Friday, May 06, 2011

Etholiadau 2011 sylwadau cychwynol

Cyn 'sgwennu'r ychydig nodiadau cychwynol yma 'dwi am fod mor ddigywilydd a bod yn hollol blwyfol am funud fach. Llongyfarchiadau i Ffred ar ei fuddugoliaeth wych yn Arfon, a llongyfarchiadau hefyd i Dic ac i'r criw o ymgyrchwyr brwd a weithiodd mor galed. Roedd yr ymgyrch yn un effeithiol a phwrpasol, ac mi fyddwn yn awgrymu bod gan y Blaid yn genedlaethol dipyn i'w ddysgu oddi wrth yr ymgyrch yn Arfon.

Reit, at brif grynswth y pwt yma. Roedd perfformiad y Blaid ddoe yn siomedig ac roedd nifer o resymau am hynny - rhai oddi mewn i'n rheolaeth, a rhai y tu hwnt i'n rheolaeth. Byddwn yn edrych ar bethau o sawl cyfeiriad maes o law

'Doedd yna ddim oll y gallai'r Blaid ei wneud i newid un ffaith gwaelodol - sef bod Llafur - wrth safonau hanesyddol - yn boblogaidd yng Nghymru yn 2011 ond yn amhoblogaidd yn 2007. Gan mai yn erbyn Llafur mae'r Blaid yn cystadlu am bleidleisiau tros y rhan fwyaf o Gymru, roedd y cyd destun etholiadol yma yn rhwym o gael effaith ar berfformiad y Blaid yn genedlaethol. Yn yr un modd mae'r Lib Dems ar hyn o bryd yn amhoblogaidd, ac mae'r Toriaid yn aml yn ymgodymu efo nhw am bleidleisiau - felly mae rhan o lwyddiant cymharol y Toriaid i'w briodoli i hynny.

Mater fydd yn cael ei godi tros yr wythnosau nesaf ydi mater yr arweinyddiaeth - gall Ieuan Wyn Jones ddisgwyl cael ei gladdu o dan bentwr o feirniadaeth. Wnes i ddim pleidleisio i gael Ieuan yn arweinydd - i Helen Mary Jones aeth fy rhif 1 i. Serch hynny 'dydw i erioed wedi gweld ei arweinyddiaeth yn broblem sylweddol.

Mae i Ieuan ei gryfderau a'i wendidau fel arweinydd. Mae'n drefnus, yn gydwybodol, mae'n deall ei feysydd ac yn mynegi ei hun yn ddigon effeithiol yn y ddwy iaith. 'Dydi o ddim yn arweinydd carismataidd yn yr ystyr bod Alex Salmond neu Dafydd Wigley yn garismataidd - ond dydi hynny ddim yn broblem ynddo'i hun - bydd pleidiau ag arweinwyr nad ydynt yn garismataidd yn aml yn llwyddo. Er enghraifft, mae'r DUP yn perfformio'n well o dan arweinyddiaeth Peter robinson nag oedd yn gwneud o dan Ian Paisley. Ond yr hyn na ellir ei wneud o dan amgylchiadau felly ydi rhedeg ymgyrch arlywyddol fel un Salmond eleni - mae'n rhaid wrth strategaethau eraill - a natur y strategaethau hynny oedd y broblem i'r Blaid eleni.

Polisiau ydi'r mater cyntaf. Mae polisiau yn amlwg yn hynod bwysig. Yn 2007 roedd gan y Blaid set o bolisiau trawiadol - gliniaduron am ddim, cymorth i fusnesau efo treth busnes er enghraifft. Er nad oedd y polisiau hyn ar un olwg yn rhai sylweddol roedd pobl yn son am rai ohonynt ar stepan drws bryd hynny. Chlywais i neb yn son am bolisi o eiddo'r blaid y tro hwn.

