Wednesday, March 03, 2010

Carchar Bro Dysynni - ymgynghori lleol?

Cyhoeddwyd y rhestr o safleoedd posibl ar gyfer carchar i Ogledd Cymru heddiw. Ceir chwe safle posibl - safle Aliminiwm Mon yng Nghaergybi, safle hen orsaf BP Rhosgoch. Ynys Mon, hen safle milwrol Morfa yn Nhywyn, Bro Dysynni, hen safle fferm Greengates ger Parc Busnes Llanelwy a dau safle yn Wrecsam - gan gynnwys safle ffatri Firestone.

Mae'r blog yma eisoes wedi nodi mai Llais Gwynedd a ddechreuodd rowlio'r bel parthed y cynllun i ddenu'r datblygiad i Feirion. Holwyd hefyd i ba raddau roedd Llais Gwynedd wedi ymgynghori cyn gwthio i gael y datblygiad ym Mro Dysynni. Ni chafwyd ateb. Mae hyn yn rhyfedd - yn aml mi fydd ymateb yn cael ei adael ar dudalen sylwadau'r blog o fewn munudau i mi wneud rhyw sylw neu'i gilydd am Lais Gwynedd.

Ydi hi'n bosibl na fu ymgynghori gyda'r trigolion lleol o gwbl?

2 comments:

Alwyn ap Huw said...

Maddeuer fy nhwpdra, ond rwy'n methu deall dy gwyn yma. Hyd y gwyddwn dim ond un o nifer o enwau llefydd ar gyfer codi carchar sydd wedi ei daflu i mewn i'r het yw Tonfannau ar hyn o bryd. Mae'n hynod annhebygol, yn fy nhyb i, y bydd "cais" Tonfannau yn mynd ym mhellach na'r cam yma. Byddai cynnal ymgynghoriad ar gyfer cam mor elfennol yn dreth enfawr ar bwrs y wlad (o gael ymgynghoriad swyddogol ar gyfer Tonfannau, bydda angen ymgynghoriad tebyg ar gyfer y pum safle arall yng Nghymru a'r holl safleoedd Seisnig sydd wedi eu crybwyll hefyd).

Os ydwyf yn anghywir ac mae cais Tonfannau yn cael ei roi ar restr fer ar gyfer safle carchar, yn ddi-os bydd angen ymgynghoriad eang, ond ar hyn o bryd?

menaiblog said...

Dydi o ddim yn bwynt twp o gwbl Alwyn.

Y pwynt ydi hyn - mae'n ymddangos (yn ol llawer beth bynnag) bod gwrthwynebiad chwyrn yn lleol i'r datblygiad, a fawr ddim cefnogaeth.

Oni fyddai wedi bod yn syniad i blaid sy'n cwyno am ymgynghori eraill i wirio bod cefnogaeth i gynllun oddi mewn i gymuned, cyn cychwyn ar broses a allai arwain at wireddu'r cynllun hwnnw?

'Dwi'n cytuno efo ti nad ydi'r cynllun yn debygol o gael ei wireddu.