Sunday, March 21, 2010

Llafur - y blaid sy'n cefnogi haint?


Newydd ddod ar draws un o'r darnau o ohebiaeth etholiadol mwyaf proffesiynol 'dwi wedi ei weld ers tro - llyfryn mae Llafur yng Nghymru wedi ei gynhyrchu ar gyfer eu haelodau a'u hactifyddion. Mae'r cynnwys yn y pen draw yn sbwriel o'r radd eithaf wrth gwrs, ond mae hefyd yn effeithiol. Mae'r llyfryn wedi ei rannu yn ol y themau mae Llafur eisiau cwffio'r etholiad arnynt ac mae pob adran yn cynnwys dadleuon simplistaidd (a rhannol wir ar y gorau) y gellir eu defnyddio yn erbyn pob un o elynion gwleidyddol Llafur. Mae'n wir bod dyn yn teimlo'n anghyfforddus braidd wrth edrych ar y wen sbwci ar wyneb Gordon Brown ar y dudalen flaen, ond dyna fo.



Un mater bach arall - pam goblyn bod y nyrs yn yr adran ar iechyd wedi ploncio ei phen ol ar wely'r claf? Petai'r sawl sydd wedi cynhyrchu'r llyfryn yn gwybod rhywbeth am y Gwasanaeth Iechyd byddai'n ymwybodol bod y rhan fwyaf o ymddiriedolaethau yn gwahardd staff a hyd yn oed ymwelwyr ag ysbytai rhag eistedd ar wely yn enw obsesiwn diweddaraf y wasanaeth - rheoli haint - infection control. Mae'n weddol amlwg bod yna rhyw gymaint o sail i'r mesurau rheoli haint sydd wedi eu cyflwyno i ysbytai yn ddiweddar, wedi'r cwbl mae MRSA yn broblem enbyd. Gellir yn hawdd ddeall pam bod ymwelwyr a wardiau yn cael eu hannog i ddi heintio eu dwylo cyn mynd i mewn. Mae'r arfer o wahardd blodau ac eistedd ar welyau yn ymddangos i mi i fynd yn rhy bell, ond os gellir dangos eu bod yn lleihau'r tebygolrwydd o ledaenu haint, mae'n debyg bod modd eu cyfiawnhau. Ymateb i bwysau o lefel lywodraethol mae'r ymddiriodolaethau pan maent yn cyflwyno mesurau fel hyn wrth gwrs.

Ta waeth - mae'r ffaith nad yw Llafur yn cael eu hunain yn rhoi llun ar eu propoganda sy'n dangos nyrs yn gwneud rhywbeth sydd yn ol llawer o ymddiriodolaethau yn arfer ddrwg yn ddadlennol i'r graddau ei fod yn dangos un gwirionedd syml. Mae Llafur yn hoff o'r Gwasanaeth Iechyd oherwydd ei fod yn boblogaidd, ei fod wedi ei gysylltu efo Llafur yn annad yr un plaid arall a'i fod yn ennill pleidleisiau iddynt. Petai haenen etholedig Llafur yn cael mwy i'w wneud efo'r Gwasanaeth - hynny ydi mynd i ysbytai a siarad efo gweithwyr iechyd fel bod ganddynt rhyw syniad o'r materion cyfredol sy'n wynebu'r gwasanaeth - yn hytrach nag edrych arno o hirbell fel sbwnj i wasgu pleidleisiau ohono - efallai y byddai'r wasanaeth yn fwy cost effeithiol, ac na fyddai rhaid gwahardd pobl rhag eistedd ar wely a dod a blodau i'r ysbyty.

1 comment:

Dylan said...

Wrth gwrs, mae'r etholiad cyffredinol Prydeinig yn gwbl amherthnasol i bolisi iechyd yng Nghymru. Ydi Llafur yn deall y busnes datganoli 'ma, sgwn i?