Wednesday, July 28, 2010

Beth sydd yn debygol o'ch lladd chi?

'Dwi newydd ddod o hyd i flog eithaf rhyfeddol - ymdrech gan y Guardian o'r enw Datablog. Ymwneud a data mae'r blog fel mae'r enw yn ei awgrymu - ac mi gewch ddata yn ymwneud a phob pwnc dan haul yno. Cymerer y blogiad yma sy'n datgelu sut mae pobl yn marw er enghraifft.

Ymddengys bod mwy o bobl yn marw trwy syrthio i lawr y grisiau (642) nag ydynt o farw trwy or ddosio ar gyffuriau (580). Mi'r rydych yn llawer mwy tebygol o farw yn syrthio o ben ysgol (60) nag ydych o syrthio yn ddamweiniol o ben clogwyn (5) - bu farw'r un faint trwy beidio a bwyta digon. Isel iawn ydi'r tebygrwydd o foddi mewn pwll nofio (5), ond mae mwy yn boddi yn y bath (22). Mae mwy yn crogi eu hunain yn ddamweiniol (253) na sy'n gwenwyno eu hunain trwy gymryd gormod o alcohol (170). Lladdwyd tri o gerddwyr o ganlyniad o gael eu tarro gan feics, ond ni laddwyd neb gan lygoden fawr. Lladdwyd mwy eto (366) ar law eu llawfeddygon. Lladdwyd 2 gan wenyn, ond ni laddwyd neb gan fellten. Bu farw 176 o ganlyniad i dagu ar eu bwyd ond dim ond 112 fu farw'n syrthio oddi wrth adeiladau tra bu farw mwy na'r oll o'r uchod efo'i gilydd trwy ei law ei hun (3,438).

Yr hyn sy'n llai diddorol ond yn bwysicach yn y bon ydi mor ragweladwy ydi achosion marwolaeth pobl. Mae tua hanner miliwn yn marw yn flynyddol yn y DU, ac mae mwyafrif llethol o'r rheini yn marw o'r un pethau - afeiechydon yn ymwneud a chylchrediad, cancr neu anadlu sy'n lladd tua 70% o bobl. 3% yn unig sy'n marw o ganlyniad i unrhyw beth ag eithrio afiechyd naturiol. 'Dydi'r pethau sy'n poeni llawer o bobl ddim yn debygol o'u lladd nhw - llofruddiaeth, damweiniau car, damweiniau awyren, gor ddefnydd o gyffuriau ac alcohol, boddi, dal afiechydon heintys, mellt, anifeiliaid gwyllt.

Ond 'tydi ystadegau yn bethau rhyfeddol dywedwch?

3 comments:

Anonymous said...

"Ymddengys bod mwy o bobl yn marw trwy syrthio i lawr y grisiau (642) nag ydynt o farw trwy or ddosio ar gyffuriau (580). "

Ie, ond sawl gwaith mwy o dripiau lan a lawr grisiau sydd na mewn diwrnod trwy'r wlad na sydd na o achosion o gymryd cyffuriau.

Cai Larsen said...

Dim cymaint mwy nag y byddai dyn yn gobeithio mae gen i ofn.

Anonymous said...

Dwi'n byw mewn byngalo leni, fell mae'n well i mi gadw i ffwrdd o'r cyffuriau 'na!

Iwan Rhys