Mae naratif etholiadol yn bwysig ym mhob etholiad, ac mae hefyd yn bwysig bod y naratif hwnnw yn gyson trwy'r ymgyrch, ac ar pob lefel - yn lleol ac yn genedlaethol. 'Dydw i ddim yn siwr beth yn union oedd y naratif y tro hwn. Fy awgrym i am naratif effeithiol eleni fyddai gwrthgyferbynnu'r llywodraeth glymbleidiol gymharol boblogaidd sydd newydd ddod i ben efo'r llanast o lywodraeth Lafur hynod amhoblogaidd 2003 - 2007 (torri cyllid ysgolion, cau ysbytai ac ati) - ac yna mynd ati i wneud defnydd o'r polau i awgrymu bod pleidlais i Lafur yn bleidlais i ddychwelyd i'r dyddiau hynny. Mi wnaeth straeon am gyrff ddim yn cael eu claddu a mynyddoedd o sbwriel ar hyd ochrau'r ffyrdd yn ystod llywodraeth Callaghan gadw Mrs Thatcher yn mynd am flynyddoedd maith.

Mater arall mwy gwaelodol o bosibl ydi lleoliad gwleidyddol y Blaid. Ers 1997 mae'r pleidiau unoliaethol yng Nghymru wedi Cymreicio ac wedi meddiannu peth o dir syniadaethol traddodiadol y Blaid. 'Dydi o ddim yn glir i mi bod y Blaid wedi ymateb i'r newid yma, nag yn wir wedi ystyried o ddifri os ydi'r tir gwleidyddol mae'n sefyll arno ar hyn o bryd yn un priodol i'r oes sydd ohoni. Yn sicr mae'n fwy anodd gwahanu'r Blaid oddi wrth y pleidiau unoliaethol yng Nghymru nag oedd hi yn y dyddiau cyn datganoli. Mae angen gwirioneddol edrych ar hyn. Yn gynharach heddiw cafodd un plaid genedlaetholgar oddi mewn i'r DU ei sgubo i rym gan gannoedd o filoedd o bleidleisiau pobl gyffredin. Yn hwyrach heddiw bydd un arall yn ol pob tebyg yn gwneud yn dda iawn. Mae proffeil cyhoeddus y ddwy blaid yma yn llawer mwy miniog genedlaetholgar nag un y Blaid. Mae cwestiynau i'w holi ynglyn a hynny.

23 comments:

Jake said...

Er fy mod i'n siomedig hefo'r canlyniad. Dwi'n teimlo chydig o ryddhad, oherwydd fy mod i yn erbyn "Cymru'n Un". A dwi'n siwr petai Plaid wedi medru cael Llywodraeth Enfys- fysa ni ddim wedi bod yn y twll yma!.

Ta waeth, rhaid edrych ymlaen. Yn y byd modern mae'n amlwg bod cael arweinydd carismataidd LOT mwy pwysig na cael un trefnus. Rhaid Blaid Cymru dysgu hyn (ac os oes rhaid, cael dirprwy sydd yr un trefnus).

Ond chi'n iawn i ddeud bod polisiau y Blaid wedi colli ffordd. Ond yn fy marn i, roedd hyn yn wir yn 2007- dyla'r Blaid wedi gwneud yn wych; ond nath nhw ddim. 'The writing was on the wall' ond nath neb gwrando. A dyna pam roedd o'n hanfodol i IWJ gael y Prif Weinidogaeth i ddangos i Cymru be fysa Llywodraeth Plaid Cymru yn ei wneud.

Rhaid i'r Blaid cymeryd amser hir nawr i ail-adeiladu; efallai anghofio am Llywodraethu yn y Cynulliad tymor yma. Cael polisiau cenedltholwr go iawn fel yr SNP; nid ryw sosialaidd gwyrdd. Cael arweinydd carismatig. Cael gwared o ACau hen. A dechrau eto.

Y peth drwg ydy- tydw i ddim yn meddwl bod o i fewn i'r Blaid i ail drefnu heb rywun o'r tu allan yn dod i fewn i sortio bob dim allan.

Etholiad siomedig, ond o ni'n gwbod oedd o am ddigwydd ar ol etholiadau San Steffan ag really ar ol rhai 2007.... gobeithio neith y Blaid gwrando a gwella.

Anonymous said...

Dwi'n bleidiwr.....ond nid wyf yn teimlo'n rhy drist fod HMJ wedi colli yn Llanelli. Mae hi'n rhy Sosialaidd a phlwyfol wrth fy modd i. Mi ddywedodd hi heddi fod y ffaith na ddywedodd y Blaid na fyddent yn mynd i mewn i gynghrair gyda'r Toris cas yn rheswm eu bod wedi gwneud mor wael. :-))))

Anonymous said...

Dwi yn cytuo gyda lot o'r hyn sydd yn cael ei nodi ond yn dymuno holi pa effaith gafodd cynnal y bleidlais AV ar yr un diwrnod. Dwi yn meddwl ei fod wedi help i ddod a'r "British Welsh" allan. Ar un ystyr gellid dadlau fod y mathamateg rhanbarthol wedi bod yn fanteisiol tro diwethaf ond heb wneud hynny y tro yma. Dwi yn awgrymu fod angen cyflwyno llond llaw o syniadau syml glir all apelio ar draws Cymru ac efallai y bydd cyfnod ar y meiniciau cefn o gymorth i finiogi at yr etholiadau nesaf.

Oes unrhywun o'r criw Currygate ar ol bellach ?

Anonymous said...

Cytuno yn llwyr hefo dy sylwadau fel bob amser....i mi yr unig beth dwi yn anhytuno hefo ydi pwysigrwydd yr arwynydd, neu yn fwy y ffaith nad ydi Ieuan yn un carasmataid iawn. Amser sefyll yn ol a cael newid yn fy marn i. Adam, pryd ti nol......

Anonymous said...

At Anon 9:08,
Pleidiwr ydw i hefyd ond mae rhaid i fi ddweud does dim gobaith o gwbl ganddon ni os dyn ni'n meddwl mai bod rhan o gymblaid efo'r toriaid yn syniad da i ni fel Plaid. Yn y de, fan hyn, mae pob un o'r etholaethau wedi pleidleisio dros y blaid Lafur oherwydd maen nhw wedi dod â'r hen 'bogeyman Tory' allan. Sbiwch ar yr Alban, maen nhw wedi cipio'r hen seddi Llafur mewn llefydd fel Glasgow ac wedi dal eu seddi mewn llefydd fel sir Aberdeen ac yn y blaen. Yr union un sefyllfa yng Nghymru mewn gwirionedd, mae gynnon ni ein cadarnleoedd yng Ngwynedd ac ati ond mae rhaid i ni gipio'r de er mwyn cael mwyafrif yn y Cynulliad fel yr SNP yn yr Alban. Taswn ni wedi troi at y toriaid yn 2007, dychmygwch pa mor wael fyddai ein sefyllfa gyda'r toriadau sy'n dod o san steffan ar hyn o bryd. Mae HMJ yn iawn, tasai IWJ wedi dweud o'r dechrau y fydden ni'n gwrthod clymblaid â'r toriaid, ni fyddai'r blaid Lafur yn gallu mynd o gwmpas wrth ddweud yr hen gelwydd 'vote Plaid, get Tory'. Os dych chi'n cymharu hyn â'r agwedd SNP tuag at ffurfio clymblaid efo'r toriaid, mae'r wahaniaeth yn un sylweddol.

Jake said...

Anon 10:26,
Dwi'n cytuno yn hollol y bysa mynd mewn i glymblaid hefo'r toriaid yn ddrwg yn y byr dymor.

OND, roedd na siawns i gael Lywodraeth am 5 mlynedd. Ac os y gallai Llywodraeth yna wedi gallu trawsnewid Cymru (os fawr!). Mae'n debyg na fyddai Plaid Cymru wedi talu yn ddrwg yn y de. Rhaid hefyd cofio BE MAE PLAID CYMRU YN Y BUSNES YMA I NEUD? wel i mi, i gael mwy a mwy o bwerau i Gymru- a dim ond clymblaid hefo'r Toris ar DemRhydd fydd yr ateb (oherwydd San Steffan). Ond yn amlwg os da chi, dim ond eisiau i Plaid i 'reoli Cymru' ac dim ond enill etholiadau yna efallai ni fyddai clymblaid wedi bod yn bwysig.

Ac os da nin deud 'no way to the Tories' yna yn y tymor byr yr oll da nin gallu deud ydy bydd Llafur mewn pwer yn y Bae- di hyn ddim yn dderbyniol.

Dwi'n siomedig bod HMJ wedi mynd, ond cytuno mae hi LOT rhy sosialaidd- bron mor ddrwg a 'call me Labour' Leanne Wood. RHAID i'r Blaid dechrau dangos sut mae nhwn wahanol i Llafur- a mae hynny drwy fynd fwy i'r canol ac yn amlwg mwy "nationalist".

Yn amlwg nawr wrth edrych yn ol, mistake oedd o i beidio greu Llywodraeth enfys yn 2007. Fysa Plaid wedi cael diolch am prisiau presgripsiwn ayyb fel Prif Weinidog.

Simon Dyda said...

Byddwn i'n awgrymu y dylai swydd arweinydd grwp Plaid yn y Cynulliad a swydd arweinydd Plaid Cymru gael eu gwahanu, fel y gallwn ethol Adam Price yn arweinydd. Ac yntau heb unrhyw sedd seneddol ar hyn o bryd, gallai ganolbwyntio ar hybu cefnogaeth i'r Blaid ar lawr gwlad yn ystod y pedwerydd cynulliad. Wedyn, yn 2016, gallwn ni ailgyfuno'r ddwy swydd.

gogogasnewydd said...

diolch Jake am ymateb ond dwi'n meddwl eich bod chi'n colli'r pwynt o'r ddadl 'ma. Mae Cymru'n wlad 'left of centre' dyna pam mae tri chwarter ohonym ni wedi pleidleisio dros bleidiau sydd ar y chwith. Os dan ni'n anwybyddu'r ffaith 'ma drwy ffurfio clymbleidiau efo'r toriaid rydyn ni wedi colli'r pwynt. Er mwyn cael gwlad annibynnol, mae rhaid i ni fel plaid derbyn y ffaith yma. Yn bersonol, prif broblem plaid cymru oedd peidio ddweud 'na' i ffurfio llywodraeth efo'r toriaid o'r cychwyn cyntaf. Mae rhaid i ni dderbyn y ffaith bod mwyafrif seddi Cymru yn nwylo Llafur ac dyn ni ddim yn mynd i newid hynny os dyn ni'n mynd i'n cymdeithasu'n hunain efo 'r toriaid.
Dwi'n gwybod bod hynny'n anodd ond dwi'n dod o ardal gogledd Cymru lle mae'r blaid Lafur wedi cael mwyafrif ac maen nhw wastad wedi dweud bod ni'n toris efo 't' bach. Mae 'na lot o ardaeloedd lle mae'r agwedd 'ma yn dal i fodoli. Yn fy nheulu i, fi ydy'r unig person i fod yn bleidiwr ac yn aelod o blaid Cymru. Dyn ni ddim wedi enill y frwydr eto, dwi'n casau'r blaid Lafur a'r blaid Geidwadol, mae rhaid i ni fod yn gryf ar ein bennau'n hunain.

Anonymous said...

