Tuesday, March 23, 2010

Gobyldigwc a'r gasgen borc

Mae'n rhaid gen i bod Derwydd y Goban Las o Ynys Mon wedi torri rhyw fath o record wrth ymateb i fy meirniadaeth ohono. Dyma'r ymateb hiraf i mi erioed ei chael. Gellir gweld y feirniadaeth honno yma. Cyn mynd ymlaen mae'n debyg y dyliwn gynnig canmoliaeth lle mae canmoliaeth yn haeddianol. Mae ei ymateb yn berthnasol i'r pwyntiau yr oeddwn i'n eu gwneud ac yn hollol rhydd o'r sterics, y myllio, y tantro a'r sylwadau personol sy'n nodweddu ymatebion ambell un sy'n derbyn berirniadaeth wleidyddol ar y blog hwn. Yr unig gwyn sydd gen i ydi pan mae'n dweud ar ddiwedd ei lith fy mod yn darogan clymblaid SNP / Plaid Cymru / Llafur. Mae'n amlwg o fy ngeiriad mai dweud ei fod yn un posibilrwydd oeddwn i. Serch hynny at ei gilydd mae'n ymateb aeddfed, a dyna pam 'dwi'n ymateb iddi gyda pheth manylder.

Ta waeth aeddfed neu beidio, mae'r ymateb yn wallus. I dorri stori hir yn fyr mae'r Derwydd yn ymateb yn bennaf i sylwadau a wnes i oedd yn awgrymu ei fod yn Dori, ei fod yn gyndyn i gyfaddef hynny tra'n cam ddefnyddio ystadegau i hyrwyddo achos y Toriaid ar Ynys Mon. Roedd y Derwydd yn ei flogiad gwreiddiol trwy'r defnydd o pob math o nonsens ystadegol hynod amheus wedi dod i'r casgliad mai 1% oedd y tebygrwydd y byddai Plaid Cymru mewn clymblaid ar ol yr etholiad. Mae dod i gasgliad mor gysact ynddo'i hun yn awgrymu bod yna ddrwg yn y caws. Petai'n bosibl rhagweld digwyddiadau gwleidyddol mor fanwl byddai'r Derwydd yn gwastraffu ei amser yn blogio - gallai ddod yn ddyn cyfoethog iawn mewn dim amser trwy ddefnyddio ei ddawn ar y marchnadoedd betio.

Craidd dadl ystadegol y Derwydd ydi'r dechneg tra amheus o ddod o hyd i gymedr polau piniwn tros gyfnod o fis - ac roedd y mis dan sylw yn gorffen nifer o ddyddiau cyn i'r blogiad gael ei 'sgwennu - a'r defnydd o ddull cyfieithu canrannau pol piniwn i seddi ar raddfa Prydain gyfan sydd wedi ei ddyfeisio gan Martin Baxter. Mae'r ddau ddull yn broblematig a dweud y lleiaf. Tra fy mod yn hoff o wefan (a methedoleg) Mr Baxter, mae'n weddol amlwg ei fod yn defnyddio dull sy'n gweddu i gyfundrefn tri phlaid, nid i un pedair plaid fel a geir yng Nghymru. Yn wir mi fydd yn ddiddorol gweld pa mor effeithiol fydd y calcalus yn Lloegr gyda'r pleidiau llai yno yn debygol o berfformio'n gryf yn ol pob tebyg.

Mae defnyddio cymedr polau yn fwy amheus fyth. 'Does yna ddim mewath o dystiolaeth i awgrymu bod y dull hwn yn un sy'n ddefnyddiol o ran rhagweld canlyniad etholiad - hyd yn oed pan mai polau diweddar sydd wedi eu defnyddio. Os oes patrwm o ran dewis pa bol ydi'r gorau, mae'n debyg mai polau sydd o fewn yr amrediad arferol, ond sydd hefyd yn agos at eithafion yr amrediad hwnnw sy'n tueddu i fod yn gywir. Mae cynnwys polau sydd wedi dyddio cymaint yn cymhlethu'r broblem yn sylweddol - mae tirwedd etholiadol yn newid yn gyflym. Petai cymedr pob pol am fis yn gywir, Kinnock fyddai wedi ennill yn 92, Heath yn 74 a Wilson yn 70. Kenny ac nid Cowen fyddai prif weinidog Iwerddon heddiw hefyd. Mae polau unigol diweddar yn awgrymu bod pob canlyniad yn bosibl - o rhywbeth yn ymylu ar fuddugoliaeth lwyr i Lafur (cofier, gall Llafur 'ennill' gyda chryn dipyn llai o bleidleisiau na'r Toriaid) ar ei liwt ei hun i gwahanol glymbleidiau i fuddugoliaeth swmpus i'r Toriaid.

