Tuesday, September 15, 2009

Bygythiad erchyll i flogmenai

Roedd hi'n ddigon drwg dim ond llwyddo i ddod yn drydydydd o ran poblogrwydd ymysg blogiau Cymru eleni - fyddai rhywun ddim yn credu y gallai pethau fynd yn waeth.

Ond mae Simon yn ei ol yn ei holl ogoniant llachar. 'Dwi ddim am ddangos delwedd o'r dyn ar dudalen flaen y blog rhag niweidio'r sawl sy'n dioddef o ffitiau, neu ddychryn yr hen, yr ifanc neu'r sawl a ddylanwadir arnynt yn hawdd. Os ydych ddigon dewr, gallwch edrych yma. Mi fyddwn i'n awgrymu'n gryf eich bod yn osgoi'r profiad - am resymau sy'n ymwneud a chwaeth yn ogystal a iechyd a diogelwch.

'Dwi'n poeni.

Beth os mai'r ail flog mwyaf poblogaidd mewn tref mor fach a Chaernarfon fydd blogmenai y flwyddyn nesaf? Neu'r ail mwyaf poblogaidd yng nghangen Plaid Cymru Caernarfon? 'Dydi o ddim yn gysur mawr mai ni ydi'r gangen Plaid Cymru fwyaf yn y Bydysawd.

'Dwi'n teimlo argyfwng gwacter ystyr yn syrthio arnaf. 'Dwi'n mynd i'r gwely - er ei bod yn lled anhebygol o gael cwsg.

4 comments:

Anonymous said...

Fel maen nhw'n dweud yn Saesneg: May the best Polack win

Vaughan said...

Rwy'n sicr bod na le i'r ddau ohonoch chi. Cofia, pe na bawn wedi ei gwrdd am y tro cyntaf y penwythnos diwethaf byswn wedi tybio bod y llun yna o Seimon wedi dod o wefan Hammer!

Cai Larsen said...

O Dduw - dyna ni ar y gair - mwy o gystadleuaeth.

Anonymous said...

"Cofia, pe na bawn wedi ei gwrdd am y tro cyntaf y penwythnos diwethaf byswn wedi tybio bod y llun yna o Seimon wedi dod o wefan Hammer!"

Wel mae teulu Taid yn hanu o'r Dalaith Isgarpathaidd yng nghysgod y Mynyddoedd Carpathaidd, felly byddwn i ac aelodau eraill y teulu yn ffitio mewn i nifer o ffilmiau Hammer....