Gyda bod rhywun wedi cyrraedd y trothwy bydd ei bleidleisiau ychwanegol (hy y nifer sy'n uwch na'r trothwy) yn cael eu dosbarthu (yn unol a'r ail ddewis). Os nad oes rhywun yn cyrraedd y trothwy wedi rownd o gyfri, bydd yr ymgeiswyr ar y gwaelod yn cael eu tynnu allan a bydd eu hail (neu drydydd) pleidleisiau yn cael eu dosbarthu. Bydd y broses yma'n mynd rhagddi, tan y bydd pob sedd wedi ei llenwi - gan amlaf trwy gael y nifer anghenrheidiol o ymgeiswyr yn cyrraedd y trothwy. O ganlyniad bydd pob etholaeth efo mwy nag un aelod. Gall nifer o'r aelodau fod o'r un plaid (mae 5 o 6 aelod Cynulliad West Belfast yn perthyn i Sinn Fein er enghraifft), neu gall pob un fod o bleidiau gwahanol.
Monday, December 28, 2015
Cymru a dull pleidleisio STV
Gyda bod rhywun wedi cyrraedd y trothwy bydd ei bleidleisiau ychwanegol (hy y nifer sy'n uwch na'r trothwy) yn cael eu dosbarthu (yn unol a'r ail ddewis). Os nad oes rhywun yn cyrraedd y trothwy wedi rownd o gyfri, bydd yr ymgeiswyr ar y gwaelod yn cael eu tynnu allan a bydd eu hail (neu drydydd) pleidleisiau yn cael eu dosbarthu. Bydd y broses yma'n mynd rhagddi, tan y bydd pob sedd wedi ei llenwi - gan amlaf trwy gael y nifer anghenrheidiol o ymgeiswyr yn cyrraedd y trothwy. O ganlyniad bydd pob etholaeth efo mwy nag un aelod. Gall nifer o'r aelodau fod o'r un plaid (mae 5 o 6 aelod Cynulliad West Belfast yn perthyn i Sinn Fein er enghraifft), neu gall pob un fod o bleidiau gwahanol.
Sunday, December 27, 2015
Edrych ymlaen i 2016 - rhan 2
Saturday, December 26, 2015
Edrych ymlaen i 2016 - rhan 1
Thursday, December 24, 2015
Nadolig Llawen i holl ddarllenwyr Blogmenai
Wednesday, December 23, 2015
Etholiad Cyffredinol ar y ffordd i'r Ynys Werdd
Monday, December 21, 2015
Sunday, December 20, 2015
Ad drefnu llywodraeth leol a'r Gymraeg
Saturday, December 19, 2015
Cofiwch am ymgyrch codi pres Llanelli
Thursday, December 17, 2015
Mwy o lanast o Gaerdydd
W00000573 - ardal Gymreiciaf Cymru?
Gwleidydda mewn ysbyty unwaith eto
Wednesday, December 16, 2015
Pa mor ddi duedd ydi'r Sefydliad Materion Cymreig?
Monday, December 14, 2015
Ymgyrch brocsi Llafur
Sunday, December 13, 2015
Wel dyna ni neis
Yn ol WalesOnline Edwina Hart y Gweinidog Busnes, sydd wedi penodi'r bwrdd newydd. Trwy gyd ddigwyddiad llwyr mae Ms Beynon yn briod efo un o gyd weithwyr Ms Hart - Leighton Andrews, y Gweinidog Llywodraeth Leol.
Mae gan Ms Beynon hanes o gael ei phenodi i rolau cyhoeddus pwysig - digwyddodd rhywbeth tebyg yn 2010 - er mai'r Ysgrifennydd Gwladol Tros Gymru oedd yn gyfrifol am y penodiad y tro hwnnw.
Pwy fyddai wedi meddwl y gallai un person fod mor lwcus ddwywaith?
