Wednesday, July 14, 2010

Ymweliad a Swyddfa'r Heddlu

Mi gefais fy hun yng ngorsaf yr heddlu, Caernarfon heddiw. Dim byd rhy ddifrifol i chi gael dallt, ond roedd rhaid i mi fynd a fy nhrwydded i'r lle oherwydd i mi gael copsan ddydd Sul yn gor yrru ar ffordd osgoi Llanidloes wrth wneud fy ffordd adref o briodas yng Nghaerdydd. Yn ol yr heddwas mae yna nifer o geir heddlu ar hyd ar A470 o Lanidloes i Gaerdydd ar ddyddiau Sul oherwydd bod llawer o feicwyr o Dde Cymru a Chanolbarth Lloegr yn ymgynyll ar Fannau Brycheiniog. Ymddengys bod y cyfryw bobl efo enw drwg am yrru fel cathod i gythral. Felly os ydych yn cael eich hun yn gyrru yn Ne Cymru ar yr A470, peidiwch a dweud nad ydych wedi cael rhybydd gan flogmenai.

Ta waeth nid cynnig cyngor i yrrwyr na chwilio am gydymdeimlad ydi bwriad hyn o flogiad ond son am ddigwyddiad od yn swyddfa'r heddlu. Roedd yna arwydd mawr wrth y cownter oedd yn fy hysbysu i Siarad Cymraeg neu Saesneg yma. 'Dwi ddim yn amau am funud bod croeso i mi siarad y naill iaith neu'r llall, ond dim ond mewn un y gallwn gael fy neall, ac nid iaith naturiol mwyafrif llethol pobl G'narfon oedd honno.

Ar ddiwedd y broses o wirio fy nhrwydded gofynodd y blismones gwestiwn digon rhyfedd i mi - I am obliged to ask you are you Welsh _ _ _ you know do you speak Welsh? Gan fod yr ateb i'r ddau gwestiwn yn gadarnhaol (os braidd yn amlwg) rhoddais ateb cadarnhaol. Wedi meddwl am funud gofynais iddi os mai iaith fy nghartref ynteu fy ethnigrwydd oedd o ddiddordeb i Heddlu Gogledd Cymru. Eglurodd mai'r ethnigrwydd oedd o ddiddordeb iddynt - we have to make sure we don't pick on any minority group you see.

A dweud y gwir 'dydw i ddim yn ystyried fy hun yn aelod o grwp lleafrifol, ond yr hyn oedd yn peri syndod i mi a bod yn onest oedd bod y ddynas ac efallai Heddlu'r Gogledd yn diffinio ethnigrwydd yn nhermau bod a gallu i gyfathrebu mewn iaith arbennig. Mi eglurais iddi nad oedd y ddau beth yn cyfateb a thra bod yna berthynas gweddol agos yng Nghaernarfon rhwng y gallu i siarad Cymraeg ag ethnigrwydd Cymreig, bod rhannau mawr o'r Gogledd efo'r mwyafrif llethol o'u poblogaeth yn Gymry o safbwynt eu ethnigrwydd ond yn Gymry nad oes efo'r gallu i siarad Cymraeg.

Ymgodymodd efo'r cysyniad ymddangosiadol estron yma am ychydig o eiliadau cyn dweud Oh yes I suppose so _ _ _ I'm like that _ _ that's me I suppose. Rwan os ydi Heddlu Gogledd Cymru efo diddordeb gwirioneddol yng nghefndir ethnig y sawl maent yn delio a nhw, digon teg. Mi fydda innau yn hel gwybodaeth felly fel rhan o fy ngwaith pob dydd. Ond os ydi'r wybodaeth i fod o unrhyw ddefnydd ymarferol o gwbl i unrhyw un, efallai y byddai'n syniad egluro i swyddogion dyletswydd yn union beth ydi ethnigrwydd neu o leiaf roi cwestiwn safonol iddynt ei ofyn pob tro. Os ydi'r blismones dan sylw yn nodweddiadol o weddill swyddogion dyletswydd Heddlu'r Gogledd mae'n agos at 70% o'r bobl sy'n byw ar eu clwt nhw o dir ag ethnigrwydd nad yw'n un Cymreig.

5 comments:

Anonymous said...

Diddorol iawn.

Ar fater rhywbeth yn debyg, o ran y gyfraith ac ethnigrwydd - wyt ti wedi bod yn dilyn yr achos ble mae ffermwr o Sir Fon wedi ei gyhuddo o ladd ei frawd? Wn i ddim am gefndir y stori ac yn amlwg mae'n drychineb i'r teulu. Mae'r gwr yn wynebu cyhuddiad o ddyn laddiad yn dilyn y digwyddiad.

Be sy'n drawiadol hefyd ydi ei fod yn wynebu cyhuddiadau eraill, sef tri achos o "racially aggravated harassment".

O be dwi wedi ei ddarllen mae'r tri cyhuddiadau ychwanegol yn deillio o'r ffaith ei fod, yn honedig, wedi dweud wrth ei gyn waraig am “f*** off back to England” ac (eto'n honedig) wedi gweiddi "“Sais b******s” ar ddau heddwas ddaeth i'w gludo i'r ddalfa.
Chlywais i ddim am gyhuddiadau fel hyn o'r blaen. Ydi dweud y fath eiriau bellach yn arwain at gyhuddiad?

Cai Larsen said...

Mae'r stori yn hollol newydd i mi - ond mae'n un ddiddorol.

Mae'n ymddangos yn weddol amlwg nad ydi unrhyw wahaniaeth rhwng Cymry a saeson ddim yn un sy'n ymwneud a hil - gwahaniaeth diwylliannol neu ethnig efallai, ond mi'r ydym o'r un hil siawns.

Anonymous said...

Mae na o leiaf un achos cyfreithiol a ddaeth i'r casgliad fod y Cymry (boed yn siarad Cymraeg neu'n ddi-Gymraeg) yn un grŵp o safbwybt hil. Hynny yw, grŵp sydd ar wahân i'r Saeson, Albanwyr ayyb.

Anonymous said...

Yn ol y gyfraith mae Cymreictod (a Seisnigrwydd) yn hil a mae'n bosib cael eich cyhuddo o "racially aggrivated..." yn eu herbyn.

Anonymous said...

Dyma engraifft arall o hyn....

http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/2010/08/26/chef-who-posted-anti-english-comments-on-facebook-fined-55578-27139542/

Mae'n rhaid bod hyn yn rhywbeth newydd eleni, chlywais i ddim mor fath beth o'r blaen.