Saturday, May 28, 2011

Pwysigrwydd naratif cenedlaethol i'r Mudiad Cenedlaethol

Pwt arall sydd yn nhraddodiad diweddar y blogosffer Cymreig o gynnal post mortem yn dilyn digwyddiadau Mai 5 mae gen i ofn.

Yr hyn sydd o dan y chwyddwydr y tro hwn ydi'r ffaith nad ydi'r Mudiad Cenedlaethol yn ymddangos i mi i fod yn cynnig naratif cenedlaethol sy'n cysylltu ag amrediad eang o bobl Cymru.

Yr hyn ydi naratif cenedlaethol mewn gwirionedd ydi'r stori genedlaethol sy'n rhoi mynediad i bobl i'w hunaniaeth genedlaethol. Mae i'r stori honno ei gorffennol, ei phresenol ac mae'r dyfodol ymhlyg ynddi hefyd. 'Dydi naratif cenedlaethol ddim yn gyfystyr a hanes gwlad wrth gwrs, mae naratifau cenedlaethol yn ddethol iawn o ran yr agweddau ar hanes sy'n cael eu defnyddio - mae hanes yn gymhleth tra bod naratif yn syml.

'Rwan mae'r cysyniad o naratif cenedlaethol yn gallu bod yn gynhenus - 'dydi pob gwlad ddim o anghenrhaid yn rhannu'r un naratif - mae hyn yn wir am y DU (heddiw o leiaf) ac mae hefyd yn wir am Gymru. Serch hynny byddwn yn ei awgrymu ydi bod methiant i gynnig o naratif cenedlaethol cyson sy'n un cenedlaetholgar yn un o'r rhesymau pam nad ydi'r Mudiad Cenedlaethol yng Nghymru yn yr un lle nag ydi'r mudiadau cenedlaethol Celtaidd eraill.

Un o nodweddion rhyfedd (ar un olwg) cenedlaetholdeb Cymreig ydi'r ffaith ei bod yn colli cefnogwyr yn gymharol hawdd - yn arbennig yn wyneb teimlad gan gyn gefnogwyr bod buddiannau lleol o dan fygythiad ac nad ydi'r Mudiad Cenedlaethol yn gwneud digon i'w hamddiffyn. Esiampl o hyn ydi Llais Gwynedd wrth gwrs. Roedd yn drawiadol bod cyn genedlaetholwyr ethnig (a benthyg term sy'n llai na chysact na theg efallai) sydd wedi treulio blynyddoedd yn honni eu bod yn burach gwladgarwyr na phobl mwy hyblyg fel fi yn ymgyrchu tros rhywun a fyddai - o'i hethol - wedi cynrychioli Meirion Dwyfor yn y Cynulliad Cenedlaethol trwy gyfrwng y Saesneg, ac yn unol a gwelediagaeth digon Seisnig o'r Byd a'i bethau.

Y rheswm gwaelodol am hyn ydi bod llawer o bobl yn cael trafferth i wahaniaethu rhwng y cenedlaethol a'r lleol blwyfol. 'Does yna ddim gwahaniaeth rhwng y naill a'r llall i lawer - mae brogarwch a gwladgarwch yn gyfystyr. Felly mae'n dilyn bod unrhyw fygythiad i wasanaethau lleol yn 'frad', a dyna pam bod y gair yn cael ei ddefnyddio mor rhwydd i ymateb i benderfyniadau gwleidyddol sydd ddim oll i'w wneud a brad yn y ffordd mae'r rhan fwyaf o bobl yn deall y term.

Mae yna wledydd eraill sydd a phlwyfoldeb sy'n treiddio'n dwfn i'w gwneuthuriad cenedlaethol wrth gwrs. Mae Iwerddon yn esiampl da. Os ydych yn cael eich hyn yn teithio ar yr ynys ar ddydd Sul, mae'n ddigon tebygol y cewch eich dal mewn traffig - mae llawer o boblogaeth yr ynys ar y lonydd yn dilyn eu timau gemau Gaeleg lleol ar hyd a lled y wlad. Os ydi sir, neu glwb yn mynd ymhell mewn cystadleuaeth mae'r holl ardal yn cael ei foddi mewn baneri i ddathlu hynny. Mae yna bobl sy'n peintio eu ceir yn lliwiau eu sir neu eu clwb. Mae yna ochr wleidyddol negyddol i'r plwyfoldeb yma, gyda phatrymau pleidleisio yn aml yn cael eu gyrru gan blwyfoldeb, ac aelodau etholedig yn rhoi blaenoriaethau lleol o flaen rhai cenedlaethol. O'r traddodiad yma y daw ein cyfaill Jacky Healy Ray.

