Monday, May 09, 2011

Ychydig mwy o nodiadau ynglyn a natur ryfedd gwleidyddiaeth Cymru

Edrych ar rai o'r gwendidau yn ymgyrch ddiweddar y Blaid wnaethom ni yn y blogiad diwethaf. Yn hwn byddwn yn cymryd golwg ychydig mwy cyffredinol ar natur ryfedd ein gwleidyddiaeth.

Mae'r Blaid Lafur wedi dominyddu gwleidyddiaeth ar pob lefel yng Nghymru mewn ffordd sy'n weddol anghyffredin mewn gwleidyddiaeth etholiadol. Ar un olwg mae hyn yn beth rhyfedd - wedi'r cwbl o safbwynt llwyddo i wneud yr hyn sydd yn bwysig - codi perfformiad economaidd y wlad - mae Llafur wedi methu, methu a methu eto. Mae'n bosibl meddwl am bleidiau eraill sydd wedi rheoli am gyfnodau hir iawn - yr LDP yn Japan er enghraifft neu'r IRP yn Mecsico - ond roedd ganddyn nhw yn eu ffyrdd eu hunain record o lwyddiant i gyfeirio ato. Does gan Llafur Cymru dim record o gwbl o lwyddiant i gyfeirio'n ol ato. A beth bynnag 'dydyn nhw heb ddominyddu gwleidyddiaeth i'r un graddau a Llafur Cymru.

Rydym wedi edrych yn y gorffennol am y rhesymau tros gryfder Llafur yng Nghymru bellach - mae'n blaid sy'n cael ei chysylltu efo gwariant cyhoeddus, ac mae yna lawer iawn, iawn o bobl yn ddibynnol ar wariant felly yng Nghymru. Mae cefnogaeth yn tueddu i lifo yn gryfach tuag at Lafur pan ceir canfyddiad bod bygythiad i wariant cyhoeddus - y sefyllfa yr ydym ynddi 'rwan wrth gwrs.

Yr hyn sy'n ddiddorol ydi'r ffaith bod Llafur yn cael reid rhad ac am ddim gan y pleidiau eraill ar y mater yma. 'Does yna neb o ddifri yn creu naratif sydd wedi ei seilio ar y ffaith bod parhau i bleidleisio i Lafur wedi ein cael ar waelod pob tabl 'rhanbarthol' sydd o unrhyw werth. Mewn unrhyw gyfundrefn wleidyddol normal byddai methiant parhaus Llafur yn bwnc llosg gan y pleidiau eraill ym mhob etholiad. 'Dydi hynny ddim yn wir yng Nghymru, mae ein methiant yn cael ei dderbyn fel rhan naturiol o drefn pethau. Mae derbyn - a disgwyl methiant yn rhan o'n seicoleg cenedlaethol.

Daw hyn a ni at broblem arall yn ein gwneuthuriad seicolegol cenedlaethol - i gymharu a'r Alban, neu'r Iwerddon o ran hynny, ychydig iawn o optimistiaeth sydd ynglyn a'r hyn ydi Cymru a'r hyn y gallai Cymru fod. Mae yna ymdeimlad yn y gwledydd Celtaidd eraill o botensial cenedlaethol, ac mae'n dilyn felly bod methiant i gyrraedd y potensial hwnnw yn fater o bwys sydd a goblygiadau etholiadol iddo. 'Does gennym ni ddim ymdeimlad cryf o botensial yn cael ei golli - mae dibyniaeth rhywsut wedi dod yn rhan o'r hyn rydym.

Yn y blogiad diwethaf roeddem yn rhyw edrych ar bethau y gallai'r Blaid fod wedi eu gwneud yn well yn yr etholiad diweddaraf. O ran creu naratif gwleidyddol mwy cyffredinol a pharhaus byddwn yn awgrymu bod y Blaid yn meddwl am y ddau fater uchod.

I ddechrau dylid ceisio creu mwy o ymdeimlad o optimistiaeth ynglyn a Chymru a'r hyn y gallai fod - nid trwy ddibynnu ar naratif sy'n tanlinellu canfyddiad y dylid gwario mwy o arian cyhoeddus yng Nghymru oherwydd ei thlodi ydi'r ffordd orau o wneud hynny.

