Monday, March 01, 2010

A thra ein bod mewn hwyliau gofyn cwestiynau _ _ _

_ _ _ un bach i Gyngor Caerdydd.

Pam - ag ystyried eich bod yn rhai mor fawr am ailgylch a 'ballu - nad ydych yn ei gwneud yn bosibl i unrhyw un o'r masnachwyr ym Marchnad Canol Caerdydd i ail gylchu cymaint a bocs, afal na photel o lucozade?

Yn wir mae'n bosibl dadlau bod gennych fwy o ddylanwad ar y farchnad na sydd gennych ar yr un sefydliad masnachol yn y ddinas - ac eto nid yw'n ail gylchu o gwbl.

2 comments:

Vaughan said...

Ydy Kelly's records dal i fynd? Rwy'n cymryd taw dyna'r rheswm am y post. Mae gen i atgofion cynnes o stondyn dy "in-laws". Rhyfeddod o beth os ydyn nhw dal yna!

Cai Larsen said...

Maen nhw'n dal yno, ond mae Kellys yn cael ei gadw gan Alan Parkins, cefnder Nacw, bellach.

Os ti eisiau record neu CD edrych yma - https://vault1.secured-url.com/kellysrecords/index_cy.asp

Hyd y gwn i Kellys ydi'r unig gwmni sy'n prynu a gwerthu recordiau ar lein sydd a safle We ddwyieithog (hy Cymraeg a Saesneg).

Dyna ddigon o'r hysbysebu 'ma - blog gwleidyddol ydi hwn!