Ond mae Iwerddon yn wlad mewn ffordd nad ydi Cymru yn un - gall ei phobl godi uwchlaw'r plwyfol a rhoi blaenoriaethau cenedlaethol cyn rhai lleol. Yn wir mae niferoedd sylweddol iawn o bobl tros y ganrif ddiwethaf wedi bod yn ddigon parod i ladd, marw a byw gyda chryn dipyn o ddioddefaint personol er mwyn hyrwyddo achosion cenedlaethol. Y rheswm am hyn ydi bodolaeth naratif, neu fytholeg genedlaethol bwerus sy'n cysylltu efo llawer iawn o bobl - o Capagh i Cabra, o Bandon i Ballycastle. Mae'n naratif sy'n gwneud i bobl fod eisiau bod yn rhan ohono.

Mae yna broblemau efo'r naratif wrth reswm - mae'n dibynnu ar ddarlleniad dethol iawn o hanes, ac mae'n arwain yn fynych at ddefnydd di angen o drais - ond serch hynny mae'n naratif sy'n cydio yn nychymyg pobl, ac mae'n un gyfoethog i'r graddau ei bod yn cwmpasu syniadaethau y Chwyldro Ffrengig a gwrth imperialaeth Byd eang canol yr ugeinfed ganrif.

Os ewch i dafarn, neu aml i fan cyhoeddus arall yn yr Iwerddon mae'n ddigon posibl y byddwch yn dod ar draws tystiolaeth weledol o ymrwymiad i'r naratif yma ar ffurf lluniau o'r bobl sydd wedi ei hyrwyddo neu baraffanalia arall megis copiau o'r proclomasiwn a ddarllenwyd gan Padraig Pearse ar risiau'r GPO yn 1916. Pan mae gwrthdaro rhwng y cenedlaethol a'r lleol yn yr Iwerddon, bydd y cenedlaethol yn ennill fel rheol - a nerth y naratif cenedlaethol sy'n gyfrifol am hynny.

Mae naratif cenedlaethol Iwerddon yn un sydd wedi goroesi yn y tymor canolig, mae pethau'n wahanol yn yr Alban - mae'r naratif mae'r SNP yn ei gwthio yn cynnig delwedd o wlad fodern, ddeinamig yng Ngogledd Ewrop - yn un gymharol newydd - er ei bod yn tynnu ar hanes y llu o Albanwyr megis Alexandar Bell, Adam Smith, Alexander Fleming, James Watt a llawer i un arall oedd yn gyfrifol am adeiladu'r Byd modern. Mae'r naratif yma'n cyferbynnu'n llwyr efo un gynharach yn yr Alban oedd yn canolbwyntio ar orffennol Jacobiaidd - ac oedd i ryw raddau yn cydnabod bod yr Alban fel endid gwleidyddol yn perthyn i'r gorffennol. Mae'r SNP wedi llwyddo i greu naratif newydd sy'n atyniadol i lawer o bobl mewn ffordd nad ydi'r Mudiad Cenedlaethol yma yng Nghymru wedi ei wneud.

Rwan, nid rhyw ddamwain hanesyddol ydi'r diffyg naratif yma - mae yna resymau amdano. Y ffaith bod Cymru yn gymharol gymhleth a bod dealltwriaeth pobl o ystyr Cymreictod yn amrywio'n sylweddol mewn gwahanol rannau o'r wlad ydi'r rheswm eilradd. Y prif reswm fodd bynnag ydi'r ansicrwydd oddi mewn i'r Muniad Cenedlaethol ynglyn a'i gyfeiriad ei hun - os ydi'r cwestiwn (a dyna'r gair yna eto) annibyniaeth yn un problematig, mae creu naratif cenedlaethol cyson i bobl yn anodd hefyd. O ganlyniad mae'n hanfodol bod y Blaid yn mynd i'r afael unwaith ac am byth a'i phroblem annibyniaeth cyn y gall symud ymlaen.

5 comments:

Anonymous said...

Jacky Healy Ray. Pwy fyddai yn cymharu ag o yn ein cynulliad ni? Y diweddar Brinley Williams efallai fyddai'r agosaf? Er mor blwyfol gwleidyddiaedd J.H. Ray byddai yn gwneud y lle yn fwy diddorol!! Neu efallai yn nes at E Burnham - Lot fawr o swn a dim sylwedd yn y diwedd!!

Alwyn ap Huw said...

