Saturday, May 21, 2011

Cymro ar flaen y gad unwaith eto

'Dydi blogmenai ddim yn hoff o beldroed o gwbl, ac yn wir dyma'r tro cyntaf i stori yn ymwneud a'r gem ddiflas erioed ymddangos ar y tudalennau hyn. Serch hynny mae'n braf cael y cyfle i nodi bod Cymro yn torri tir newydd - hyd yn oed os mai arwain y gad mewn idiotrwydd trwy fygwth Twitter efo'r gyfraith mae'r creadur rhyfedd.

Mae'n rhaid bod bod ei ymennydd i gyd yn y droed chwith 'na.

9 comments:

Plaid Gwersyllt said...

ti ddim yn mynd i'w enwi fo ta???

Cai Larsen said...

Wel, mi fyddai'n well gen i beidio mynd i'r afael a'i gyfreithwyr o a dwed y gwir - mae o'n gallu fforddio rhai gwell na fi.

Anonymous said...

pam mae pawb yn gwbod nawr mr Man U o fn meddwl odd en cymro cadarn, wel dyna ni o fin meddwl odd en ffigwr anhygoel o wych

Emlyn Uwch Cych said...

Ges i siom o ddarllen pwy ydy CTB. Dyn mor neis hefyd. Temtasiynau'r cnawd, sbo.

Anonymous said...

Malu awyr. Dim trafodaeth ar Aled Roberts wedi bod ar fama eto. Boi da aled - Plis dim Eleonr Burnham yn ol?

Anonymous said...

blog gwych - ond mwy wedi bod yn digwydd yn ddiweddar ar 'blog syniadau. Dim byd ar blog menai rhwng nos fawrth a sadwrn

Anonymous said...

Chwarae teg - dymuno gwella ei Gymraeg prin oedd o . Blynyddoedd o alltud wedi codi hiraeth am iaith ei famwlad, a phwy well nac Imogen i godi ymwybyddiaeth .

Cai Larsen said...

Anhysb - blog gwych - ond mwy wedi bod yn digwydd yn ddiweddar ar 'blog syniadau. Dim byd ar blog menai rhwng nos fawrth a sadwrn.

Ymddiheuriadau - 'dwi heb fod mewn sefyllfa i flogio llawer yn ddiweddar - ond bydd y gwasanaeth arferol yn ailgychwyn o rwan.

Anonymous said...

Ar flaeb y gad yntau ar gefn ei geffyl ar bod ar gefn rhywbeth arall