Ond pwy fydd yn cynrychioli etholaethau y blaid yn ei chadarnleoedd yn etholiad 2016. (Ieuan Wyn, Alun Ffred, Dafydd El, Rhodri Glyn i gyd wedi ymddeol yn ol proffwoydolwaeth V Roderick ar S4C). Iwan Huws yn Arfon efallai? Llyr Huws. Pwy arall? Adam yng Ngaerfyrddin gobeithio. Vaughan Gethin i Lafur i weld yn foi da allai fod yn ffigwr allweddol yng ngwleidyddiaeth Cymru am amser hir..... Pwy sydd gan y Blaid?

Anonymous said...

Mae digon o fobol o safaon gennym ond mae'n rhaid inni fod yn llai parochial a mynd allan a headhuntio nhw i gael y gorau. Pwy sydd ar y Management Board i'r Blaid? Hwyrach fod isio'r newid ddechrau yn y top.

Anonymous said...

Beth sy'n fy nharo i ydi fod cyn gymaint o "dalent" y blaid unai yn methu a chael eu dewis ar gyfer seddi saff / seddi enilladwy neu yn dewis peidio a sefyll i'r Cynulliad o gwbl:

Adam Price - wedi jibio allan a denig i America pan yr oedd ei blaid a'i wlad ei angen fwyaf. Poenus ond gwir.
Jonathan Edwards - y boi iawn yn y lle anghywir. Allwn ni ddim temptio Rhodri Glyn efo'r House of Lords bar er mwyn cael Joni Eds i fewn i'r Cynulliad?
Myfanwy Davies - rhif 3 ar restr y De Orllewin y tu ol i Bethan Jenkins (cegog, diog,pwysig a hoples) a Dai Lloyd (boi iawn / also ran sydd wedi cael ei gyfle). Gwastraff llwyr o dalent amlwg.
Erfyl ap Gwilym - pam di hwn ddim yn gyntaf neu'n ail ar restr rhanbarthol? Mae angen dwyn perswad ar Leanne Wood a Chris Franks i gamu i un ochr yn Canol De Cymru.
Liz Saville Roberts - yn stryglo'n arwrol efo portffolio addysg Cyngor Gwynedd (y "portffolio from hel" a joban gwbl ddi-ddiolch) yn hytrach nag yn disgleirio yn y Bau.
Dafydd Trystan - ymgeisydd mewn sedd anobeithiol nes y bydd Llafur yn ol mewn grym yn San Steffan
Dyfan Jones - gwleidydd ifanc disgleiriaf Plaid Cymru rhwng 2000 a 2004 sydd bellach yn gweithio dramor i'r Cenheloedd Unedig.

Rhaid sortio hyn allan cyn y tro nesa.

Anonymous said...

ac eraill sydd yn brysur mewn byd busnes ar y funud. Dwi meddwil fod plaid angen pobl sefyll sydd rwan yn gweithio yn y byd go iawn yn hytrach na rhai or "career politicians" ma sydd yna yn barod. Does neb ers Dafydd Wigley wedi bod yn unchel yn y blaid gyda chefndir byd busens....amser am newid.

Anonymous said...

Yn ol Vaughan,ni fydd alun ffred ieuan,dafydd el,na rhodri glyn yn sefyll eto a dyna 4 set saffar blaid yn chwilio am ymgeiswyr newydd yn year un etholiad,mae n gyfle I genhedlaeth newydd ,ond yn beryg o gael gormod o waed newydd?
Ar bwynt arall, onid ywr canlyniad yn creu creisus arall?gyda'r toris a democratiaid mewn grym yn llundain a llafur yng nghaerdydd sut all llais gwynedd barhaur naratif mai plaid cymru yw r bai am yr holl ddrwg yn y byd?

Plaid Gwersyllt said...

Digon o son am fethiannau y Blaid on neb yn son am eu record mewn llywodraeth. Mae nhw wedi plesio yr aelodau crai hefo y refferendwm a Holtham ond faint o ddiddordeb oedd gan y cyhoedd yn hyn? Dim llawer. Roedd y cyhoedd a diddordeb mewn iechyd, safonnau addysg, awyren o Ynys Mon, safbwynt y Blaid ar ynni niwcliar, a tren cyflym yn stopio yn yr hen Glwyd, ryda ni'n cael ein gweld yn methu yn rhain i gyd a dyna pam da ni wedi colli pleidleisiau...ein record mewn llywodraeth. Doeddan ni fel Cynghorwyr yn y Gogledd Ddwyrain DDIM YN GALLU gwerth perfformans y Blaid!