Y cyfle gorau i wneud cyfraniad ariannol gwleidyddol gwirioneddol effeithiol
Friday, December 11, 2015
Pa awdurdod sy'n cael toriad anferth - a pha rai sydd ddim
Wednesday, December 09, 2015
Cwis y diwrnod
GVA - o ddrwg i waeth
Roedd GVA y pen yng Nghymru ar gyfer 2014 yn 71.4% o gyfartaledd y DU. Mae hyn yn ddirywiad o’r ffigwr ar gyfer 2013, oedd yn 72.5%. Felly nid yn unig bod Cymru y tu ol i bob man arall yn y DU - ond mae'n syrthio ymhellach yn ol. Mae'n perfformio yn waeth na Gogledd Iwerddon - rhan o'r DU sydd ond wedi dechrau adfywio wedi degawdau o ryfela.
Tuesday, December 08, 2015
Crebwyll etholiadol gwych Llafur
Monday, December 07, 2015
Trydariad mwyaf bisar y diwrnod
Mwy am HS2 a Chymru
Mae yna ffrae wedi codi yn sgil y stori yn y Western Mail y bore yma (gweler blogiad ddoe) oedd yn ymwneud a'r ffaith na fydd Cymru yn elwa llawer yn ariannol o'r gwariant anferth (gallai ddod i £80bn erbyn y diwedd) ar y cynllun rheilffordd cyflymder ychel - HS2 - yn Lloegr. Fel sy'n digwydd yn aml gyda straeon am faterion cyllidol, mae perygl iddi gael ei chuddio y tu ol i niwl cymhlethdod dulliau ariannu llywodraethol - ond mae'r stori yn sylfaenol syml.
Dadl Llywodraeth San Steffan ydi bod Cymru'n cael ei than ariannu o gymharu a Gogledd Iwerddon a'r Alban oherwydd bod trafnidiaeth rheilffordd wedi ei ddatganoli i'r Alban a Gogledd Iwerddon tra nad ydi hynny'n wir am Gymru. Network Rail ydi'r asiantaeth sy'n gyfrifol am yr is adeiledd rheilffordd wrth gwrs. O ganlyniad 'dydi'r cynnydd mewn gwariant trafnidiaeth yn sgil HS2 ddim yn newid yng Nghymru, ond mae'n newid yn y ddwy wlad arall.
Y corff sy'n gyfrifol am ddarparu HS2 yw HS2 Limited, nid Network Rail. Yn wahanol i Network Rail, nid yw HS2 Limited wedi ei ddatganoli i'r Alban a Gogledd Iwerddon. Dydi Network Rail na HS2 Limited wedi ei ddatganoli i Gymru. Felly byddai rhywun yn disgwyl y byddai Cymru'n cael ei thrin yn gyfartal gyda'r Alban a Gogledd Iwerddon. Ond 'dydi hi ddim.
Mae'r Datganiad Polisi Cyllido Barnett yn nodi'n glir fod Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn derbyn ôl-daliad Barnett (y fformiwla sy 'n ariannu Cymru, yr Allban a G Iwerddon) o 100% yn sgil HS2 tra bod Cymru'n derbyn 0%. Mae hyn yn cael effaith ((cymharol) sylweddol ar yr arian sy'n dod i Gymru yn sgil y gydadran o Fformiwla Barnett sy'n cael ei yrru gan wariant yr Adran Drafnidiaeth yn ei chyfanrwydd - 91% i'r Alban, 91.3%.i Ogledd Iwerddon a 80.9% i Gymru.
Canlyniad hyn ydi y bydd Cymru yn cael rhywfaint o gynnydd £750m tros pum mlynedd efallai) mewn adnoddau o ganlyniad i'r cynnydd cyffredinol yng ngwariant yr Adran Drafnidiaeth yn sgil HS2, ond bydd y consequential Barnett yn sicrhau 3.39% o'r £55.7bn i Ogledd Iwerddon (£1.89bn), a bydd yr Alban yn cael 9.85% (£5.49bn), ond fydd Cymru'n cael dim o'r consequencial.
Mae'n ymddangos mai'r rheswm - neu esgus efallai - tros y gwahaniaeth yma ydi bod Llywodraeth San Steffan yn ystyried HS2 fel cynllun Cymru a Lloegr - er nad ydi'r rheilffordd newydd yn croesi modfedd o dir Cymru.
