tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post8466806430793308077..comments2024-02-26T21:33:06.777+00:00Comments on BlogMenai.com: Pwysigrwydd naratif cenedlaethol i'r Mudiad CenedlaetholCai Larsenhttp://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comBlogger5125tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-75028842296876530592011-06-01T16:43:24.125+01:002011-06-01T16:43:24.125+01:00Mi fyddi'n deall os nad ydw i'n gwneud syl...Mi fyddi'n deall os nad ydw i'n gwneud sylwadau am y gyfundrefn addysg yng Ngwynedd yn benodol.

Serch hynny mi fyddwn yn awgrymu dy fod yn camddehongli'n eithaf dybryd os wyt o dan yr argraff mai canlyniad i bolisi addysg Cyngor Gwynedd oedd perfformiad siomedig y Blaid. Petai hynny'n wir byddai dyn wedi disgwyl i'r Blaid wneud yn well yn Llanelli, neu Ddwyrain Caerfyrddin / Dinefwr nag yn Arfon (sydd yng Ngwynedd wrth gwrs) - ond y gwrthwyneb oedd yn wir. 'Doedd addysg ddim yma nag acw yn yr etholiad yma - ar wahan i efallai Feirion / Dwyfor - ac hyd yn oed yno roedd perfformiad LLG yn drychinebus o wael.

Son am naratif cenedlaethol oedd y blogiad Alwyn - mae trefniant ysgolion yn amherthnasol i naratif felly.

Ti'n gywir i nodi bod rhai o aelodau LlG efo cefndir cenedlaetholgar - ond mae'r un peth yn wir am fy nghymydog Guto Bebb, sydd bellach yn aelod o'r Blaid Doriaidd.

Wyt ti o ddifri yn meddwl bod y Blaid Doriaidd yn rhan o'r Mudiad Cenedlaethol?

Oeddet ti'n meddwl bod y Blaid Lafur wedi ymuno a'r Mudiad Cenedlaethol pan ymunodd Now a nhw ers lawer dydd?

Wnaeth LlG godi bys i helpu yn yr ymgyrch i roi pwerau newydd i'r Cynulliad? Welais i ddim tystiolaeth o hynny.

Beth ydi barn LlG am y toriadau i S4C ac i BBC Cymru? Maent yn erbyn mi dybiwn - ond glywaist ti rhywun yn dweud bw neu be?Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-62479072046377677362011-06-01T00:59:46.308+01:002011-06-01T00:59:46.308+01:00Wrth gwrs dy fod yn iawn Cai, does gan bobl fel Al...Wrth gwrs dy fod yn iawn Cai, does gan bobl fel Ali Gruffudd, Seimon Glyn, Now Gwynnys, Gwilym Euros a ballu dim byd i wneud a'r achos cenedlaethol, mae eu hanes yn profi mae Prydeinwyr sy' ddim yn malio botwm corn am yr achos cenedlaethol yw'r bali lot ohonynt!

Ond y cwestiwn yr wyt yn osgoi yw'r un ym mhrif fyrdwn fy ymateb. Os yw Cymdeithas yr Iaith yn cefnogi cadw ysgolion bach gwledig Gymreig ar agor ac os ydy Cymuned am gadw ysgolion bach cefn gwlad Cymru ar agor ac os ydy Plaid Cymru mewn 21 o siroedd Cymru am gadw ysgolion bach plwyfol ar agor; a ydy Plaid Cymru yng Ngwynedd yn rhan o brif lif yr achos cenedlaethol trwy fynnu cau'r fath o ysgolion mae gweddill yr achos cenedlaethol am gadw ar agor?Alwyn ap Huwhttps://www.blogger.com/profile/06194724336424525283noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-44937050879577172252011-05-31T07:59:46.414+01:002011-05-31T07:59:46.414+01:00'Dydi LlG ddim yn rhan o'r Mudiad Cenedlae...'Dydi LlG ddim yn rhan o'r Mudiad Cenedlaethol Alwyn - hyd y gwn i does ganddyn nhw ddim barn ynglyn a statws cyfansoddiadol Cymru - yn sicr does ganddyn nhw ddim naratif cenedlaethol i'w gynnig.

Eu hunig naratif mewn gwirionedd ydi bod rhannau trefol o Wynedd yn derbyn gormod o adnoddau a rhai gwledig yn cael rhy ychydig.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-57737282578461661772011-05-31T01:12:36.284+01:002011-05-31T01:12:36.284+01:00Mae prif lif y mudiad cenedlaethol yn gwrthwynebu ...Mae prif lif y mudiad cenedlaethol yn gwrthwynebu cau ysgolion cefn gwlad mewn cymunedau Cymraeg a Chymreig. Mae cymdeithas yr Iaith wedi protestio yn erbyn cau ysgolion bach gwledig trwy Gymru pen baladr. Mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu cau ysgolion bach gwledig yng Ngheredigion, ym Mwrdeistref Sirol Conwy, yn Sir Gaerfyrddin, Ym Mhowys, Ym Mro Morgannwg, yn Sir Fynwy, ym mhob man ond Gwynedd lle mae'r Blaid yn torri bol am gau'r fath ysgolion.

Plaid Cymru yng Ngwynedd sydd wedi gwyro o'r naratif Cenedlaethol, nid Llais Gwynedd.

Mae'r Cambrian News yn cael ei ddarllen mewn tair etholaeth. Pan fo'r un rhifyn o'r papur yn adrodd am fwriad y Blaid i gau ysgol yn Ne Feirionnydd ac yn adrodd am brotestiadau’r Blaid yn erbyn cau ysgolion tebyg ym Maldwyn a Cheredigion, does dim angen Llais Gwynedd i ddangos gwendid neges "Cenedl Gyfan" y BlaidAlwyn ap Huwhttps://www.blogger.com/profile/06194724336424525283noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-73885446259647680042011-05-31T00:34:33.183+01:002011-05-31T00:34:33.183+01:00Jacky Healy Ray. Pwy fyddai yn cymharu ag o yn ei...Jacky Healy Ray. Pwy fyddai yn cymharu ag o yn ein cynulliad ni? Y diweddar Brinley Williams efallai fyddai'r agosaf? Er mor blwyfol gwleidyddiaedd J.H. Ray byddai yn gwneud y lle yn fwy diddorol!! Neu efallai yn nes at E Burnham - Lot fawr o swn a dim sylwedd yn y diwedd!!Anonymousnoreply@blogger.com