Sunday, March 07, 2010

Y dadleuon mawr - edrych ar ol y status quo

‘Dwi wedi trafod y ddadl ‘fawr’, neu’r dadleuon mawr bod yn fanwl gywir, sydd i’w darlledu yn ystod yr wythnosau cyn yr etholiad cyffredinol. Er fy mod yn ceisio osgoi ailadrodd fy hun, mi wnaf i eithriad y tro hwn.

Mae’r sioe arbennig yma yn cael ei chynnal am y tro cyntaf am un rheswm ac un rheswm yn unig – mae’r ymarferiad er budd y ddwy blaid fawr Brydeinig. ‘Does yna ddim dadl wedi bod o’r blaen oherwydd y byddai cynnal un yn erbyn buddiannau y naill neu’r llall o’r pleidiau mawr unoliethol – yr un oedd ar y blaen yn y polau piniwn. ‘Does yna ddim pwynt mentro syrthio i mewn i fagl mewn dadl gyhoeddus sy'n cael ei gwylio gan filiynau os ydi'r polau o’ch plaid beth bynnag.


Mae pethau’n wahanol y tro hwn, ac mae rheswm syml am hynny – sgandalau treuliau aelodau seneddol. Roedd y sgandal yma’n bygwth ail strwythuro gwleidyddiaeth Prydain ar un cyfnod – ac fe adlewyrchwyd hynny yn etholiadau Ewrop y llynedd – dim ond 57% o’r bleidlais a lwyddodd y tair plaid fawr Brydeinig i gael rhyngddyn nhw tros Brydain a 52% yng Nghymru. Roedd hyn yn record ar lefel Prydeinig a Chymreig – record o fath nad oedd y pleidiau mawr Prydeinig yn ei groesawu.


Mae’r dadleuon felly yn ddelfrydol o safbwynt y pleidiau mawr – mae’n cynnig cyfle i ddad wneud y niwed yn hollol ddealladwy o’u safbwynt nhw. Bydd yr etholiad cyffredinol yn cael ei phortreadu fel y gystadleuaeth arferol rhwng Twidldi, Twidldym a Thwidldidyms. Yn ychwanegol mae’r ffaith bod y dadleuon yn cael eu cynnal yn Lloegr, ac y byddant yn ymwneud yn llwyr, neu bron yn llwyr a materion Seisnig yn cymryd gofal o’r ymylon gwleidyddol Celtaidd yn eithaf twt.


Mae hyn oll yn neis iawn i Twidldi, Twidldym a Thwidldidyms wrth gwrs, ond yr hyn sy’n ddiddorol ydi bod y cyfryngau mor awyddus i gymryd rhan yn y sbloets. Wrth gwrs mi fydd y Bib, Sky ac ITV druan yn cael cynulleidfa fawr am 90 munud, ond dyna’r cwbl y byddant yn ei gael am daflu’r orchest fach gelwyddog o fod yn ddi duedd maent yn mynd trwyddi’n barhaus a pharhaol allan trwy’r ffenest.


Y gwir syml amdani ydi bod y cyrff darlledu yn gwbl sefydliadol o ran natur, ac mae’r status quo wedi bod yn ffeind iawn efo’r Bib a Sky. Dydi'r drefn sydd ohoni heb fod mor ffeind efo ITV (does gan rheiny ddim papurau newydd gyda chylchrediad o filiynau i lwgr wobreuo’r pleidiau unoliaethol trwy gynnig, neu fygwth atal eu cefnogaeth iddynt). Ond does ganddyn nhw ddim dewis ond i ddilyn yng nghamau’r monopoli darlledu cyhoeddus, a’r lled fonopoli darlledu preifat mae’r prif bleidiau wedi eu meithrin, a’u cynnal trwy’r degawdau trwy greu amodau ariannu a goruwchwylio delfrydol ar eu cyfer.


Mae’n braf gweld ffrindiau yn edrych ar ol ei gilydd, mewn hindda a thywydd garw fel ei gilydd.

No comments: