Wednesday, May 25, 2011

Gareth Hughes, y Blaid a'r SNP

Er nad ydw i'n cytuno efo pob dim mae Gareth Hughes yn ei 'sgwennu - o bell ffordd, mi fyddaf yn mwynhau ei flogiadau gan amlaf. 'Dydi'r post mortem o flogiad ar etholiad Plaid Cymru ddim yn eithriad yn hyn o beth.

Yn y blogiad mae Gareth yn cyferbynnu llwyddiant y cenedlaetholwyr Albanaidd efo perfformiad siomedig y Blaid, ac yn dod i'r casgliadau canlynol:

(1) Bod lleoliad gwleidyddol adain chwith y Blaid yn wahanol i un yr SNP, ac yn creu problem etholiadol pan mae Llafur yn boblogaidd.

Now the SNP in Scotland have never branded themselves as either right or
left but “nationalist”. They’ve been branded “tartan Tories”, by Labour.Now the
SNP in Scotland have never branded themselves as either right or left but
“nationalist”. They’ve been branded “tartan Tories”, by Labour.
(2) Mae'n casglu o'r canfyddiad yma bod yr SNP wedi targedu a llyncu'r bleidlais Doriaidd, cyn mynd ati i wneud yr un peth i bleidlais y Lib Dems.

First of all they targeted the Tory vote and swallowed up
the Conservative vote in Scotland. They then moved their tanks onto the
Liberal Democrats lawn and helped themselves to their votes. By so
doing, they eclipsed Labour in most of the Scottish constituencies, to
gain an absolute majority.

(3) Bod y Blaid wedi canolbwyntio ei hymgyrch ar ymosod ar Lafur yn hytrach nag ar ymosod ar y Toriaid a'r Lib Dems, a bod hyn yn gamgymeriad.

(4) Bod y Blaid wedi cymryd yn ganiataol y byddai'n gwneud yn dda oherwydd canlyniad y refferendwm.

(5) Bod y Blaid wedi dangos diffyg hyder yn eu polisiau creiddiol eu hunain.

(6) Na lwyddodd y Blaid i roi rheswm da i bobl bleidleisio trosti gydag oedd y refferendwm wedi ei hennill.


Mae llawer o resymu a chymharu Gareth yn amheus - a bod yn garedig. Er enghraifft 'does yna fawr o amheuaeth ynglyn a lle mae'r SNP yn gweld ei lleoliad gwleidyddol ar y sbectrwm De / Chwith. Mae'r Blaid a'r SNP yn eithaf agored am fod yn bleidiau'r Chwith, ac mae hynny'n ddigon synhwyrol i bleidiau sy'n weithredol mewn gwledydd fel Cymru a'r Alban. 'Dydi'r dystiolaeth polio ddim yn cefnogi barn Gareth bod yr SNP wedi mynd ar ol y pleidlais Toriaid yn gyntaf a'r Lib Dems wedyn. Yr hyn sy'n drawiadol am yr ychydig fisoedd cyn yr etholiad ydi'r cwymp yng nghefnogaeth Llafur a'r cynnydd yng nghefnogaeth yr SNP. Mae cefnogaeth y Lib Dems a'r Toriaid yn weddol statig. Gweler yma.

Mae'n wir i'r SNP beidio ymosod llawer ar Lafur yn ystod yr ymgyrch, ond wnaethon nhw ddim ymosod llawer ar y pleidiau unoliaethol eraill chwaith. Roedd eu hymgyrch wedi ei chanoli ar y cwestiwn o bwy fyddai'r llywodraeth a'r prif weinidog gorau. Roedd hynny mor amlwg nad oedd prin angen ymosod ar neb. 'Doedd yna yn sicr ddim gor hyder ar ran y Blaid yn dilyn y refferendwm, roedd y polau Cymreig yn ei gwneud yn gwbl glir i ba gyfeiriad yr oedd y gwynt yn chwythu.

Mae Gareth fodd bynnag yn gywir ynglyn a diffyg hyder y Blaid ynglyn a'i pholisiau creiddiol ei hun - Adeiladu Tros Gymru ydi'r esiampl mae Gareth yn cyfeirio ati, ond mae gan y Blaid hanes o hyn. Gellid bod wedi gwneud llawer mwy o'r posibilrwydd o senedd grog a'r Polisi Ariannu Teg i Gymru yn etholiad cyffredinol 2010 - etholiad oedd yn cael ei dominyddu gan yr economi a'r toriadau oedd ar y ffordd.

Ac mae'n gywir hefyd i ddweud bod annibyniaeth yn broblem i'r Blaid. Gyda'r refferendwm wedi ei hennill yn ddigon hawdd, bod yn fwy agored ynglyn ag annibyniaeth ydi'r unig ddewis i'r Blaid mewn gwirionedd. Mae'r SNP yn gwbl agored ynglyn a'r mater, ac mae'r brif blaid Geltaidd genedlaetholgar arall yn y DU - Sinn Fein - wedi treulio'r rhan fwyaf o'i hanes yn ceisio sefydlu annibyniaeth trwy ddulliau treisgar. Mae'r ddwy blaid yn fwy poblogaidd o lawer na ni.

Rwan mae'n wir nad oes galw mawr am annibyniaeth yng Nghymru ar hyn o bryd, ond 'dydi'r achos tros annibyniaeth ddim yn cael ei wneud chwaith. Os ydi Gareth yn awgrymu nad ydi sefyll yn llonydd yn opsiwn i'r Blaid, ond bod rhaid iddi symud i'r cyfeiriad o hyrwyddo annibyniaeth yn agored neu wneud ei hun yn amherthnasol - mae'n gwbl gywir. 'Dydi lleoliad presenol y Blaid ddim yn un cynaladwy.

2 comments:

Ioan said...

Dydi bod i'r chwith o'r canol ddim yn broblem, ond mae'r blaid yn trio gosod ei hun i'r chwith o Lafur - su'n ei gadel hi'n fersiwn Gymraeg o'r SWP / Plaid Werdd. Dwi dal chwaith ddim yn deallt "Adeiladu Tros Gymru". Swnio fel PFI ar y slei!

David said...

"Os ydi Gareth yn awgrymu nad ydi sefyll yn llonydd yn opsiwn i'r Blaid, ond bod rhaid iddi symud i'r cyfeiriad o hyrwyddo annibyniaeth yn agored neu wneud ei hun yn amherthnasol - mae'n gwbl gywir."

Cytuno 100%.

Dylai gwleidyddiaeth mewn gwlad aeddfed fod yn frwydr neu'n gystadleuaeth rhwng cyfalaf ar un llaw a llafur ar y llaw arall.

Gwaith Plaid Cymru yw troi Cymru'n wlad aeddfed. Wedyn gall y Blaid ddiflannu a gallwn ni'r aelodau ymrannu i'r chwith neu'r dde yn ôl ein dewis.

Mae sefydliad y Cynulliad yn saff bellach, felly cwpwl o flynyddoedd o alw am annibyniaeth fyddai'n dda.