Yn ail dylai methiant parhaus Llafur yng Nghymru fod yn rhan barhaol o'r sgwrs wleidyddol yng Nghymru. Am rhyw reswm 'dydi hyn prin yn bwnc trafod ar hyn o bryd.

7 comments:

Dyfed said...

Yn draddodiadol tybed and oes yna natur ddibynnol ynom fel Cymry - dibynnu ar eraill? Dyna un rheswm pam fod Llafur mor gryf - yn troi'r tap ariannol mewn budd-daliadau ayb. A pham fod y Toris mor amhoblogaidd - troi'r tap i ffwrdd a dweud wrthym am sefyll ar ein traed ein hunain. Efallai - ac mae hwn yn efallai go fawr - fod y refferendwm eleni (yr un go iawn, nid yr un AV wirion) gyda'i fwyafrif iach yn arwydd fod pethau'n troi - ond fe gymer amser.

Ifan Morgan Jones said...

"efallai go fawr - fod y refferendwm eleni (yr un go iawn, nid yr un AV wirion) gyda'i fwyafrif iach yn arwydd fod pethau'n troi"

Neu efallai ei fod yn arwydd fod pobol eisiau datganoli pwer o'r Ceidwadwyr sy'n 'troi'r tap i ffwrdd a dweud wrthym am sefyll ar ein traed ein hunain' i Lafur 'sy'n troi'r tap ymlaen'? Dwnim...

Yn bersonol dw i'n meddwl fod yna fwlch yn y farchnad ar gyfer plaid geidwadol, neu o leiaf 'fiscally conservative', cenedlaetholgar. Achos os yw Cymru am fod yn annibynol ryw ben, rhaid troi'r tap i ffwrdd yn gyntaf achos fydd dim dwr yn dod allan ohono wedyn, os ydi hynny'n gwneud synnwyr.

Iwan said...

Y broblem i Plaid Cymru, yn dilyn y refferendwm llwyddiannus, a'r ffaith eu bod ofn defnyddio'r gair 'annibyniaeth', ydi nad oes dim i'w gwahaniaethu o'r pleidiau eraill.

Mae llawer o son wedi bod ers yr etholiad fod y blaid yn 'fwy na plaid', ac yn 'fudiad cenedlaethol'. Y broblem ydi nad ydi hyn yn cael ei adlewyrchu yng ngweithrediadau'r blaid ar hyd a a lled y wlad. Dylai 'mudiad cenedlaethol' gael ei arwain gan egwyddorion cyson. Ai ddim i mewn i ddadleuon ynglyn ac addysg a chau ysgolion, ond mae'r gwahaniaethau a welir rhwng grwpiau PC ar wahanol gynghorau yng Nghymru ar y pwnc yma yn enghraifft o'r blaid yn cael ei rhwygo rhwng bod yn blaid mewn grym a bod yn mudiad cenedlaethol a arweinir gan egwyddorion.

Problem arall ydi'r syniad o genedlaetholdeb yng Nghymru. I lawer o bobl sy'n credu mewn Cymru annibynnol, mae'r syniad wedi ei seilio mewn hanes, diwylliant a.y.y.b. Yr unig ffordd mewn gwirionedd o ennill dadl annibynniaeth yng Nghymru yw dadl economaidd. H.y. dadlau y byddai Cymru yn wlad fwy llewyrchus yn sefyll ar ei thraed ei hun.

