Monday, July 19, 2010

Y broblem i Lafur

Mae'r blog yma wedi nodi sawl gwaith mai'r peth gorau all ddigwydd i Lafur yng Nghymru ydi colli grym yn San Steffan. Yn hanesyddol mae'r Blaid Lafur Gymreig wedi adeiladu eu cefnogaeth yng Nghymru pan nad ydynt mewn grym yn Llundain.

Yn sgil colli ar lefel Brydeinig, mae'r Blaid Lafur yma yn llawn hyder, mae eu haelodaeth wedi cynyddu, maent wedi gwneud yn dda yn yr ychydig is etholiadau cyngor sydd i'w ers yr Etholiad Cyffredinol, ac mae'r dystiolaeth polio sydd ar gael yn argoeli'n dda iddynt. Maent yn siwr o fod yn llawn gobaith o gael rheoli ar eu pennau eu hunain wedi Etholiad y Cynulliad, yn union fel y gwnaethant o 2003 i 2007. Ond eu problem fawr ydi'r gyfundrefn etholiadol sydd gennym yng Nghymru - ac yn arbennig y gyfundrefn aelodau ychwanegol. Mae'r blog yma wedi nodi gwrthwynebiad llwyr i'r gyfundrefn honno ar sawl achlysur, ac mae'n eironig am wn i mai'r gyfundrefn honno ydi'r unig beth all gadw'r Blaid mewn grym y tro nesaf. Mae'n eironi ychwanegol mai cyfundrefn a gafodd ei chyflwyno gan y Blaid Lafur Brydeinig ydi hi.

Y broblem yn sylfaenol i Lafur ydi hyn - mae'n ddifrifol o anodd iddynt ennill seddi rhestr. Ar hyn o bryd mae ganddynt ddwy - ac mae'r rheiny yn y Canolbarth a'r Gorllewin. Joyce Watson ac Alun Davies ydi'r rheiny. Mi fydd yn anodd iddynt wella ar y perfformiad yna ar lefel rhanbarthol, a gallai llwyddiant yn Llanelli neu Benfro arwain at ostyngiad yn y gynrychiolaeth eisoes dila yma. Yn y bon, i fod yn siwr o ennill yn glir mae'n rhaid i Lafur sicrhau o leiaf 30 sedd ar lefel cetholaethol. Yn Etholiad San Steffan 2010 cawsant 26, ac yn Etholaethau'r Cynulliad 2007 cawsant 24. Eu llwyddiant mwyaf yn hanes y Cynulliad oedd 2003 - ond hyd yn oed yma, ei chrafu hi a wnaethant gyda 30 sedd - pob un yn sedd etholaethol.

Felly mae'n rhaid iddynt ennill seddi nad ydynt yn eu dal ar lefel Cynulliad na San Steffan ar hyn o bryd. Gallwn ddiystyru nifer cyn cychwyn. 'Dydi hi ddim yn bosibl i Lafur ennill yr un o'r seddi gwledig iawn yng Nghanolbarth Cymru - Dwyfor / Meirion, Ceredigion, Trefaldwyn a Brycheiniog a Maesyfed. Tra eu bod wedi cynrychioli tair ar lefel San Steffan, mae hynny yn y gorffennol pell, pan oedd y tirwedd gwleidyddol yn dra gwahanol. 'Dydyn nhw ddim yn gystadleuol yn y rhain. Daw hyn a ni at uchafswm o seddi uniongyrchol o 36.

Categori arall o seddi ydi rhai gorllewinol sy'n cael eu dal gan Blaid Cymru, ond lle mae Llafur o leiaf yn gystadleuol - Ynys Mon, Arfon, Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr a Llanelli. Mae dwy o'r rhain - Arfon, a Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr yn nwylo'r Blaid ar lefel San Steffan hefyd, ac mae'n anodd iawn dychmygu Llafur yn ennill y rheiny. Mi fydd canran pleidlais y Blaid bron yn ddi eithriad yn well mewn etholiad Cynulliad nag un San Steffan, ac mae'r mwyafrifoedd ar lefel Cynulliad yn sylweddol iawn. Daw hyn a'n huchafswm i 34.

Llafur sy'n dal Llanelli ac Ynys Mon ar lefel San Steffan, ac mi fyddant yn fwy gobeithiol ynglyn a'r rhain mi dybiwn i. Fodd bynnag, mae ganddynt fynyddoedd i'w dringo yma hefyd. Mae'r ddau aelod Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, a Helen Mary Jones yn adnabyddus iawn yn genedlaethol ac yn lleol. Does gan Ynys Mon fawr ddim hanes o daflu cynrychiolydd sydd eisoes wedi ei ethol o'i sedd, a byddai Llafur angen gogwydd o 11%. Mae gogwydd felly yn hynod anarferol. Byddant angen 7% o ogwydd yn Llanelli - mae hynny'n fwy posibl, ond dydw i ddim yn disgwyl iddo ddigwydd. Er nad enilliodd y Blaid yn yr etholiad San Steffan eleni, roedd yna ogwydd digon iach tuag atynt o gymharu a'r un blaenorol, ac mae pob etholiad diweddar yn yr etholaeth wedi gweld gogwydd tuag at y Blaid o gymharu a'r un cyferbyniol blaenorol. Felly os ydi ein damcaniaethu yn gywir, mae'r uchafswm bellach yn 32.

