceidwadwyr ers dros 30 mlynedd.

Yr unig wahaniaeth yw eu bod nhw wedi rhoi grantiau anferthol yn hytrach na threthiant is. Yr un peth yn y pen-draw.

Canlyniad hyn?
Lucky Goldstar; Dewhirst; Burberry; Hoover; Bosch; Indesit; Panasonic; Dairygold; Air Products; ...oes angen rhestru rhagor?

Gyda llaw...ble mae'r cwmniau yma i gyd a'r holl arian a wnaethon nhw allan o drethdalwyr a gweithwyr Cymru erbyn hyn?

Ifan Dafis said...

Pwy yw'r twpsod ar y blog yma? Dafydd El i arwain y blaid! Mae'r dyn off ei ben, gweriniaethwr sy'n mynd i'r briodas frenhinol, gwleidydd 'gwyrdd' sy'n hedfan pob wythnos o'r De i'r Gogledd, dyn 'adain chwith' sy'n byw fel tywysog, cefnogwr yr iaith Gymraeg sydd yn galw am ddiddymu S4C! Bradwr!

Ar y llaw arall, mae Leanne Wood wedi dangos ei bod hi'n wleidydd cryf a deallus dros y blynyddoedd diwethaf. Mae hi'n sticio at yr hyn mae hi'n credu: sydd yn nodwedd mor brin y dyddiau hyn dyw'r nerds ar y blog yma ddim yn sylweddoli pwysigrwydd y peth. Mae'r cyhoedd yn ysu am wleidydd gonest ac egwyddorol.

Anonymous said...

Y broblem yw smo Leanne Wood wedi rhedeg cwmni. I dalu am ysgolion ayyb rhaid codi treth ar y sector brifat. Ma pawb arall yn y bon yn 'net drain' ar yr economy , hynny yw yn mynd a mwy mas o bwrs y wlad na ma nhw'n rhoi mewn. Ma'r sector gyhoeddus yng Nghymru yn rhemp ! Ac yn dal nol hunan lywodraeth - achos bod ni'n gwario fwy na'n I godi yn dreth . Smo neb erioed wedi esbonio I mi ble ma'r arian yn mynd I ddod o yn y socialist paradise yma ? Does gan y chwith Leanne Wood a'i thebyg dim syniad ond ryw nonsens am godi treth ar y cefnog - ddyddiau ma mae cyfalaf yn gallu symud o un cyfandir I un arall mewn munudau ! Ma deddfau ewropaidd yn atal llawer o'r hyn ma'r chwith yn meddwl bod nhw moyn .

Bwlch said...

Syniad radical beth am budsoddi yn cwmniau Cymreig i ehangu o gwmpas y byd! Mae pob gwlad arall yn gwneud hyn!!!

Anonymous said...

Edrychwvch ar fab etholidaol o Gymru - dau glwstwr o etholiaethau un enfawr yng nghymoedd y de ac un mawr yn y gogledd ddwyrain .


Os na fedrith Plaid Cymru gynnig atebion economiadd ir ardaloedd hyn - rhai or rhai mwyaf di freintiedig yn Ewrop does dim gobaith . Finish -kaput - ffidil yn y to job.

Trwy fod yn genedl fechan allwn ni ostwng trethi i gwmniau rhyngwladol achos smo ni moyn mynd i ryfel gyda Irac na dim arall o 'package' hen wald imperialaidd.

O bosib bydd rhaid i ni godi treth incwm i dalu am hyn ( hwre medd y chwith ) ond drwy wneud hyn allwn gynnig gobaith o greu cyflogaeth yng Nghymoedd y de.

Ma na 'correlation' uniongyrchol rhwng gwledydd bychan treth isel a llwyddiant economiadd ac bydd nifer o gwmniau yn creu pencadlysoedd fan hyn er mwyn mantesio ar gyfundren treth isel ( fydd yn talu am ysbytai etc - 15% of something is better than 20% of bugger all - byddwn ni hefyd yn wald gyda chyflogau cymharol isel i ddechre da)

So fy nadl i yw y bydd trethi isel yn denu cwmniau yma ac yn wahnol i grantiau ( idiot yn deud fod nhw yr un peth ! yn aros yma) .

So english speaking working class if we had full fiscal autonomy we would lower taxes to attract investment - other small nations have done it and it worked including Ireland ( bancs nhw yn buddsoddi dramor oedd y broblem fan yna a property boom erchyll) . I can point at other countries that have made this policy work.

Nawr dewch i glywed beth yw cynnig y chwith ? Dim nonsens rhetoric am y working class a Con Dem cuts - what would you do to bring economic prosperity to the areas of Wales where most people live ? Achos a dyma'r news mawr i Blaid Cymru - smo y rhan fwyaf o Cymry yn poeni yr un iot am yr iaith Gymraeg - difa badgers yr ysgol posh yna ym Mhontcanna aeth yn 'cause celebre' i'r Blaid er fod neb yn cael free school meals yna !

Sut ma achub yr iaith ? Gwneud hi'n gyfraith gwlad fod rhaid i BOB ysgol yng Nghymru dysgu hi yn effeithiol tan 16 - sut i wneud hynny get into power .

A plis llai o obsesiwn gyda 'global warming' a nonsense fel yna - sut ar wyneb ddaer ma rywun heb ddigon o arian i gael bwyd ar ystad ym Merthyr fod i boeni am melting polar ice caps yn 2050 !

A chyn i rywun ddeud 'controlling the means of production' - jyst atgoffa chi bydde hynny yn golygu gadael yr European Union a smo fi am fentro 'mlan heb y safety net or unig fully functioning large economy yn Ewrop.


Over to you Leanne ?

Anonymous said...

Heb fynd i fanylion ,mae'n edrych fel petai yna ideoleg cyfalafol yn dechrau cael ei wyntyllu fel ateb i broblemau di-ddiwedd De Cymru . Yn sicr, mae angen i'r ardal yma cael ei adfywio'n economaidd cyn son am annibyniaeth, neu buan iawn y buasai Cymru'n un o'r gwledydd tlotaf yn y byd.
Ar y llaw arall, mae Leanne Wood i weld yn person o argyhoeddiad , sy'n barod i sefyll i fyny i'r sefydliad Prydeinig, ac sy'n deall problemau'r dosbarth gweithiol.
Credaf fod angen i Blaid Cymru fynd i'r afael a dyfodolau posibl Cymru yn ogystal a'i dyfodol hi ei hun.

mike said...

Maint y sector gyhoeddus yng Nghymru yw'r obstacle mwya i hunan- lywodraeth. Ma yna ormod o lawer o gynghorau yn creu biwrocratiaeth gwbwl ddi-werth .

Gellir gwneud llawr ma'r cynghorau yn ei wneud ar lefel Gymreig a chael gwared a chostau erchyll.

Y broblem nawr yw taw cynulliad fydd hwn yn cael ei redeg gan Lafur er budd yr undebau sector cyhoeddus.

Ma angen y toriadau yma ar Gymru - ma ormod o lawr o fraster o gwmpas y lle a fedrith y sector brifat ddim talu amdano fforddio talu amdano ragor.