Mae anghenion Cymru wrth gwrs yn llawer mwy na rhai'r Alban yn sgil ei thlodi enbyd - a gellir gwneud dadl bod ei hanghenion yn fwy na rhai Gogledd Iwerddon hefyd. Egwyddor waelodol Barnett oedd bod gwledydd y DU yn cael eu hariannu ar sail angen. Nid dyna sy 'n digwydd - mae'r cyllido ar ei isaf lle mae'r angen fwyaf. Mae'r datblygiad yma yn atgyfnerthu yr anhegwch sylfaenol hwn.
Erbyn heddiw mae Llafur yn honni ei bod o blaid unioni anhegwch sylfaenol Barnett - ond cawsant dair blynedd ar ddeg i wneud hynny a wnaethon nhw ddim - ac ni roddwyd unrhyw bwysau ar Lywodraeth Llafur San Steffan gan y Blaid Lafur Gymreig i wneud hynny chwaith. Dydi hi ddim yn anodd gweld pam - byddai addasu Barnett yn golygu y byddai'r Alban yn cael llai o adnoddau - ac roedd Llafur yn gwybod yn iawn bod etholwyr yr Alban yn llawer llai dibenadwy na rhai Cymru. Roedd Llafur yn ofn yr SNP yn yr Alban, roedden nhw'n gallu dibynnu ar etholwyr Cymru i bleidleisio i Lafur - felly gellid anwybyddu eu anghenion.
Bai y Toriaid yn bennaf ydi'r datblygiad diweddaraf wrth gwrs - ond rydan ni'n disgwyl ychydig o sbeit gwrth Gymreig o bryd i'w gilydd o 'r cyfeiriad hwnnw - fel y gwelsom efo'r toriad arall yng nghyllideb S4C yn ddiweddar. Ond mae 'n ymddangos na wnaeth Llywodraeth Lafur Cymru unrhyw ymdrech o gwbl i roi pwysau ar San Steffan i ariannu Cymru yn yr un ffordd a mae'r gwledydd Celtaidd eraill yn cael eu hariannu mewn perthynas a HS2.
Ond fel soniais ddoe mae yna fwy iddi na hynny. Mae diffyg parch Llywodraeth San Steffan at Lywodraeth Cymru wedi creu'r canfyddiad yn Llundain nad oes rhaid cymryd Cymru o ddifri. Mae ymlwybro di gyfeiriad, di glem, di asgwrn cefn y weinyddiaeth Lafur ym Mae Caerdydd yn atgyfnerthu'r canfyddiad hwnnw o ddiwrnod ar ol diwrnod. Yr unig ffordd o newid hynny ydi peidio eu hethol i lywodraeth - a daw yna gyfle i wneud hynny ym Mis Mai.
Sunday, December 06, 2015
Tudalen flaen y diwrnod - 2
Friday, December 04, 2015
Cael ein llusgo i ryfel eto
Thursday, December 03, 2015
Cefnogwyr Cymreig y bomio
Y bomwyr Cymreig - diolch i Golwg360 am y rhestr.
ASau Cymru a gefnogodd y cynnig i fomio
Guto Bebb (Ceidwadwyr, Aberconwy)
Chris Bryant (Llafur, Rhondda)
Alun Cairns (Ceidwadwyr, Bro Morgannwg)
Stephen Crabb (Ceidwadwyr, Preseli Penfro)
Wayne David (Llafur, Caerffili)
Byron Davies (Ceidwadwyr, Gwyr)
Chris Davies (Ceidwadwyr, Brycheiniog a Maesyfed)
David Davies (Ceidwadwyr, Sir Fynwy)
Glyn Davies (Ceidwadwyr, Sir Drefaldwyn)
James Davies (Ceidwadwyr, Dyffryn Clwyd)
Stephen Doughty (Llafur, De Caerdydd a Phenarth)
Simon Hart (Ceidwadwyr, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro)
David Jones (Ceidwadwyr, Gorllewin Clwyd)
Susan Elan Jones (Llafur, De Clwyd)
Craig Williams (Ceidwadwyr, Gogledd Caerdydd)



















