Neu i roi pethau mewn ffordd arall mae'r Derwydd yn defnyddio gwefan Baxter sydd wedi ei modelu ar gyfundrefn tair plaid ac yn dod o hyd i gymedr poliau o'r gorffennol i wneud hynny, er nad oes yna unrhyw le o gwbl i feddwl bod dod o hyd i gymedr poliau (cymharol ddiweddar) yn fwy effeithiol na dewis pol ar hap. Mae'r fethodoleg yn wirion, ond mae'n creu canlyniad mae'r Derwydd yn ei hoffi.

Mae'r honiad gan y Derwydd nad yw'n Dori mewn gwirionedd ond ei fod yn gogwyddo tuag atynt am bod Plaid Cymru a Llafur wedi 'methu' Ynys Mon eto'n amheus. Mae Ieuan Wyn yn cael y bai oherwydd ei fod wedi cynrychioli'r Ynys ers 1987, a Llafur oherwydd iddynt fod mewn grym ers 97. Ond y Toriaid oedd mewn grym o 79 i 97, ond dydyn nhw ddim yn gorfod ysgwyddo'r bai am broblemau economaidd Mon. Petaen nhw, byddai'r Derwydd yn gorfod cefnogi Rogers neu'r cyn farman o Lanelwy (chwedl yntau).

Mae blogmenai yn llawn dderbyn bod llywodraethau yn Llundain wedi methu edrych ar ol buddiannau economaidd Ynys Mon yn benodol a Gorllewin Cymru yn gyffredinol. Yn wir mae'n rhan o genhadaeth y blog yma na all Cymru ffynnu yn economaidd hyd yy bydd yn gyfrifol am ei thynged economaidd ei hun.

Mae diffiniad y Derwydd o swydd aelod seneddol yn un Gwyddelig iawn ('dwi'n gwybod bod Y Fam ynys a'r Ynys Werdd yn agos). Mae'n arfer yno i'w haelodau etholedig geisio ennill dylanwad er mwyn gallu allgyfeirio adnoddau i'w hetholaeth eu hunain a felly adeiladu cefnogaeth wleidyddol - gwleidyddiaeth casgen borc neu wleidyddiaeth y gombin ydi hyn yn y bon. Clientism fyddai'n derm arall. 'Dwi ddim yn amau bod y math yma o beth yn digwydd yn y DU, ond 'dydi o ddim mor gyffredin, a does yna fawr neb yn ei ystyried yn ymddygiad gwleidyddol priodol. Dyma pam bod Sir Benfro yn agos at waelod cynghreiriau datblygiad economaidd Cymru (a Phrydain) trwy gydol amser Nick Edwards fel Ysgrifennydd Gwladol tros Gymru.

Problem Ynys Mon ydi problem gweddill Cymru, ac yn arbennig felly y gorllewin. Mae'n cyfundrefnau trethiannol, a'r polisiau economaidd yr ydym yn gaeth iddynt yn amhriodol i ardaloedd gwledig ar gyrion Ewrop. Yr unig ffordd o newid hynny ydi trwy redeg ein economi a'n cyfundrefn drethiannol ein hunain - a'r unig ffordd o symud i'r cyfeiriad hwnnw ydi trwy bleidleisio i Blaid Cymru. Dydi chwilio am gombin o wleidydd i dyrchu o gwmpas am gasgenni porc ddim am fynd i'r afael a gwir broblemau Ynys Mon.

5 comments:

Paul Williams said...

Diolch yn fawr am y sylwadau i gyd. Na'i ymateb unwaith eto ar ol meddwl yn bellach am y pwyntiau sydd wedi eu codi yma... Druid/Derwydd

Cai Larsen said...

Edrych ymlaen.

Paul Williams said...

Ymateb y Derwydd: http://druidsrevenge.blogspot.com/2010/03/get-out-of-jail-free-card-has-expired.html

Paul Williams said...

Rwan fy mod i wedi fy mhrofi i fod yn hollol gywir, 'dwi'n gobeithio y byddwch digon da i ymddihuro

Cai Larsen said...

Beth bod defnyddio is setiau bach iawn o bolau, defnyddio cymedr poliau ac ati er mwyn gwthio pwynt gwleidyddol yn gwneud synnwyr.

S'ai'n credu fel y byddent yn ei ddweud ymhell iawn o Fon.