Mae prif lif y mudiad cenedlaethol yn gwrthwynebu cau ysgolion cefn gwlad mewn cymunedau Cymraeg a Chymreig. Mae cymdeithas yr Iaith wedi protestio yn erbyn cau ysgolion bach gwledig trwy Gymru pen baladr. Mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu cau ysgolion bach gwledig yng Ngheredigion, ym Mwrdeistref Sirol Conwy, yn Sir Gaerfyrddin, Ym Mhowys, Ym Mro Morgannwg, yn Sir Fynwy, ym mhob man ond Gwynedd lle mae'r Blaid yn torri bol am gau'r fath ysgolion.

Plaid Cymru yng Ngwynedd sydd wedi gwyro o'r naratif Cenedlaethol, nid Llais Gwynedd.

Mae'r Cambrian News yn cael ei ddarllen mewn tair etholaeth. Pan fo'r un rhifyn o'r papur yn adrodd am fwriad y Blaid i gau ysgol yn Ne Feirionnydd ac yn adrodd am brotestiadau’r Blaid yn erbyn cau ysgolion tebyg ym Maldwyn a Cheredigion, does dim angen Llais Gwynedd i ddangos gwendid neges "Cenedl Gyfan" y Blaid

menaiblog said...

'Dydi LlG ddim yn rhan o'r Mudiad Cenedlaethol Alwyn - hyd y gwn i does ganddyn nhw ddim barn ynglyn a statws cyfansoddiadol Cymru - yn sicr does ganddyn nhw ddim naratif cenedlaethol i'w gynnig.

Eu hunig naratif mewn gwirionedd ydi bod rhannau trefol o Wynedd yn derbyn gormod o adnoddau a rhai gwledig yn cael rhy ychydig.

Alwyn ap Huw said...

Wrth gwrs dy fod yn iawn Cai, does gan bobl fel Ali Gruffudd, Seimon Glyn, Now Gwynnys, Gwilym Euros a ballu dim byd i wneud a'r achos cenedlaethol, mae eu hanes yn profi mae Prydeinwyr sy' ddim yn malio botwm corn am yr achos cenedlaethol yw'r bali lot ohonynt!

Ond y cwestiwn yr wyt yn osgoi yw'r un ym mhrif fyrdwn fy ymateb. Os yw Cymdeithas yr Iaith yn cefnogi cadw ysgolion bach gwledig Gymreig ar agor ac os ydy Cymuned am gadw ysgolion bach cefn gwlad Cymru ar agor ac os ydy Plaid Cymru mewn 21 o siroedd Cymru am gadw ysgolion bach plwyfol ar agor; a ydy Plaid Cymru yng Ngwynedd yn rhan o brif lif yr achos cenedlaethol trwy fynnu cau'r fath o ysgolion mae gweddill yr achos cenedlaethol am gadw ar agor?

menaiblog said...

Mi fyddi'n deall os nad ydw i'n gwneud sylwadau am y gyfundrefn addysg yng Ngwynedd yn benodol.

Serch hynny mi fyddwn yn awgrymu dy fod yn camddehongli'n eithaf dybryd os wyt o dan yr argraff mai canlyniad i bolisi addysg Cyngor Gwynedd oedd perfformiad siomedig y Blaid. Petai hynny'n wir byddai dyn wedi disgwyl i'r Blaid wneud yn well yn Llanelli, neu Ddwyrain Caerfyrddin / Dinefwr nag yn Arfon (sydd yng Ngwynedd wrth gwrs) - ond y gwrthwyneb oedd yn wir. 'Doedd addysg ddim yma nag acw yn yr etholiad yma - ar wahan i efallai Feirion / Dwyfor - ac hyd yn oed yno roedd perfformiad LLG yn drychinebus o wael.

Son am naratif cenedlaethol oedd y blogiad Alwyn - mae trefniant ysgolion yn amherthnasol i naratif felly.

Ti'n gywir i nodi bod rhai o aelodau LlG efo cefndir cenedlaetholgar - ond mae'r un peth yn wir am fy nghymydog Guto Bebb, sydd bellach yn aelod o'r Blaid Doriaidd.

Wyt ti o ddifri yn meddwl bod y Blaid Doriaidd yn rhan o'r Mudiad Cenedlaethol?

Oeddet ti'n meddwl bod y Blaid Lafur wedi ymuno a'r Mudiad Cenedlaethol pan ymunodd Now a nhw ers lawer dydd?


Wnaeth LlG godi bys i helpu yn yr ymgyrch i roi pwerau newydd i'r Cynulliad? Welais i ddim tystiolaeth o hynny.

Beth ydi barn LlG am y toriadau i S4C ac i BBC Cymru? Maent yn erbyn mi dybiwn - ond glywaist ti rhywun yn dweud bw neu be?