Wednesday, March 17, 2010

Gwrando arnach, gweithio iddych


'Dydw i ddim yn un o'r bobl hynny sydd efo obsesiwn ynglyn a chywirdeb iaith (wel iaith ysgrifenedig o leiaf). Mae'n well gen i weld pobl yn ceisio 'sgwennu yn y Gymraeg ac yn methu cael pethau yn gwbl gywir nag yn peidio a thrafferthu.

Serch hynny, mae yna'r fath beth a safonau proffesiynol - a phan rydym yn ysgrifennu mewn cyd destun proffesiynol mae'n bwysig gwneud mwy o ymdrech i 'sgwennu mewn Cymraeg eithaf twt. Syndod felly oedd dod ar draws yr ymdrech yma gan Geidwadwyr Arfon.

'Dwi ddim yn meddwl bod llawer o gwestiwn mai Arfon ydi'r etholaeth Gymreiciaf (yn ystyr ieithyddol y gair) o ddigon yng Nghymru. 'Dwi hefyd yn cydnabod bod y Toriaid yng Nghymru yn blaid ryfeddol o Seisnig. Ond o ddifri, byddai rhywun wedi disgwyl y byddai ganddynt o leiaf un aelod yn yr etholaeth sydd a Chymraeg digon naturiol i gywiro'r ymdrech ryfedd yma.

5 comments:

Anonymous said...

Helo Mr Larsen - O'n adnybyddiaeth i ohonat ti erioed wedi cuddio tu ol i dy fam ac wastad wedi treulio tu ol i di frawd sydd llawer , llawer mwy peniog na thi.
Ti erioed wedi dangos unrhyww fath o asgwrn cefn na egwyddorion i sefyll unrhyw etholiad ond eto ti'n sbowtio dy gachu di-asgwrn cefn ar y we ma.
Pan fyddi di efo digon o fols i gamu allan o dy fyd bach saff i sefyll etholiad..am unrhywbeth bed o'n llywyddiaeth clwb ping pong y capel lleol neu sedd ar y cyngor tref neu cyngor sir..yn y cyfamser cau dy ffocin cec y pric..achos ti ddim byd ond babi mam saff yn dy fyd bach cenedlaetholgar dy hyn xxx

Cai Larsen said...

Bore da i chithau hefyd syr.

Ioan said...

Licio'r eironi - "cuddio tu ol..." medda Anon!

Anonymous said...

ha ha diddorol byddai sbio pwy o y blogwyr oedd yn blogio pan gath y negas bach ffeind yma i gneud de!

gwion said...

Doniol ydi gweld rhywyn sydd yn postio o dan gyfri' di-enw yn barnu eraill am fod heb fols.