Ap Neb said...

Dwi o'r farn y dylai'r Blaid gymryd saib fer er mwyn atgoffa'i hun beth oedd pwrpas ei ffurfio. Yn wahanol i'r pleidiau eraill, mae'n bwysig cofio bod aelodau'r Blaid dros y cenedlaethau wedi rhoi lles Cymru o flaen lles y Blaid a lles y Blaid o flaen lles unigolion. Rhaid gofalu nad ydym yn gwyro oddi ar y llwybr yma wrth drafod y camau nesaf.

Yn wahanol i'r pleidiau eraill, nid uchafbwynt Plaid Cymru yw bod mewn llywodraeth, ond yn hytrach arf i'w ddefnyddio i hybu achos Cymru Rydd ac i wella bywyd ei phobl. Cofiaf glywed Betty Williams yn dweud unwaith mai pinacl ei gyrfa oedd dod yn Aelod Seneddol - dyma yw meddylfryd Llafur. Nid pinacl gyrfa Gwynfor Evans oedd dod yn AS, ond yn hytrach gychwyn ar daith hir.

Lles hir-dymor Cymru felly ddylai arwain y drafodaeth, a hynny o flaen lles y Blaid a lles unigolion. Lle mae hyn yn ei gadael? Yn sicr nid mewn clymblaid Cymru'n Un 2. Mae lles Cymru yn gofyn i ni beidio gwrthwynebu mesurau Llafur yn y Cynulliad sydd ym marn y Blaid yn debygol o fod yn llesol - nid oes angen bod mewn clymblaid i wneud hyn. Fodd bynnag bydd rhaid gofalu nad yw Llafur yn gwneud penderfyniadau sydd yn andwyol i Gymru drwy geisio consensws gwrth-lywodraethol - rhyw fath o glymblaid enfys answyddogol (ond heb y gwenwyn o gynghreirio â phleidiau eraill).

O ran lles y Blaid, byddai cyfnod allan o lywodraeth yn gyfle gwych i ail-edrych ar ei rôl. Mae'n rhaid darganfod y sbarc sydd wedi mynd ar goll, a gwneud yn siŵr fod 'Dŵr Clir Gwyrdd' rhwng y Blaid a'r holl bleidiau eraill. Rhaid iddi edrych yn onest a phragmatig ar ei arweinyddiaeth, ond heb wneud penderfyniadau byrbwyll.

Yn fwy na dim, mae angen paratoi at etholiad 2016 gan gofio beth fydd cefndir tebygol yr etholiad hwnnw: Llafur / Ed Miliband wedi bod mewn llywodraeth yn Llundain ers blwyddyn ac yn amhoblogaidd; Yr Alban wedi pleidleisio dros annibyniaeth ers dwy flynedd, a dyddiad yr ysgariad wedi ei osod (neu hyd yn oed wedi bod??). Efallai mai 2016 fydd blwyddyn fawr y Blaid - mae'n rhaid paratoi'n ofalus ar ei gyfer.

Anonymous said...

Mae Wikipedia yn diffinio chaos theory fel "a small change at one place in a nonlinear system that can result in large differences to a later state. For example, the presence or absence of a butterfly flapping its wings could lead to creation or absence of a hurricane."

Credaf fod Sian Caiach wedi achosi rhywbeth tebyg yn y byd gwleidyddol. Yr enw yr wyf wedi ei roi i'r theori newydd yma yw y "Gotsan Wirion Theory".

