Go brin y bydd darllenwyr rheolaidd y blog hwn yn synnu deall fy mod yn croesawu argymhelliad pwyllgor Gerry Holtham i ganiatau i'r Cynulliad amrywio'r dreth incwm a rhai trethi eraill yng Nghymru.
'Dydi o ddim yn syndod mawr chwaith deall nad ydi David Davies eisiau gweld y Cynulliad yn cael y pwerau hyn rhag ofn iddo orfod talu mwy o drethi. 'Rwan mae'n hawdd deall na fyddai Tori cyfoethog am dalu mwy o drethi nag oes rhaid. Chwi gofiwch i Brynle Williams AC ddod a'r DU i stop ar gost o ganoedd o filiynau o bunoedd i'r trysorlys oherwydd nad oedd eisiau talu'r dreth ar danwydd - er erbyn meddwl, fel ffermwr mae'n debyg ei fod yn talu llai o dreth ar ei ddisl na bron i neb arall yn y DU. Ta waeth, 'dwi'n crwydro.
Byddwn hefyd yn disgwyl i David Davies fod yn erbyn unrhyw beth sy'n cryfhau'r Cynulliad oherwydd ei fod yn wrthwynebus i'r cysyniad o ddatganoli grym o Lundain. Ond beth petai David yn meddwl am fuddiannau ei blaid am ennyd yn hytrach nag am ei boced a'i ragfarnau? Petai'n gwneud hynny 'dwi'n rhyw deimlo y byddai'n dod i gasgliadau gwahanol ynglyn ag argymhelliad Holtham.
Mae i wleidyddiaeth diweddar Cymru batrwm hanesyddol eithaf syml, cylch o ddomiwnyddiaeth etholiadol gan y Blaid Lafur yn cael ei ddilyn gan gyfnod o rhywbeth llai na domiwnyddiaeth pan mae yna lywodraeth Lafur amhoblogaidd yn Llundain, yna y ddomiwnyddiaeth yn cael ei hail adeiladu wedi i Llafur golli grym yn Llundain. Y tro diwethaf i Lafur fod allan o rym yn San Steffan am gyfnod maith, aeth y broses mor bell ag i sicrhau bod y Toriaid yn colli pob un o'u seddau Cymreig - gan gynnwys yr un mae David bellach yn ei chynrychioli.
'Dydi o ddim yn cymryd athrylith i esbonio pam bod hyn yn digwydd. Mae'r rhan fwyaf o bobl Cymru yn ddibynnol mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ar bres cyhoeddus. Felly pan mae Llafur allan o rym ac yn dadlau tros fwy o wariant cyhoeddus yng Nghymru mae'r neges yn atyniadol i'r rhan fwyaf o bobl Cymru. Mae hyn yn arbennig o wir pan mae yna lywodraeth Doriaidd Lundeinig yn torri yn sylweddol ar yr arian cyhoeddus sydd ar gael yng Nghymru.
Gan y byddai unrhyw gynnydd mewn gwariant cyhoeddus yng Nghymru yn dod allan o drethiant cyffredinol y DU 'dydi pobl Cymru byth yn gorfod talu yn uniongyrchol am y cynnydd mewn gwariant cyhoeddus mae Llafur yn galw amdano, ac yn wir yn ei weithredu pan mae ganddynt y grym i wneud hynny. Hynny yw prif apel etholiadol Llafur yng Nghymru ydi eu bod yn cynnig cinio am ddim i ni i gyd - mwy o wariant cyhoeddus nad ydym yn gorfod talu amdano. I lawer o bobl mae fotio i Lafur yn no brainer a chymryd benthyg idiom Eingl Americanaidd. I'r graddau yma mae gwleidyddiaeth Cymru yn sylfaenol anaeddfed - nid trefn etholiadol soffistigedig ydi un sy'n gwobreuo'r sawl sydd mewn sefyllfa i addo mwy a mwy a mwy o wariant cyhoeddus, heb bod yna gost ynghlwm a hynny.
'Rwan petai yna berthynas uniongyrchol rhwng gwariant a threthiant byddai'r cylch yma'n cael ei dorri, a byddai natur gwleidyddiaeth Cymru yn newid yn sylfaenol ac yn aeddfedu. Ydi'r newid yma'n debygol o ddigwydd? Wel efallai, ond mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf bod greddf unoliaethol y Blaid Doriaidd yn gryfach nag unrhyw reddf arall sydd ganddi - hyd yn oed y reddf o edrych ar ol eu buddiannau eu hunain.
No comments:
Post a Comment