Graff sydd gennym y tro hwn sydd wedi ei gynhyrchu gan Lib Dems Ceredigion. Yr unig adran o'r Lib Dems yng Nghymru sy'n cynhyrchu nonsens etholiadol gwirionach nag a gynhyrchir yng Ngheredigion ydi Canol Caerdydd. Mi fydd y gystadleuaeth rhwng y blaid yn y ddwy etholaeth yn yr wythnosau nesaf i gynhyrchu'r sbwriel celwyddog gwirionaf yn hynod ddifyr.

Does dim rhaid dweud mai ar gyfer ffermwyr yn unig y cynhyrchwyd y darn nodedig yma o nonsens. 'Dwi ddim yn meddwl y bydd yn cael ei stwffio trwy dyllau llythyrau yn Aberystwyth, nag yn wir yng Nghanol Caerdydd.
Fel y gwelwch, pwrpas y graff ydi 'profi' bod y Lib Dems fwy o blaid rheoli moch daear na Phlaid Cymru. I wneud hyn maent yn cymryd arnynt mai'r un blaid ydi'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru (rhai o aelodau Llafur sydd a gwrthwynebiad o ran egwyddor i ddifa moch daear). Dydyn nhw ddim yn cymryd i ystyriaeth mai 6 aelod yn unig sydd gan y Lib Dems yng Nghymru, a bod traean ohonynt felly wedi pleidleisio yn erbyn y mesur. Dydyn nhw ddim yn son chwaith bod un o Aelodau Cynulliad y Lib Dems, Peter Black yn cynnal ymgyrch chwyrn ar ei flog yn erbyn y mesur i reoli moch daear.
'Dwi'n meddwl fy mod yn gywir i ddweud na phleidleisiodd unrhyw aelod o Blaid Cymru yn erbyn y mesur. Mae'r Lib Dems yn cydnabod i ddau o'u chwe aelod nhw bleidleisio yn erbyn y mesur. Felly mae'r Lib Dems yn gwbl fwriadol yn rhannu gohebiaeth sy'n ceisio camarwain eu darllenwyr yn llwyr - maent yn rhoi darlun cwbl gelwyddog o'r patrwm pleidleisio.
Fel dwi wedi dweud o'r blaen, 'dydan ni ddim yn dweud celwydd wrth bobl mae gennym barch tuag atynt. 'Does gan y Lib Dems ddim mewath o barch at ffermwyr Sir Geredigion.
1 comment:
Mae gan y Lib Dems dacteg newydd yn Ne Caerdydd a Phenarth - dwi newydd gael taflen ganddyn nhw, un o'r rhai "only the Lib Dems can win here", o etholaeth Canol Caerdydd! Yn amlwg yr unig ffordd allan nhw ennill fama ydi drwy geisio argyhoeddi pobl eu bod yn yr etholaeth anghywir!
Maen nhw wirioneddol yn blaid bathetig.
Post a Comment