Dylan said...

dw i wedi sgwennu rhyw fath o bost-mortem fy hun fan hyn http://anffyddiaeth.blogspot.com/2011/05/rhoir-etholiad-yn-ei-chyd-destun.html

o ran yr arweinyddiaeth, mae'n reit anodd gweld pwy all olynnu a dweud y gwir. Mae cyfnod IWJ yn sicr wedi dod i derfyn naturiol, ond mae'n anodd peidio teimlo mai'r cyfan fyddai'r person nesaf yn ei wneud fyddai cadw'r sedd yn gynnes am un tymor er mwyn dychweliad y mab darogan

Anonymous said...

Sut fyddai pethau'n gweithio felly? Rhodri Glyn yn eistedd lawr yn 2014/15 ac yna is-etholiad i'r mab darogan ein arwain o'r anialwch?

Anonymous said...

Alun Ffred fyddai y boi delfrydol i arwain y blaid am yr ychydig flynyddoedd nesa. Carismatig, gweithgar, uchel ei barch, peniog. Dim Elin Jones plis.

Anonymous said...

Canlyniad gwael i'r Blaid (er gall wedi bod yn waeth, does dim amheuaeth o hynny).

Un o'r pethau sy'n mynd o dan fy nghroen i gyda'r 'post mortem' o blith cefnogwyr y Blaid mewn amgylchiadau fel hyn ydy'r gor bwyslais ar bersonoliaethau. Mae'r Blaid yn llawer mwy nag unigolion, mae pob aelod a phleidlais a chyfrifoldeb dros dyfodol ein plaid.

Plis gallwn ni osgoi'r sefyllfa o fynd lawr y llwybr o feirniadu neu addoli unigolion amlwg. Boed yn beirniadu IWJ yn ddi angen, galw am ddychwelyd Dafydd Wigley ac Adam Price, beirniadu Adam Price am fynd i astudio yn yr UDA yn lle aros yng Nghymru neu San Steffan. Bydd canolbwyntio ar y rhain ddim yn helpu'r Blaid un owns.

Mae angen edrych ar y Blaid ar ymgyrch yn ei chyfanrwydd. Ni allwn newid rhai elfennau - e.e. gwendid y cyfryngau cynhenid yng Nghymru o'i gymharu a'r Alban, ond mi allwn newid rhannau eraill megis neges y Blaid ac ati. Dylid edrych ar rôl unigolion yn hyn o beth hefyd - Arweinydd, Llywydd, Cadeirydd, Tîm Ymgyrchu ayyb. Mae pob dim angen edrych arno, ond gadewch i ni wneud hyn mewn ffordd bositif a chadarn nid mewn modd sy'n berryg o greu rhaniadau a rhwygiadau.

Anonymous said...

"RHAID i'r Blaid dechrau dangos sut mae nhwn wahanol i Llafur- a mae hynny drwy fynd fwy i'r canol ac yn amlwg mwy "nationalist".

Anghytuno'n llwyr. Os mai bwriad hunan-lywodraeth yw gwella bywydau pobl yng Nghymru does dim diben symud i'r dde, heb son am y pleidleisiau byddai hynny'n golli i'r Blaid.

Anonymous 6.13: pam y fath iaith? Os nad ydych chi'n hoffi dynes, dywedwch pam yn lle defnyddio geiriau cas ac afiach.

Anonymous said...

Smo Dafydd El yn credu, fo y Blaid yn dda i ddim tu allan i Wynedd ! Plis tro nesa deud hynny o flaen llaw cyn i ni wastraffu arian ag egni !

Anonymous said...

Anon 3.43 Erbyn hyn mae'r gair cotsan wedi'i gymhwyso ar gyfer dynion hefyd. Mae cotsyn yn derm cyffredin yn Llyn ac Eifionnydd ers blynyddoedd. Mater o amser fydd hi nes y daw cyfrol i'r siopau gyda'r teitl "Y Cotsyn a Straeon Eraill"

Ffwcsyn yw'r gair cyfatebol yn ardal Dolgellau