Perfformiodd Llafur yn well na'r disgwyl yn Aberconwy eleni - ond eto trydydd digon gwael oeddynt yn 2007 a'r Toriaid a enillodd eleni. Mae'r ogwydd oddi wrth Plaid Cymru sydd ei angen yn sylweddol (8.5%) ac mi fydd y ffaith bod y Blaid mewn clymblaid efo Llafur yng Nghaerdydd am ei gwneud yn haws i'r Blaid gadw'r Llafurwyr hynny sydd wedi pleidleisio'n dactegol iddi. Brwydr agos rhwng y Blaid a'r toriaid fydd hon - mae'n anodd dychmygu Llafur yn cael eu trwynau i mewn. A dyna ni ar 31.

Mae yna nifer o seddi Toriaidd y bydd Llafur yn eu llygadu - Caerfyrddin / De Penfro - mae Angela Burns yn eithaf anobeithiol, ac mae ei mwyafrif yn fach iawn, er mai ras tair ffordd fydd hon. Er bod mwyafrif Jonathan Morgan i'r Ceidwadwyr yng Ngogledd Caerdydd yn edrych yn un parchus iawn, mae'r ffaith i Julie Morgan ddod mor agos i ddal y sedd eleni yn awgrymu bod gan Lafur obaith go iawn yma 'dydi'r Toriaid methu cymryd yn ganiataol eu bod am wneud yn well ar lefel Cynulliad na mewn etholiad San Steffan fel Plaid Cymru. Mae mwyafrif o 11% gan Paul Davies yng Ngogledd Penfro Preseli, sydd yn ei gwneud yn enilladwy i Lafur, ac mae 7% Darran Millar yng Ngorllewin Clwyd hefyd yn llai na chyfforddus. Serch hynny mae Nick Ramsay yn edrych yn gwbl ddiogel ym Mynwy, ac felly hefyd Jenny Randerson yng Nghanol Caerdydd - er bod rhywbeth yn dweud wrthyf bod dyddiau'r Lib Dems o gael pethau'n hawdd yma ar ddod i ben. Felly dyna ni ar 29. Os ydi'r damcaniaethu yn gywir byddai Llafur bellach angen o leiaf un sedd ranbarthol - a byddant yn debygol yn y Canolbarth a'r Gorllewin, hyd yn oed pe byddai'r ddwy sedd Sir Benfro wedi cwympo.

Felly, mae'n bosibl i Lafur ennill mwyafrif llwyr, ond mae'n anodd - a byddai'n rhaid i bob dim fynd o'u plaid ar y diwrnod. (hyd yn oed wedyn byddai'n rhaid i Lafur beidio a cholli unrhyw un o'u seddi eu hunain, a gallai hynny'n hawdd ddigwydd - mwy am hyn eto). 'Dwi'n mawr obeithio na fydd hynny yn digwydd - y blynyddoedd pan oedd Llafur yn rheoli ar ei phen ei hun oedd y rhai gwaethaf o ran llywodraethiant Cymru ers sefydlu'r Cynulliad. Dyma'r blynyddoedd pan grwydrodd gwariant cyhoeddus yng Nghymru oddi wrth ei bwrpas creiddiol a thuag at gwahanol ffads Llafuraidd. Mae'n bwysig nad ydi hynny'n digwydd eto mewn cyfnod o gynni.

Diweddariad: Gweler sylwadau Voughan draw ar ei flog. Diddorol fel arfer.

3 comments:

Vaughan said...

Diawl, fe wnest ti guro fi ar y pwnc yma- dyna un o'r syniadau ar gyfer Mis Awst wedi mynd!

Mae'n weddol hawdd gweld Llafur yn cyrraedd 28 gyda'r seddi presennol, Blaenau Gwent a thrydydd sedd restr yn y Gorllewin a'r Canolbarth. Ar ol hynny mae'n anodd. Fe allai ddarbwyllo Julie Morgan i sefyll yng Ngogledd Caerdydd wneud honno'n sedd gystadleuol ac mae Llafur yn llygadu Canol Caerdydd hefyd gan gredu y bydd y myfyrwyr yn cefni ar y Democratiaid Rhyddfrydol.

Anonymous said...

Fe ennilan nhw Blaenau Gwent siwr o fod.

menaiblog said...

Ymddiheuriadau Vaughan.

Hyd yn oed os ydi Blaenau Gwent yn syrthio a 'dwi'n siwr y bydd hi dydi o ddim yn effeithio ar y cyfrifo gweithio i lawr o 40.