Yn hyn o beth, mae Plaid Cymru wedi methu cyfleon euraidd dros y 2/3 mlynedd ddwythaf. Dylai fod y wasgfa gredyd wedi rhoi dadleuon cryf i PC dros Gymru sy'n rhedeg economi ei hun. Rwy'n gyson yn clywed Peter Hain yn dweud mor lwcus ydi Cymru yn cael bod yn rhan o Brydain, er mwyn ei gwarchod rhag y wasgfa byd-eang. Y realiti ym Mhrydain ydi bod sefydliadau ariannol yn Lloegr a'r Alban wedi mynd i drwbwl, a rwan mae trethdalwyr Cymru yn talu'r gost. Ai dyma yw syniad Peter Hain o warchod Cymru? Nid problem a wnaethwyd yng Nghymru yw hon, ond rydym yn talu pris uwch na run ardal arall o Brydain. Yr hyn sy'n llwyr syfrdanol yw nad oes unrhyw aelod o PC i'w glwyed yn gwneud y dadleuon yma. Onid y math yna o ddadl ddylai fod ar frig rhestr plaid genedlaetholgar mewn cyfnod o etholiad. Nid wyf yn aelod o'r blaid, efallia y gallai eraill yma wneud sylwadau ar hyn, ond mae'n ymddangos i mi fod PC yn arbennig o wan ar yr economi, ac nad ydynt yn gyfforddus yn trafod y pwnc o gwbwl - gwendid mewn personel gyda'r gallu o bosib? Ni gymrodd PC rhan yn y naratif yma o warchod Cymru rhag toriadau, heb son am ennill y ddadl, gan adael i Lafur ennill y ddadl ar addewid ffug o 'warchod Cymru' - oddi wrth rhywbeth tu hwnt i'w rheolaweth!

Mae angen rhoi sylw i hyn ar frys - gyda refferendwm wedi rhoi, i raddau helaeth, rhyddid deddfwriaethol i Gymru, y cam naturiol nesaf i'r 'mudiad cenedlaethol' yw ceisio mesur o annibynniaeth economaidd, a rhagor o reolaeth dros y pwrs cyhoeddus Cymreig. Anghofiwch yr hyn sy'n digwydd yn yr Alban, hon fydd y ddadl yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf, ac os ydi PC eisiau parhau'n berthnasol, mae'n rhaid iddi ddefnyddio termau fel annibynniaeth heb ofn, a bod yn barod i ateb beirniadaethau gyda dadleuon economiadd, rhywbeth nad ydi ar hyn o bryd, mae arnai ofn ,yn dangos unrhyw arwydd o fod a'r gallu i wneud.

Anonymous said...

Mi rydym yn dioddef yn awr o'r wasgfa ariannol sydd i raddau helaeth yn deillio o amser Llafur yn rhedeg y DU. Ac yn awr mae'r Cymry.....neu ddylwn i ddweud 'people of Wales' yn troi at Lafur i'w h'amddiffyn. You couldn't make it up. :-))

Anonymous said...

Mae arna i ofn fod cyfran helaeth o bobl Cymru'n hoffi'r syniad o'r wladwriaeth yn troi'r tap ymlaen yn barhaus, ac yn casau'r syniad o orfod gweithio neu ymdrechu drostynt eu hunain. Mae'r blaid Lafur yn hapus i gadw Cymru'n dlawd oherwydd hyn. Mae PC yn bwydo'r syniad yma i raddau drwy frefu am anghyfiawnder 'Barnett' . Yn syml - mae PC yn gofyn am ddwr , ac mae'r Blaid Lafur yn cael ei weld fel plaid y tap. Ai'r awgrym felly ydyw fod cyfalafwyr fel Guto Bebb yn fwy tebygol o arwain Cymru allan o'r pwll economaidd y bu ynddi ers y 70au ? . Yn sicr, pe bai plaid adain dde genedlaetholgar yn bodoli, ni fuasai Guto Beb wedi troi at blaid unoliaethol.

Anonymous said...

Sylwadau adeiladol, yn enwedig gan Iwan. Mae angen i rywun egluro yn union beth yw ystyr annibynniaeth a beth fydd ein perthynas a gwledydd eraill Prydain. Ni fydd yn bosib ein datgysylltu yn llwyr. Mae'r Deyrnas Unedig yn dirwyn i ben, ein perthynas o fewn Prydain fydd yn diffinio ein 'annibynniaeth'. Cofiwch, roeddem ni yn Brydeinwyr cyn dyfodiad y Saeson.

Bwlch said...

Mae'r Blaid angen cael penwythnos efo Alex Salmond (Cyn economegydd efo Bank of Scotland) I dysgur trafod y pethau mwy sylfaenol am annibyniaeth!!!!