Tuesday, March 16, 2010

Beth ydi pwrpas pleidiau gwleidyddol os nad ydynt yn sefyll mewn etholiadau?


Gyda chryn ryddhad mae blogmenai yn cael ar ddeall nad oes yna fymryn o wirionedd yn yr honiadau oedd ar led yr wythnos diwethaf bod yna glamp o ffrae wedi bod rhwng aelodau Llais Gwynedd oherwydd bod Louise Hughes (mi fydd darllenwyr y blog yma yn cofio am ei hymdrech ddewr tros doiledau'r Sir) o'r farn y dylai hi gael sefyll yn erbyn Elfyn Llwyd ym Meirion Dwyfor yn yr etholiad San Steffan fydd yn cael ei chynnal maes o law. Doedd y grwp cynghorwyr Llais Gwynedd ddim yn cytuno efo farn honno.



Yn ol y Daily Post rhywbeth a elwir yn hiccup a gafwyd. 'Dwi ddim yn rhy siwr beth ydi hiccup, ond mae'n debyg ei fod yn rhywbeth tra gwahanol i ffrae. Beth bynnag, yn ol Louise mae'n bwriadu aros gyda'i phlaid er iddi gael ei hed hyntio i fod yn ymgeisydd seneddol i'r Toriaid a'r Blaid Lafur. Ymddengys ei bod yn cael sefyll mewn rhyw etholiad cyffredinol neu'i gilydd yn y dyfodol ar ran Llais Gwynedd.

Mae'r holl stori yn codi nifer o gwestiynau diddorol. Er enghraifft, pam bod y Toriaid eisiau i Louise sefyll yn etholiadau San Steffan trostynt? Mae ganddynt ymgeisydd digon parchus ym Meirion Dwyfor (Lisa Francis), ac ymgeisydd o rhyw fath Arfon ('dwi ddim yn cofio ei enw mae gen i ofn) a fwy neu lai pob man arall. Yn sicr mae gan Nick Bourne (y dyn anarferol o lan) gryn feddwl o Louise, fel y gellir gweld yma. Mae Nick yn ei disgrifio fel the excellent Louise Hughes. Ond sut y gallai addo ymgeisyddiaeth sydd eisoes wedi ei llenwi iddi? Ydi hyn yn rhywbeth i'w wneud a'r ffaith ei fod wedi cynnig yr ail le ar restr De Ddwyrain Cymru yn etholiadau'r Cynulliad i Mohammad Ashkar am adael ei blaid, er nad ydi'r etholiad ar gyfer yr ymgeisyddiaethau hynny wedi ei gynnal eto?

Yr ail gwestiwn ydi hwn - ym mha etholiad cyffredinol y bydd Louise yn sefyll tros Lais Gwynedd ynddo ac yn lle? Ac mae'r trydydd yn codi yn naturiol o hynny - pam nad ydi Llais Gwynedd yn awyddus i wynebu'r pleidleiswyr? Roedd yna son rai misoedd yn ol bod un o'u cynghorwyr eisiau sefyll yn Arfon yn yr etholiad cyffredinol, ond ni ddaeth dim o hynny. Rydym yn gwybod i sicrwydd bod Louise am sefyll, ond nad oedd Llais Gwynedd am iddi wneud hynny.

Mae dyn yn deall pam na fyddai plaid ranbarthol yn sefyll yn etholiadau Ewrop, mi fyddai'n anodd iawn iddynt gael pleidleisiau o'r tu allan i'w rhanbarth. Ond mae yna ddwy etholaeth seneddol yng Ngwynedd, a phwrpas pleidiau gwleidyddol ydi ymladd etholiadau.

Mae'r holl stori yn sawru o lyfdra gwleidyddol mae gen i ofn.

3 comments:

Anonymous said...

Blogmenai..does genai ddim syniad be mae Llais Gwynedd yn neud efo etholiad San Steffan...dwi'n byw ym Mhen Llyn ac i Elfyn Llwyd fyddai yn pleidleisio iddo yn yr Etholiad Cyffrediniol.
Yn etholiadau y cynulliad dwi'm yn amau y bydd Llais Gwynedd a Gwilym Euros yn cipio'r sedd gan eu bod nhw a fo yn llawer mwy perthnasol ar gyfer y fan hynny ac mae o pen ac ysgwydd uwchben Dafydd El sydd wedi anghofio amdanom ni yma a'r Blaid ac unrhyw egwyddorion ers talwm.
Dwi'n gwybod nad oes gen ti barch tug at Gwilym a Llais Gwynedd ond dwi wedi ei gyfarfod o unwaith ac mi roedd o'n dod drosodd fel boi digon diffuant fyddai yn gwneud joban dda o waith i ni yma - gwell na Dafydd El oleiaf.
Felly bydd ofalus am be ti'n ddymuno.

Hogyn o Rachub said...

O ystyried safbwynt Elfyn Llwyd ar y busnes ysgolion byddai'n anodd i Lais Gwynedd gyfiawnhau sefyll yn ei erbyn.

O ran hon yn cael ei headhuntio gan y Ceidwadwyr a Llafur, wel, mae'n tanseilio unrhyw honiad sydd gan Lais Gwynedd o fod yn blaid genedlaetholgar. Er, rydan ni'n gwybod nad dyna'r achos beth bynnag!

Anonymous said...

Deallaf fod Lisa Francis wedi tynnu nol fel ymgeisydd y Ceidwadwyr, felly digon posib eu bod nhw'n dal i chwilio.