Thursday, March 11, 2010

Y blaid wrth Doriaidd?

Blogiad (arall) diddorol gan Vaughan ddoe.

Anghytuno yn rhannol mae Vaughan efo damcaniaeth Roger Scully bod cyfnod goruwchafiaeth Llafur yng ngwleidyddiaeth Cymru bellach ar ben. Dadl Vaughan ydi bod Llafur yn debygol o gadw eu goruwchafiaeth tros yng Nghymru ar lefel San Steffan o leiaf oherwydd bod eu neges mai nhw ydi'r blaid wrth Geidwadol yn un bwerus iawn yng Nghymru. Mae yn llygad ei le.

Y tro diwethaf (mewn etholiad San Steffan) i oruwchafiaeth Llafur yng Nghymru fod tan fygythiad oedd yn 1983 pan roeddynt o dan fygythiad gan yr SDP. Ychydig o dan 27% yn unig o bleidlais Brydeinig a sicrhawyd gan Lafur - mymryn mwy na'r glymblaid Rhyddfrydol / SDP. Oherwydd trefn etholiadol anarferol y DU cawsant fwy o seddi o lawer na'r glymblaid wrth gwrs. Gwnaeth Llafur yn well yng Nghymru - o tua deg pwynt canrannol - ond roedd hyn yn isafbwynt hanesyddol yng Nghymru iddynt.

Aeth Llafur ati i ail adeiladu rhwng 1983 ac 1997 tros y DU - ond yr hyn sy'n drawiadol ydi iddynt ail adeiladu'n gynt o lawer yng Nghymru. Yn etholiad 1987 roedd Llafur ar 29.5% yn Lloegr ond ar 45% yng Nghymru. 34% a 49.5% oedd y ffigyrau cymharol yn 1992. Roedd Llafur unwaith eto'n dominyddu yng Nghymru tra'u bod yn gymharol wan o hyd yn Lloegr. Erbyn 1997 roedd pleidlais Llafur yng Nghymru yn ymylu ar 55%.

Yr her i'r Blaid yn y byr dymor (hy yr etholiad sydd yn brysur ddynesu) ac yn y tymor canolig (hyd yr etholiad cyffredinol nesaf) ydi i beidio a gadael i'r un peth ddigwydd eto. Yr unig ffordd o wneud hynny mewn gwirionedd ydi trwy ladd y myth mai Llafur ydi'r blaid wrth Doriaidd yng Nghymru. Mi gawn olwg ar sut i fynd ati i wneud hyn maes o law.

No comments: